Croeso i'w Hwb cynllunio
Diweddarwyd y dudalen ar: 20/01/2025
Rydym yn gyffrous i gyflwyno ein tudalen Cwestiynau Cyffredin ryngweithiol newydd, "Croeso i'r Hwb Cynllunio." Mae’r gwasanaeth rhithwir hwn wedi’i gynllunio i wella eich profiad gyda’r Hwb Cynllunio drwy ddarparu mynediad cyflym a hawdd at atebion ar gyfer y cwestiynau a’r senarios mwyaf cyffredin.
Yn draddodiadol, mae Hwb Cynllunio wedi bod ar gael dros y ffôn ac e-bost. Fodd bynnag, mae ein hofferyn rhyngweithiol newydd yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys ceisiadau cynllunio, gorfodi cynllunio, cyngor cynllunio, draenio cynaliadwy, adeiladau rhestredig a chadwraeth, ac ecoleg cynllunio. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i chi ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Rydym yn annog pawb i ddefnyddio'r offeryn rhyngweithiol hwn. Fe'i cynlluniwyd i arbed amser i chi a rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar flaenau eich bysedd.
Diolch am ddefnyddio'r Hwb Cynllunio. Edrychwn ymlaen at eich helpu!
Dewiswch eich ymholiad
Mae gennyf ymchwiliad gorfodi cynllunio
Mae angen cyngor cynllunio arnaf
Mae angen help arnaf gyda'r ffurflenni ceisiadau cynllunio a ffioedd
Mae gennyf ymholiad ynghylch draenio cynaliadwy
Mae gennyf ymholiad ynghylch adeiladau rhestredig a chadwraeth
Mae gen i ymholiad ynghylch Cynllunio Ecoleg
Beth yw eich ymholiad?
Mae angen i mi siarad â'r swyddog cynllunio
Sut y gallaf gyflwyno sylw ar gais cynllunio?
Sut y gallaf apelio mewn perthynas â chais cynllunio?
Rwyf wedi cael llythyr i ddweud bod fy nghais yn annilys
A yw fy nghais yn mynd i'r pwyllgor cynllunio?
Rwyf am ganslo neu dynnu fy nghais yn ôl
Mae angen i mi wneud newidiadau i'm cais cynllunio presennol
Mae angen help arnaf gyda hysbysiad safle ar gais presennol
Mae angen diweddariad arnaf ar gais cynllunio presennol
Os ydych wedi cyflwyno cais drwy drydydd parti, cysylltwch â'ch asiant neu'ch ymgynghorydd cynllunio.
Os ydych wedi cyflwyno cais yn annibynnol, rydym yn gofyn i chi olrhain eich cais cynllunio ar-lein, gan gynnwys gweld unrhyw sylwadau sydd wedi dod i law drwy fynd i Chwilio am Gais Cynllunio.
Os oes gennych ymholiadau sydd heb eu hateb, gallwch anfon e-bost at HWBcynllunio@sirgar.gov.uk
Caniatewch hyd at 3 wythnos ar ôl i'ch cais gael ei ddilysu i alluogi'r cais i symud ymlaen.
Gallwch weld gwybodaeth am holl gamau cais presennol ar ein Canllaw Ceisiadau Cynllunio.
Mae angen i mi siarad â'r swyddog cynllunio
Mae'r hwb cynllunio yn delio gyda holl ymholiadau swyddogion i alluogi'r swyddogion i symud eu llwyth achos yn ei flaen.
Os ydych wedi cyflwyno cais drwy drydydd parti, cysylltwch â'ch asiant neu'ch ymgynghorydd cynllunio.
Os ydych wedi cyflwyno cais yn annibynnol, rydym yn gofyn i chi olrhain eich cais cynllunio ar-lein, gan gynnwys gweld unrhyw sylwadau sydd wedi dod i law drwy fynd i Chwilio am Gais Cynllunio.
Os oes gennych ymholiadau sydd heb eu hateb, gallwch anfon e-bost at HWBcynllunio@sirgar.gov.uk
Caniatewch hyd at 3 wythnos ar ôl i'ch cais gael ei ddilysu i alluogi'r cais i symud ymlaen.
Gallwch weld gwybodaeth am holl gamau cais presennol ar ein Canllaw Ceisiadau Cynllunio.
Sut y gallaf gyflwyno sylw ar gais cynllunio?
Os hoffech wneud sylwadau ar ddatblygiad arfaethedig, mae'n rhaid i chi wneud hynny yn ystod y cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod.
Gall unrhyw un wneud sylwadau, cyn belled â'u bod yn nodi eu manylion personol, a gall y sylwadau fod yn wrthwynebiadau, yn gefnogaeth neu'n sylwadau am y cais.
Ni allwn dderbyn sylwadau gan unrhyw un sy'n dymuno aros yn ddienw. Rydym yn gofyn i chi gyflwyno'ch sylw ar-lein drwy ein gwe-dudalen Cais Presennol a mynd i 'Sylwadau ar gais cynllunio'.
Sut y gallaf apelio mewn perthynas â chais cynllunio?
Mae gan ymgeiswyr hawl statudol i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio, yr amodau sydd wedi'u hatodi i'r caniatâd yr ystyrir eu bod yn afresymol, neu os ydym wedi methu â gwneud penderfyniad o fewn y cyfnod statudol o 8 wythnos ac nid oes cytundeb i estyn y cyfnod amser.
Hefyd, gall unrhyw berson y cyflwynwyd Hysbysiad Gorfodi iddo apelio. Nid oes hawl i apelio ar gyfer trydydd partïon yng Nghymru.
Bydd angen gwneud yr holl apeliadau ar-lein drwy ein gwe-dudalen bwrpasol Apeliadau.
Rwyf wedi cael llythyr i ddweud bod fy nghais yn annilys
Bydd yr hysbysiad yn nodi yn union pam mae'r cais yn annilys.
Mae'n rhaid i chi fynd i'r afael â'r materion hyn cyn ailgyflwyno'ch cais.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am ofynion Dilysu ar ein gwefan: Dilysu.
Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ymgysylltu ag Asiant Cynllunio. Maent yn arbennig o ddefnyddiol i unigolion sydd heb fawr ddim gwybodaeth am y broses gynllunio.
A yw fy nghais yn mynd i'r pwyllgor cynllunio?
Gellir gwneud penderfyniad ar gais naill ai o dan bwerau dirprwyedig neu drwy bwyllgor cynllunio yn seiliedig ar lawer o ffactorau.
Gallwch weld recordiadau blaenorol o gyfarfodydd y pwyllgor cynllunio, y protocol cyfranogi a gwybodaeth bellach yma Pwyllgor Cynllunio.
Rwyf am ganslo neu dynnu fy nghais yn ôl
Os ydych am ganslo, rhaid i'r swyddog cynllunio awdurdodi hyn o fewn 6 diwrnod gwaith.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio hwbcynllunio@sirgar.gov.uk i roi gwybod eich bod yn dymuno canslo'ch cais/ei dynnu'n ôl. Sicrhewch eich bod yn cynnwys rhif eich cais.
Mae angen i mi wneud newidiadau i'm cais cynllunio presennol
Os ydych yn dymuno newid eich cais cyn i benderfyniad gael ei wneud arno, bydd angen i chi ddarparu cynlluniau diwygiedig i ni. Byddwch yn ymwybodol y bydd cyflwyno cynlluniau diwygiedig yn ymestyn y cyfnod ystyried. Yn ogystal, codir ffi ar gyfer newidiadau i Geisiadau Cynllunio Mawr.
Gofynnir i chi anfon yr holl gynlluniau neu ddogfennau diwygiedig at Gofrestru Cynllunio REGPlanningRegistrations@sirgar.gov.uk gan nodi'r cyfeirnod cynllunio yn y blwch pwnc.
Mae angen help arnaf gyda hysbysiad safle ar gais presennol
Fel awdurdod cynllunio lleol mae'n ofynnol i ni, yn ôl y gyfraith, roi cyhoeddusrwydd i bob cais cynllunio. Gall hyn gynnwys unrhyw un o'r canlynol: hysbysebion mewn papur newydd lleol, hysbysiadau ar y safle a hysbysiadau i gymdogion.
