Datblygu sylfaen o dystiolaeth

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/02/2024

Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) fod yn “gadarn” ac i hyn gael ei brofi drwy archwiliad annibynnol. I sicrhau “cadernid” mae'n ofynnol i ni fel Awdurdod Cynllunio Lleol gasglu a dangos y defnydd o dystiolaeth ar gyfer y materion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd perthnasol.

Mae'r broses hon yn dechrau drwy nodi'r prif faterion a'r amcanion y mae'r CDLl yn mynd i'r afael â nhw. Disgrifir proses y cynllun fel un lle rhoddir pwysau ar y “pen blaen” gan fod y rhan fwyaf o'r gwaith o ran datblygu tystiolaeth ac ymgynghori â'r gymuned yn cael ei wneud yn gynnar, cyn bod y cynllun drafft yn cael ei gynhyrchu.

Mae nifer o drafodaethau wedi cael ei chynnal fel rhan o baratoi’r Cynllun. Maent ar gael isod i'w lawrlwytho.

Mae'r dogfennau hyn ar gael ar gais:

  • Crynodeb Asesiad Farchnad Dai Leol Canolbarth a De-orllewin Cymru ar gyfer Sir Gâr 2019 Cyhoeddwyd Hydref 2020
  • Tystiolaeth Marchnad Tai Asesu Tai Canolbarth a De-Orllewin Cymru ar gyfer: Canolbarth a De-Orllewin Cymru 2019 Cyhoeddwyd Hydref 2020
  • 'Asesiad Strategol O Ganlyniadau Llifogydd Cam 1 - De-orllewin Cymru, Atodiad A.2 Mapiau perygl llifogydd'
  • Adroddiad Technegol ar gyfer Cynllun Gweithredu Dros Dro Niwtraliaeth Maethynnau
  • Cyngor ar AGA Afon Twyi gan

 

Cynllunio