Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/06/2024

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI)

Mae Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig Adneuo. Mae'n cynnwys sawl gofyniad statudol mewn un ddogfen sy'n galluogi asesiad mwy tryloyw a chyfannol o oblygiadau cynaliadwyedd y cynigion a geir yn y CDLl diwygiedig.

Mae'n cynnwys yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd (AC) a'r Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) ar y cyd, ochr yn ochr ag Asesiad o'r Effaith ar yr iaith Gymraeg (AEIG), Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, elfennau o Asesiad o'r Effaith ar Iechyd, Nodau Llesiant Lleol a Chenedlaethol, ac ystyriaethau eraill sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, gan gynnwys Datganiad Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ddyletswydd Adran 6 (i gynnal a gwella bioamrywiaeth, a hybu cydnerthedd ecosystemau).

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC)

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae'n ofynnol i'r cyngor asesu a yw'r CDLl diwygiedig yn debygol o gael effaith sylweddol ar integredd unrhyw Safle Ewropeaidd ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill. Gelwir y broses orfodol hon yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac fe'i cynhelir drwy gydol y gwaith o baratoi'r CDLl diwygiedig.

 

Cynllunio