Os ydych wedi gweld hysbysiad ar y safle ac yn dymuno gwneud sylwadau ar y cais cynllunio hwn, gallwch wneud hynny ar ein gwefan a dewis 'gwneud sylw ar gais cynllunio’: Cais Presennol.
Mae sut y mae'r cais yn cael cyhoeddusrwydd yn cael ei bennu gan y swyddog cynllunio penodedig. Os oes gennych unrhyw faterion neu sylwadau ynghylch yr hysbysiad ar y safle ar gais presennol, e-bostiwch hwbcynllunio@sirgar.gov.uk
Mae gennyf ymchwiliad gorfodi cynllunio
Mae angen i mi siarad â swyddog gorfodi
Gwirio a yw rhywun wedi cael caniatâd cynllunio
Pa mor hir y mae gorfod yn ei gymryd?
A yw fy manylion yn cael eu cadw'n gyfrinachol wrth roi gwybod am achos o dorri rheolau cynllunio?
Beth yw'r diweddariad ar achos gorfodi?
Sut y gallaf apelio yn erbyn fy hysbysiad gorfodi?
Mae angen i mi roi gwybod am gŵyn perth uchel
Mae angen i mi roi gwybod am achos o dorri rheolau cynllunio
Cyn i chi ofyn i ni ymchwilio i achos o dorri rheolau cynllunio, a oeddech yn gwybod nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o waith adeiladu? Gelwir hyn yn ddatblygiad a ganiateir. Os nad ydych yn siŵr beth sy'n cael ei ganiatáu ac nad yw'n cael ei ganiatáu ewch i: Caniatâd cynllunio: prosiectau cyffredin | Is-bwnc.
Gofynnwn i chi fynd i'n gwe-dudalen Torri rheolau cynllunio i ddarllen y canllawiau a'n Datganiad Gorfodi.
Os hoffech barhau i roi gwybod am Achos o Dorri Rheolau Cynllunio, rhaid i chi wneud hyn ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen gyswllt hon - Torri rheolau cynllunio.
Mae angen i mi siarad â swyddog gorfodi
Mae'r hwb cynllunio yn delio gyda'r holl ymholiadau gorfodi.
Yn achos materion gorfodi, sylwch y gall gymryd hyd at 12 wythnos i gwblhau'r cam ymchwilio oherwydd y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn a nifer yr achosion y mae'r Cyngor yn eu derbyn. Gofynnwn i chi beidio â chysylltu â ni o fewn y cyfnod hwn i gael unrhyw ddiweddariadau.
Os hoffech roi tystiolaeth ychwanegol ar gyfer achos presennol, e-bostiwch Gorfodaeth.Cynllunio@sirgar.gov.uk
Gwirio a yw rhywun wedi cael caniatâd cynllunio
Gallwch ddefnyddio'r opsiwn "Chwilio yn ôl Map" ar ein gwefan drwy roi'r cyfeiriad gan gynnwys y côd post.
Edrychwch ar ein system fapio yma Fy Un Agosaf - Gwybodaeth gynllunio.
Pa mor hir y mae gorfod yn ei gymryd?
Byddem yn eich cynghori i fynd i'n Canllaw i Orfodi Rheolau Cynllunio yn Sir Gaerfyrddin, i weld 'Sut y bydd y Cyngor yn delio â'ch cais am wasanaeth?' bydd hyn yn rhoi'r amserlenni i chi ar gyfer pob cam o'r broses.
A yw fy manylion yn cael eu cadw'n gyfrinachol wrth roi gwybod am achos o dorri rheolau cynllunio?
Gofynnir i chi roi eich manylion wrth roi gwybod am achos o dorri rheolau cynllunio.Bydd eich manylion yn aros yn gyfrinachol.
Ni dderbynnir cwynion dienw a bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i lenwi'r ffurflen.
Yn ystod yr ymchwiliad efallai y bydd angen i ni weithio gyda sefydliadau partner megis yr heddlu, ni fyddwn yn rhannu eich manylion personol gydag unrhyw un arall heb eich caniatâd.
Gallwch weld ein datganiad preifatrwydd yn ein "Canllaw i Orfodi Rheolau Cynllunio yn Sir Gaerfyrddin" ar y wefan: Sut y gellir rhoi gwybod am fater gorfodi?
Beth yw'r diweddariad ar achos gorfodi?
Nid ydym yn rhoi unrhyw ddiweddariadau yn ystod y cam ymchwilio.
Rhoddir gwybod am ganlyniad 'Cam Ymchwilio' cwynion achosion gorfodi yn ysgrifenedig o fewn 12 wythnos (84 diwrnod) ar ôl eu derbyn.
Sut y gallaf apelio yn erbyn fy hysbysiad gorfodi?
Os ydych wedi cael hysbysiad gorfodi yr ydych yn anghytuno ag ef, yna gallwch apelio i'r asiantaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Rhaid i Benderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru dderbyn apêl cyn y dyddiad y daw'r hysbysiad gorfodi i rym. Ar ôl cyflwyno apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi, ni fydd y mater yn cael ei drin hyd nes y bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi. Nid yw erlyn yn bosibl ar yr adeg hon. Gweler y ddolen i wefan y Llywodraeth: Apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi cynllunio.
Mae angen i mi roi gwybod am gŵyn perth uchel
Ni allwn helpu gydag anghydfodau ynghylch ffiniau neu ymsuddiant; rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Chyngor ar Bopeth drwy ffonio 0800 702 2020.
Dim ond os bydd popeth arall yn methu o ran eich cwyn perth uchel y dylech ofyn i ni ymwneud â'r mater. Os byddwch yn penderfynu gwneud cwyn bydd angen i chi roi tystiolaeth eich bod wedi ceisio datrys y sefyllfa gyda'ch cymydog. Cadwch gofnod o ddyddiadau a disgrifiad byr o'r hyn rydych wedi'i wneud, sut y gwnaethoch gysylltu â nhw, pwy oedd yn bresennol os oeddech wedi cwrdd a beth oedd y canlyniad.
Ewch i'n gwe-dudalen benodol Torri rheolau cynllunio i sicrhau eich bod yn bodloni'r holl ofynion i wneud cwyn.
Mae angen cyngor cynllunio arnaf
Beth yw datblygiad a ganiateir?
Mae gennyf ymholiad ynghylch newid defnydd
Mae angen cyngor cynllunio arnaf
Mae rhaid i mi ddod o hyd i gais cynllunio
Rwyf eisiau mwy o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
Mae gennyf ymholiad adran 106
A allaf wneud cais trwy'r GDLl
Sut ydw i'n newid neu ddiwygio amod ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud
A fydd ffosffadau yn effeithio ar fy nghais cynllunio?
Mae angen i mi wirio a oes angen caniatâd cynllunio arnaf
Os oes gennych dir i ddatblygu tir byddem yn gofyn i chi gyflwyno eich syniadau yma: Cam Cyn Cyflwyno Cais
Efallai y byddwch am ymgysylltu ag asiant cynllunio, eglurir manteision gwneud hynny yma: A oes angen Asiant Cynllunio arnaf?
Os ydych yn dymuno newid defnydd adeilad, ewch i Newid Defnydd (Cynllunio).
Os hoffech wneud unrhyw newidiadau i eiddo presennol, gofynnir i chi gyflwyno'ch syniadau yma: Estyn / newid eich cartref
Beth yw datblygiad a ganiateir?
Ystyr datblygiad a ganiateir yw datblygiad y gellir ei gyflawni heb angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio, gan ei fod wedi'i gymeradwyo gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, fel y'i diwygiwyd i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau cynllunio i gefnogi ei gwasanaeth ymgeisio. Mae'r canllawiau'n ymwneud â chyngor ynghylch rheoliadau cynllunio ac adeiladu ar gyfer nifer o brosiectau gwaith adeiladu cyffredin ar gyfer y cartref. Mae'r cyngor yn benodol i reolau cynllunio ac adeiladu yng Nghymru.
Bydd angen i chi bennu a yw'r datblygiad yn bosibl heb angen cyflwyno cais cynllunio. Gellir gwneud rhai newidiadau o dan ddatblygiad a ganiateir.
Dilynwch y ddolen i ddod o hyd i rai prosiectau deiliaid tai cyffredin a all fod o dan ddatblygiad a ganiateir: Caniatâd cynllunio: prosiectau cyffredin
Mae gennyf ymholiad ynghylch newid defnydd
Rydym yn argymell eich bod yn mynd i'n gwe-dudalen newid defnydd. Bydd hyn yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch: Newid Defnydd (Cynllunio).
Mae angen cyngor cynllunio arnaf
Ni fyddem yn gallu cynghori'n ffurfiol ar unrhyw syniadau datblygu, hyd nes y derbynnir yr holl fanylion perthnasol ynghylch y cynnig drwy gais i'w adolygu.
Bydd angen ystyried lluniadau a chynlluniau manwl, ymysg pethau eraill, ac efallai y bydd angen ymgynghoriadau gan adrannau perthnasol eraill cyn gallu cynghori ymhellach.
Efallai yr hoffech chi ymgysylltu ag asiant cynllunio neu ymgynghorydd cynllunio, os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflenni neu i gael gwybodaeth am y broses. A oes angen Asiant Cynllunio arnaf?
Fodd bynnag, mae'r awdurdod yn cynnig gwasanaeth cyn cyflwyno cais sy'n caniatáu i ddarpar ymgeiswyr gael cyngor ynghylch unrhyw ddatblygiadau arfaethedig os hoffech wneud y gwiriadau priodol ar y cynnig i ddechrau cyn ymrwymo i gais llawn.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan drwy ddefnyddio'r ddolen gyswllt ganlynol: Cam Cyn Cyflwyno Cais
Mae rhaid i mi ddod o hyd i gais cynllunio
Gallwch naill ai chwilio yn ôl map, cyfeiriad neu gyfeirnod cynllunio ar ein gwefan: Chwilio am Gais Cynllunio
Rwyf eisiau mwy o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn pennu cynigion a pholisïau ar gyfer y defnydd o'r holl dir yn y sir yn y dyfodol (ac eithrio'r rhan sydd wedi'i chynnwys ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) ac mae'n rhan o fframwaith y cynllun datblygu ar gyfer Cymru. Mae'r CDLl yn cwmpasu cyfnod o bymtheg mlynedd a dylai adlewyrchu'r polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru. Gallwch weld gwybodaeth llawn ar ein gwefan: Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
Mae gennyf ymholiad adran 106
Fel rhan o'r broses gynllunio, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i ddatblygwr wneud cytundeb cyfreithiol lle nad oes modd gwneud hyn drwy amodau cynllunio. Gelwir y cytundebau cyfreithiol hyn hefyd yn Rwymedigaethau Cynllunio neu'n Gytundebau Adran 106 ac fe'u diogelir yn unol ag Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd).
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma: Gwybodaeth Allweddol
A allaf wneud cais trwy'r GDLl
Rydym wedi sefydlu 'Tasglu' gyda'r bwriad o oruchwylio gwaith adfywio canol trefi. Un mater allweddol y mae'r tasglu am fynd i'r afael ag ef yw nifer yr unedau manwerthu gwag yng nghanol y trefi. Mae'r cyfraniad posibl y gallai'r newid hwn o ran polisi cynllunio ei wneud i hwyluso buddsoddi a helpu i gymell datblygiad yn cael ei nodi. Proses sy'n cynnwys dau gam yw hon. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ymgeiswyr gael Tystysgrif Cydymffurfiaeth ac yna Cymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn.
Ewch i'n gwe-dudalen: Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLI)
Sut ydw i'n newid neu ddiwygio amod ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud
Os oes angen i chi wneud cais am ddileu neu amrywio amod yr ydym wedi'i atodi i'ch caniatâd cynllunio cyn y gallwch ddechrau unrhyw waith. Gallwch wneud hyn drwy ddod o hyd i'r ffurflen gais ar y porth cynllunio drwy'r ddolen gyswllt hon: Gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Mae dileu neu amrywio amod yn golygu eich bod wedi diwygio neu newid eich cynnig ac ni ddylid drysu rhwng hyn a rhyddhau amod. Efallai yr hoffech chi ymgysylltu ag asiant cynllunio neu ymgynghorydd cynllunio, os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflenni neu i gael gwybodaeth am y broses.
A fydd ffosffadau yn effeithio ar fy nghais cynllunio?
Mae rhagor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin am dargedau ffosffadau a'r hyn y mae'n ei olygu i'ch datblygiad ar gael yma: Ffosffadau - Cwestiynau Cyffredin
Mae angen help arnaf gyda'r ffurflenni ceisiadau cynllunio a ffioedd
Faint sydd angen i mi ei dalu?
Gellir gweld ein rhestr ffioedd llawn ar ein gwe-dudalen benodol: Canllaw i'r Ffioedd Newydd ar gyfer Ceisiadau Cynllunio
Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ymgysylltu ag Asiant Cynllunio. Maent yn arbennig o ddefnyddiol i unigolion sydd heb fawr ddim gwybodaeth am y broses gynllunio.
Nid wyf yn gwybod pa ffurflen gais y mae angen i mi ei defnyddio? Rwy'n chwilio am ffurflen gais benodol.
Gallwch wneud cais am bob cais ar-lein, mae gennym y rhestr lawn yma: Mathau o Geisiadau Cynllunio.
Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ymgysylltu ag Asiant Cynllunio. Maent yn arbennig o ddefnyddiol i unigolion sydd heb fawr ddim gwybodaeth am y broses gynllunio.
Mae gennyf ymholiad ynghylch draenio cynaliadwy
Mae angen help arnaf gyda chais SUDS/SAB yr wyf wedi'i gyflwyno
Ar ôl i'r holl wybodaeth ddod i law, er boddhad y swyddog SAB, bydd ganddo 7 wythnos i wneud penderfyniad ynghylch cais; fodd bynnag, os yw'r cais yn destun Asesiad Effaith Amgylcheddol bydd gan y SAB 12 wythnos i wneud penderfyniad.
Os oes angen i chi roi gwybod i ni fod y gwaith wedi dechrau neu ein hysbysu bod y gwaith wedi gorffen ac mae angen archwiliad safle arnoch, e-bostiwch - hwbcynllunio@sirgar.gov.uk
Mae angen cyngor arnaf ynghylch a oes rhaid i mi gyflwyno Cais SuDS
Os oes angen cyngor arnoch ynghylch a oes rhaid i chi gyflwyno Cais SuDS, neu os ydych ar ddechrau'r broses, ewch i'n gwefan: Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) ac adolygu ein tabiau gwybodaeth neu'r "Dolenni Cysylltiedig". Dylai'r rhain roi mwy o wybodaeth; cyngor, arweiniad, atebion i gwestiynau cyffredin, offer dylunio posibl a chyfleoedd hyfforddi i chi.
Mae gen i ddyluniad draenio ac rwyf am gael adborth
Os oes gennych ddyluniad draenio a hoffech gael adborth ar hyn cyn cyflwyno cais llawn, manteisiwch ar y cyfle i gyflwyno cais cyn ymgeisio am SuDS yn ffurfiol (ar hyn o bryd darperir asesiad). Mae Ffurflenni Cyn Cyflwyno Cais i'w gweld yn "Dogfennau i'w lawrlwytho" ar ein gwefan: Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS)
Mae gennyf gwestiwn sy'n ymwneud â, cyngor technegol gan y SAB
Byddwn ond yn gallu rhoi cyngor i chi os byddwch yn cyflwyno unrhyw gais. Gellir cyflwyno'r Ffurflen Cyn Cyflwyno Cais/Ffurflen Cais Llawn ar-lein drwy ein gwefan: Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS)
Mae gennyf ymholiad ynghylch adeiladau rhestredig a chadwraeth
Beth yw adeilad rhestredig?
Caiff adeiladau eu 'rhestru' os ystyrir eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae hyn yn golygu nid yn unig bod eich adeilad rhestredig yn bwysig i chi, ond hefyd yn bwysig i'ch cymuned leol ac yn cyfrannu at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. O dan y gyfraith mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru goladu rhestru o adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig a defnyddir y rhestru hyn i helpu awdurdodau cynllunio i wneud eu penderfyniadau er budd y dreftadaeth adeiledig. Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth.
Rwyf yn ystyried prynu adeilad rhestredig - beth sydd angen i mi ei wybod?
Wrth brynu adeilad rhestredig, mae'n bwysig nodi bod y 'rhestru' yn cyfeirio at yr adeilad cyfan. Wrth benderfynu ynghylch prynu adeilad rhestredig, dylech ystyried a all yr adeilad fodloni eich anghenion yn ei gyflwr presennol. Mae'n debygol y bydd unrhyw newidiadau i'r adeilad, gan gynnwys newidiadau i'r cynllun mewnol a chodi estyniadau yn destun caniatâd adeilad rhestredig ac ni fyddant yn cael eu cymeradwyo'n awtomatig.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth.
Sut y byddaf yn gwybod pa gynigion sy'n dderbyniol
Efallai yr hoffech gyflogi Pensaer Cadwraeth neu Ymgynghorydd Treftadaeth/Cynllunio sy'n gallu eich cynghori ymhellach yn ystod y cyfnod cynnar hwn. Bydd arolwg strwythurol llawn yn rhoi gwybodaeth am ddeunyddiau'r adeilad, ei gyflwr cyffredinol ac unrhyw bryderon. Bydd y wybodaeth yn amhrisiadwy wrth gynnal a chadw neu weithio ar eich adeilad. Gweler ein gwe-dudalen i gael rhagor o wybodaeth: Deall rhestru.
Mae gen i ymholiad ynghylch Cynllunio Ecoleg
A oes angen arolwg ystlumod arnaf?
Gofynnir am arolwg ystlumod pan fo angen ar gyfer asesu cais cynllunio. Os canfyddir bod ystlumod yn defnyddio'r adeilad lle bydd yr estyniad llawr cyntaf hwn yn effeithio arno, gall hyn effeithio ar liniaru. Fel yr ymgeisydd, efallai y byddwch yn dymuno cynnal arolwg cwmpasu/asesiad rhagarweiniol ar gyfer ystlumod (y gellir ei gynnal y tu allan i dymor y prif arolwg).
Os ceir arwyddion o ystlumod neu os oes posibilrwydd isel - uchel o ystlumod yn yr adeilad gyda nodweddion y gall ystlumod eu defnyddio ond nad ydynt yn hygyrch fel rhan o'r asesiad rhagarweiniol, bydd angen arolygon pellach yn ystod y tymor hedfan rhwng mis Mai a mis Awst/Medi. Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth Rhywogaethau a Chynefinoedd a Warchodir.
A oes gennyf Orchymyn Cadw Coed yn fy ngardd neu ar fy safle datblygu?
Gallwch ddefnyddio'r map ar ein gwefan i weld y gorchmynion cadw coed a'r ardaloedd cadwraeth presennol: Fy Un Agosaf - Gwybodaeth gynllunio
Mae angen i mi roi gwybod am gŵyn perth uchel
Ni allwn helpu gydag anghydfodau ynghylch ffiniau neu ymsuddiant; rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Chyngor ar Bopeth drwy ffonio 0800 702 2020.
Dim ond os bydd popeth arall yn methu o ran eich cwyn perth uchel y dylech ofyn i ni ymwneud â'r mater. Os byddwch yn penderfynu gwneud cwyn bydd angen i chi roi tystiolaeth eich bod wedi ceisio datrys y sefyllfa gyda'ch cymydog. Cadwch gofnod o ddyddiadau a disgrifiad byr o'r hyn rydych wedi'i wneud, sut y gwnaethoch gysylltu â nhw, pwy oedd yn bresennol os oeddech wedi cwrdd a beth oedd y canlyniad.
Ewch i'n gwe-dudalen benodol Torri rheolau cynllunio i sicrhau eich bod yn bodloni'r holl ofynion i wneud cwyn.