Ymestyn / newid eich cartref
5. Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
Yn achos unrhyw waith adeiladu o fewn 6 metr i seiliau cartref cyfagos neu wal gydrannol bresennol, mae’n bosibl y bydd angen ichi rybuddio perchennog yr eiddo hwnnw o’ch bwriadau, o leiaf mis cyn ichi ddechrau ar y gwaith.
Yn achos gwaith ar wal gydrannol bresennol, mae angen ichi roi o leiaf dau fis o rybudd o’ch bwriadau. Os na ellir cael caniatâd i wneud y gwaith dylid dilyn gweithdrefnau sy’n ymdrin ag unrhyw anghydfod (Deddf Waliau Cydrannol 1996).