Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Ail Adneuo

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/07/2024

Mae'r CDLl Diwygiedig Adneuo yn gosod strategaeth, gweledigaeth, polisïau strategol a phenodol, cynigion a dyraniadau datblygu. Mae'r Cynllun yn cwmpasu ardal Sir Gaerfyrddin ac eithrio'r Parc Cenedlaethol.

Mae'r CDLl Diwygiedig Adneuo yn nodi ac yn dyrannu tir at ddibenion tai a chyflogaeth ac yn nodi ymhle y mae hawl defnyddio'r tir i'r dibenion hyn ac eraill. Mae hefyd yn nodi'r meysydd lle mae polisïau a gynlluniwyd i warchod a gwella'r amgylchedd rhag datblygiadau amhriodol yn berthnasol.

Cyhoeddwyd y CDLl Diwygiedig Adneuo cyntaf ar 29 Ionawr 2020 ac estynnwyd y cyfnod ymgynghori tan 27 Mawrth 2020. Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori pellach ar y Cynllun rhwng 11 Medi a 2 Hydref 2020. I weld y fersiwn hon o'r Cynllun, cliciwch ar y bocs "Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf" isod.

Cyhoeddwyd yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad ar 17 Chwefror 2023 a chaeodd yr ymgynghoriad ar 14 Ebrill 2023.

Ni fydd sylwadau a gyflwynir fel rhan o'r ymgynghoriad ar y CDLl Adneuo Diwygiedig cyntaf bellach yn cael eu hystyried. Dim ond y rhai a gyflwynir fel rhan o'r ail Gynllun Adneuo fydd yn cael eu hystyried a'u hanfon ymlaen at yr Arolygydd. Mae'n rhaid i unrhyw sylwadau blaenorol fod wedi’u hailgyflwyno fel rhan o’r ymgynghoriad ar yr ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo.

Mae dogfennau ategol pellach ar gael fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth.

Cliciwch yma am nodiadau canllaw ar ddefnyddio'r Map Rhyngweithiol

Gweld Sylwadau

Yn y Datganiad Ysgrifenedig Rhyngweithiol: Gellir gweld sylwadau a wnaed yn briodol i’r 2il CDLl Diwygiedig Adneuo trwy glicio ar yr eicon chwyddwydr wrth ymyl y safle, mater neu bolisi y mae gennych ddiddordeb ynddo a bydd crynodeb o’r holl sylwadau a gyhoeddwyd yn cael eu rhestru, ynghyd â’r atodiadau a gyflwynwyd.

Adroddiad Ymgynghori – Atodiad 12: Yn cynnwys crynodeb o'r Sylwadau a'r ymatebion iddynt. Mae hypergysylltiadau wedi'u cynnwys yn yr adroddiad sy'n agor unrhyw atodiadau a gyflwynwyd. Gellir gweld Atodiad 12 yma: Microsoft Word - Atodiad 12 (llyw.cymru)

Gellir gweld map rhyngweithiol yma o gynrychioliadau ar sail safle: Carmarthenshire County Council – Local Plan: 2nd Deposit Revised LDP Reps April 2023 (opus4.co.uk)

 

Cynllunio