Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033

Diweddarwyd y dudalen ar: 20/02/2023

Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn pennu cynigion a pholisïau ar gyfer y defnydd o'r holl dir yn y dyfodol ac mae'n rhan o fframwaith y cynllun datblygu ar gyfer Cymru. Mae'r CDLl yn cwmpasu cyfnod o bymtheg mlynedd a dylai adlewyrchu'r polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru.

Yng nghyfarfod y Cyngor ar 10 o Ionawr 2018 penderfynwyd paratoi CDLl diwygiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Mae amserlen paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig wedi'i nodi o fewn y Cytundeb Cyflawni (DA) y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru ar 28 Mehefin 2018 gyda'r fersiwn ddiweddaraf wedi ei chytuno yn Awst 2022. Ar ôl iddo gael ei fabwysiadu (ei gwblhau), defnyddir y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig fel sail ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio a bydd yn helpu i lywio rhaglenni buddsoddi yn y dyfodol mewn meysydd megis seilwaith yn ogystal â Chynlluniau a strategaethau gan gynnwys rhai gan sefydliadau partner.

Oedi i Amserlen y CDLl Diwygiedig a’r Ail Gynllun Adneuol

Gohiriwyd y gwaith o gynhyrchu'r CDLl Diwygiedig yn sgil cyhoeddi targedau newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n ceisio lleihau lefelau ffosffad afon mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonol ar draws Cymru.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Gwy ac Afon Cleddau mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Ar hyn o bryd mae Afon Teifi, Afon Cleddau ac Afon Gwy yn methu o ran targedau CNC.

Mewn ymateb i'r targedau newydd hyn a'r heriau y maent yn eu cyflwyno rydym wedi bod yn gweithio i ail-asesu goblygiadau'r targedau newydd ar gyfer y CDLl Diwygiedig a'r dyraniadau datblygu mewn dalgylchoedd sensitif i ffosffadau. Yn ogystal â thargedau newydd CNC, mae sawl mater arall wedi codi ers eu cyhoeddi a fydd yn effeithio ar y CDLl ac sydd angen eu hystyried ymhellach.

Felly, mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 9 Mawrth 2022, cytunodd Cynghorwyr Sir Caerfyrddin ganiatáu newidiadau i amserlen y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig ac i baratoi ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo. Mae hyn er mwyn rhoi amser i werthuso'r goblygiadau, i gasglu data a thystiolaeth hanfodol, ac i ddatblygu opsiynau lliniaru i fynd i'r afael â'r mater ffosffad Bydd yr ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo yn ymgorffori Newidiadau Penodol (lle maent yn parhau i fod yn berthnasol) a gytunwyd yn flaenorol o ganlyniad i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo cyntaf. Bydd hefyd yn adlewyrchu ac yn ymateb i adfer yn sgil Covid-19, yr agenda carbon sero net a datgarboneiddio, Nodyn Cyngor Technegol 15 / Mapiau Llifogydd Diwygiedig sydd i ddod, a Cymru’r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar ail Gytundeb Cyflawni diwygiedig ym mis Awst 2022. Mae'r ail CDLl Adneuo wedi'i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion yw 16:30 ar 14 Ebrill 2023. Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar "Cynllun Adneuo" uchod.

Hyd nes y caiff y CDLl Diwygiedig ei fabwysiadu, bydd y CDLl 2006-2021 presennol yn parhau i fod ar waith ar gyfer pob penderfyniad cynllunio, yn unol â chyngor a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynllunio