Canllaw Cais Cynllunio
Gwybodaeth Allweddol
Beth yw Rhwymedigaethau Cynllunio?
Fel rhan o’r broses gynllunio, efallai y gofynnir i ddatblygwr wneud cytundeb cyfreithiol lle na ellir gwneud hyn drwy amodau cynllunio. Adwaenir y cytundebau cyfreithiol hyn fel Rhwymedigaethau Cynllunio neu Gytundebau Adran 106 a chânt eu sicrhau yn dilyn Adran 106 o Ddeddf Gynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd).
I beth y maent yn cael eu defnyddio?
Gall Rhwymedigaethau Cynllunio gwmpasu unrhyw fater perthnasol bron, gan weithredu fel prif offeryn ar gyfer gosod cyfyngiadau ar ddatblygwyr, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt yn aml leihau’r effaith ar y gymuned leol a chyflawni tasgau fydd yn darparu budd i’r gymuned, a gallant gynnwys talu symiau o arian.
Fe'u defnyddir yn gyffredin i gysoni datblygiadau ag amcanion datblygu cynaliadwy. Enghreifftiau o fathau o seilwaith neu wasanaethau y gall rhwymedigaethau cynllunio eu cynnwys yw:
- Darparu Tai Fforddiadwy
- Mesurau penodol i liniaru effaith ar ardal leol – e.e. gwarchod neu reoli cynefinoedd
- Gwell cyfleusterau cymunedol – e.e. Mannau agored cyhoeddus/mannau chwarae, cyfleusterau addysgol
- Gwelliannau Priffyrdd
- Cyfyngiadau a rhwymedigaethau ar y defnydd o dir
Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Ymdrinnir â phob cais cynllunio yn unigol yn ôl ei deilyngdod ac efallai hefyd y bydd angen cyfyngiadau a gofynion nad ydynt ar y rhestr hon.
Fel arfer, defnyddir Rhwymedigaethau Cynllunio yng nghyd-destun ceisiadau cynllunio rhwng yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) a phersonau sydd â diddordeb yn y tir (Cytundeb Adran 106). Fodd bynnag, gellir rhoi Rhwymedigaethau Cynllunio yn unochrog i'r Cyngor gan y personau sydd â diddordeb yn y tir; gelwir y rhain yn Ymrwymiadau Unochrog (UU).
Mae UU yn ymrwymiad a gynigir gan yr ymgeisydd i’r ACLl gyda’r bwriad o oresgyn unrhyw rwystrau a all godi sy’n atal rhoi caniatâd cynllunio ac i gyflymu’r broses gyfreithiol a phenderfynu ar geisiadau cynllunio. Caiff UU ei ddrafftio gan ein Hadran Gyfreithiol.
Rhwymedigaethau Cynllunio – Canllawiau Cynllunio Atodol
Mae ein hagwedd at rwymedigaethau cynllunio wedi ei hegluro ym Mholisi GP3 ‘Rhwymedigaethau Cynllunio’ Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin. Ceir rhagor o fanylion am weithrediad y polisi hwn yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol (CCA) y Rhwymedigaethau Cynllunio yn ogystal ag yn y CCA Tai Fforddiadwy, CCA Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr a'r CCA Hamdden a Mannau Agored - Gofynion ar gyfer Datblygiadau Newydd.
Mae'r rhain ar gael ar dudalen we y Canllawiau Cynllunio Atodol.
Monitro
Bydd y Cyngor yn monitro rhwymedigaethau cynllunio er mwyn sicrhau bod y datblygwr a’r Cyngor yn cydymffurfio’n llawn â’r rhain. Dylid nodi mai cyfrifoldeb y datblygwr yw ein hysbysu ni pan fydd yn cychwyn ar y datblygiad a hefyd pan gyrhaeddir unrhyw sbardunau a bennwyd yn y cytundeb.
Os byddwch yn cytuno i ddarparu tai fforddiadwy fel rhan o’ch cais cynllunio, caiff ei ffurfioli fel cytundeb adran 106. Bydd hwn yn nodi naill ai’r ganran o dai fforddiadwy yr ydych yn cytuno i’w darparu (ceisiadau amlinellol) neu’r lleiniau a’r mathau o dai gwirioneddol (ceisiadau llawn neu faterion a gadwyd yn ôl).
Bydd prisiau gwerthu’r cartrefi hyn yn cael eu cyfyngu adeg y gwerthiant cychwynnol ac ar bob gwerthiant yn y dyfodol, yn seiliedig ar luosrifau o incwm canolrifol crynswth teuluoedd yn chwe ardal rhwydwaith cymunedol Sir Gaerfyrddin.
Caiff y ffigurau hyn eu diweddaru ym mis Tachwedd bob blwyddyn, ac ar hyn o bryd maent fel a ganlyn:
Caniatâd cynllunio ar ôl 1 Ebrill 2024
Ardal Gymunedol | Incwm teulu canolrifol | Fflat 1 ystafell wely | Fflat/tŷ 2 ystafell wely | Tŷ 3 ystafell wely 3 | Tŷ 4 ystafell wely |
---|---|---|---|---|---|
Aman | £32,317 | £82,408 | £112,786 | £134,762 | £159,969 |
Gwendraeth | £34,063 | £86,861 | £118,880 | £142,043 | £168,612 |
Llanelli | £30,374 | £77,454 | £106,005 | £126,660 | £150,351 |
Taf Myrddin | £33,907 | £86,463 | £118,335 | £141,392 | £167,840 |
Teifi | £31,823 | £81,149 | £111,062 | £132,702 | £157,524 |
Tywi | £34,852 | £88,873 | £121,633 | £145,333 | £172,517 |
Nodiadau:
1) Seiliedig ar ddata incwm teuluoedd a gyflenwyd fesul ward gan CACI Pay check, Rhagfyr 2023
2) Seiliedig ar 4.17 gwaith incwm canolrifol aelwyd ar gyfer tŷ 3 ystafell wely nodweddiado
Caniatâd cynllunio wedi’i gymeradwyo ar neu cyn 31 Mawrth 2024
Ardal Gymunedol | Incwm teulu canolrifol | Fflat 1 ystafell wely | Fflat/tŷ 2 ystafell wely | Tŷ 3 ystafell wely 3 | Tŷ 4 ystafell wely |
---|---|---|---|---|---|
Aman | £32,317 | £68,036 | £85,045 | £102,054 | £119,063 |
Gwendraeth | £34,063 | £71,712 | £89,639 | £107,567 | £125,495 |
Llanelli | £30,374 | £63,945 | £79,932 | £95,918 | £111,904 |
Taf Myrddin | £33,907 | £71,383 | £89,229 | £107,075 | £124,921 |
Teifi | £31,823 | £66,996 | £83,745 | £100,494 | £117,243 |
Tywi | £34,852 | £73,373 | £91,716 | £110,059 | £128,402 |
Nodiadau:
1) Seiliedig ar ddata incwm teuluoedd a gyflenwyd fesul ward gan CACI Pay check, Rhagfyr 2023
2) Yn seiliedig ar 3 gwaith incwm cartref canolrif ynghyd â blaendal o 5% ar gyfer tŷ 3 ystafell wely nodweddiadol
Hyfywedd
Os bydd arnoch eisiau herio hyfywedd eich datblygiad, cewch ddefnyddio Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu’r Cyngor.
Oes yna ddiffiniad o ddiwygiad ansylweddol?
Nid oes diffiniad statudol o ‘ansylweddol’. Mae hyn oherwydd y bydd yn dibynnu ar gyd-destun y cynllun yn gyffredinol – efallai y bydd diwygiad sy’n ansylweddol mewn un cyd-destun yn sylweddol mewn un arall. Rhaid inni gael ein bodloni bod y diwygiad y gofynnir amdano yn ansylweddol er mwyn caniatáu cais dan adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
A ellir gwneud cais i wneud diwygiad ansylweddol gan ddefnyddio'r ffurflen gais safonol?
Gellir. Gellir gwneud cais am ddiwygiad ansylweddol i ganiatâd cynllunio gan ddefnyddio’r ffurflen gais safonol. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses o wneud cais am ddiwygiad ansylweddol ar Wefan Llywodraeth Cymru.
A ellir defnyddio’r weithdrefn hon i wneud diwygiadau ansylweddol i ganiatâd adeilad rhestredig?
Na ellir. Ni ellir defnyddio’r weithdrefn i wneud diwygiadau ansylweddol i ganiatâd adeilad rhestredig. Dim ond i ganiatâd cynllunio y mae'n berthnasol.
Oes angen ymgynghori/cyhoeddusrwydd?
Gan nad yw cais i wneud diwygiad ansylweddol yn gais am ganiatâd cynllunio, nid yw darpariaethau presennol Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 sy’n ymwneud ag ymgynghori statudol a chyhoeddusrwydd yn berthnasol. Felly mae gennym ddisgresiwn o ran p'un a ydym yn dewis hysbysu partïon eraill â diddordeb neu’n ceisio barn neu beidio, a sut.
A all unrhyw un wneud cais am ddiwygiad ansylweddol?
Dim ond person sy’n berchen neu sydd â budd cyfreithiol yn y tir y mae’r diwygiad ansylweddol yn ymwneud ag ef, all wneud cais neu rywun arall sy’n gweithredu ar ei ran.
Y rhain yw:
- Rhydd-ddeiliad
- Deiliad prydles gyda thros ddwy flynedd yn weddill (boed fel prif ddeiliad prydles, is-ddeiliad prydles neu denant daliad amaethyddol)
- Codwr morgais
- Rhywun â chontract ystâd (h.y. y dewis i gaffael buddiant cyfreithiol yn y tir neu gontract i brynu’r tir)
Beth yw'r cyfnod o amser ar gyfer penderfynu?
Y cyfnod o amser ar gyfer penderfynu yw 28 diwrnod, neu gyfnod hwy os cytunwyd ar hynny yn ysgrifenedig rhwng y partïon.
Beth sy’n rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ei ystyried wrth wneud ei benderfyniad?
Rhaid inni roi sylw i effaith y newid, ynghyd ag unrhyw newidiadau blaenorol a wnaed o dan adran 96A. Gan nad yw cais a wneir o dan Adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn gais am ganiatâd cynllunio, nid yw ymgynghoriad statudol a chyhoeddusrwydd yn berthnasol. Felly, mae gan awdurdodau cynllunio lleol ddisgresiwn o ran a ydynt yn dewis hysbysu partïon eraill â diddordeb neu ofyn am eu barn, a sut y maent yn dewis gwneud hynny. Os bydd yr awdurdod cynllunio lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol ceisio barn parti â diddordeb, rhaid dweud wrth unrhyw un a hysbysir fod ganddo 14 diwrnod i wneud sylwadau o’r dyddiad hysbysu, ond ar ôl hynny efallai na chaiff ei sylwadau eu hystyried.
Beth yw'r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi penderfyniad?
Rhaid cyhoeddi'r penderfyniad yn ysgrifenedig. Nid oes ffurflen benodol ar gyfer hyn.
Beth ddylai llythyr y penderfyniad ei gynnwys?
Nid yw’r penderfyniad yn berthnasol i ddim ond i'r diwygiadau ansylweddol y gofynnwyd amdanynt a dylai'r hysbysiad o'r penderfyniad ddisgrifio'r rhain. Nid yw’n ailgyhoeddi’r caniatâd cynllunio gwreiddiol, sy’n dal i sefyll. Dylid darllen y ddwy ddogfen gyda'i gilydd.
Beth yw amrywio caniatâd cynllunio?
Diwygio’r amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd gan gynnwys gofyn am fân newidiadau sylweddol (cais o dan Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990)
Sut mae’r amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio yn cael eu diwygio?
Gellir gwneud cais o dan adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio neu ddileu amodau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio. Un o ddefnyddiau cais adran 73 yw gofyn am ddiwygio caniatâd cynllunio, lle bo amod berthnasol y gellir ei hamrywio.
Oes yna gyfyngiadau ar yr hyn y gellir defnyddio adran 73 ar ei gyfer?
Oes; ni ddylai'r amrywiad fod yn sylweddol wahanol i'r caniatâd cynllunio gwreiddiol.
Beth yw effaith rhoi caniatâd?
Pan ganiateir cais o dan adran 73, yr effaith yw rhoi caniatâd cynllunio newydd, sy’n eistedd ochr yn ochr â’r caniatâd gwreiddiol, sy’n parhau’n gyfan a heb ei ddiwygio.
Dylid cyhoeddi hysbysiad o benderfyniad sy'n disgrifio'r caniatâd newydd, gan nodi'r holl amodau sy'n gysylltiedig ag ef. Er mwyn cynorthwyo gydag eglurder, dylai hysbysiadau o benderfyniad am roi caniatâd cynllunio o dan adran 73 hefyd ailadrodd yr amodau perthnasol o’r caniatâd cynllunio gwreiddiol, oni bai eu bod eisoes wedi cael eu rhyddhau.
Os oedd y caniatâd gwreiddiol yn destun rhwymedigaeth gynllunio yna efallai y bydd angen i hyn fod yn destun gweithred amrywio.
A yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol yn berthnasol?
Ystyrir bod cais adran 73 yn gais newydd am ganiatâd cynllunio o dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol 2017. Lle mae’r datblygiad wedi’i restru naill ai o dan atodlen 1 neu atodlen 2 i’r Rheoliadau, ac yn bodloni’r meini prawf neu’r trothwyon a osodwyd, rhaid i ni gynnal ymarferiad sgrinio newydd a chyhoeddi barn sgrinio p’un a oes angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol neu beidio.
Lle cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar y cais gwreiddiol, bydd angen i ni ystyried a oes angen ychwanegu rhagor o wybodaeth at y Datganiad Amgylcheddol gwreiddiol i fodloni gofynion y Rheoliadau. P'un a oes angen newidiadau i'r Datganiad Amgylcheddol gwreiddiol ai peidio, rhaid cyflwyno Datganiad Amgylcheddol gyda chais adran 73 ar gyfer datblygiad y byddwn yn ei ystyried yn ddatblygiad Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.
A ellir defnyddio adran 73 i amrywio caniatâd cynllunio os nad oes amod perthnasol yn y caniatâd sy’n rhestru cynlluniau a gymeradwywyd?
Ni ellir defnyddio adran 73 i amrywio caniatâd cynllunio os nad oes amod perthnasol yn y caniatâd sy’n rhestru’r cynlluniau a gymeradwywyd yn wreiddiol.
Mae modd ceisio ychwanegu amod yn rhestru cynlluniau gan ddefnyddio cais o dan adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Byddai hyn wedyn yn ei gwneud yn bosibl defnyddio cais adran 73 i amrywio caniatâd cynllunio.
Mae gwybodaeth ar sut i amrywio amodau cynllunio ar gael yma.
Prif swyddogaeth y gwasanaeth Rheoli Adeiladu yw diogelu iechyd pobl ynghyd â'u cadw'n ddiogel yn yr amgylchedd adeiledig.
Rheoliadau Adeiladu yw'r safonau cenedlaethol ar gyfer Cymru sy'n berthnasol i'r rhan fwyaf o adeiladau, pa un a yw'r rheiny'n gartref neu'n ddatblygiad masnachol. Maent yn sicrhau bod yr amgylchedd rydym i gyd yn byw ynddo yn lle diogel ac iach. Hefyd maent yn sicrhau bod mynediad a chyfleusterau digonol yn cael eu darparu ar gyfer pobl ag anableddau ac yn cynnwys gofynion yn ymwneud ag arbed tanwydd ac ynni.
Mae syrfewyr rheoli adeiladu yn gweinyddu rheoliadau adeiladu. Rydym yn dîm o syrfewyr rheoli adeiladu cymwys a phrofiadol iawn sy'n archwilio cynlluniau ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu ac yn rhoi sylwadau yn eu cylch, ac yn archwilio'r gwaith sy'n cael ei wneud. Mae ein gwybodaeth eang am ddeunyddiau a dulliau adeiladu ar gael ar eich cyfer chi ym mhob cam o'r broses adeiladu.
I gael rhagor o wybodaeth am Reoli Adeiladu a Rheoliadau Adeiladu, ewch i'n tudalennau gwe.
Ynghylch Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC)
Mae Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) yn cynrychioli holl dimau rheoli adeiladu’r awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Dyma grynodeb o bwy ydynt a'r hyn maent yn ei wneud:
- Mae timau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol yn annibynnol, yn ddiduedd ac yn gweithredu'n ddielw. Mae rheoli adeiladu (y gwasanaethau cyhoeddus) wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn ein cymunedau drwy adolygu cymhwysedd syrfewyr yn gyson a sicrhau perfformiad a safonau ein timau.
- Rydym yn credu bod modd darparu pob adeilad, addasiad ac estyniad newydd i'r safonau iawn trwy gydlynu'r camau sy'n cynnwys dylunio, llunio'r fanyleb, adeiladu a chwblhau. Mae'r syrfewyr yn ein cynghorau lleol yn poeni am ddiogelwch, cynhwysedd a pherfformiad adeiladau yn eich cymunedau yn y tymor hir.
- Bydd rhwydwaith Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol sy'n cynnwys tua 3,800 o syrfewyr proffesiynol yn rhoi cyngor cyflym, diduedd ac arbenigol i chi.
- P'un a ydych yn berchennog cartref neu eiddo, yn bensaer, yn lluniwr cynlluniau, yn ddatblygwr, yn gontractwr adeiladu neu'n weithiwr proffesiynol arall, byddant yn gweithio gyda chi i sicrhau bod eich adeiladau'n ddiogel, yn iach, yn gynhwysol ac yn effeithlon, a'u bod yn bodloni'r safonau a osodir gan y Rheoliadau Adeiladu.
- Maent hefyd yn cynghori ar ddiogelwch y cyhoedd, diogelu defnyddwyr, diogelwch ar feysydd chwaraeon, strwythurau peryglus ac maent yn gweithio'n rheolaidd gyda'r gwasanaethau brys a swyddogaethau eraill fel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd i ddarparu adeiladau diogel.
Gall systemau draenio dŵr wyneb traddodiadol gynyddu'r perygl o lifogydd a pheri risg ddifrifol o halogiad. Mae Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) wedi cael eu datblygu i efelychu'r broses ddraenio naturiol a dileu'r risgiau hyn.
Gellir defnyddio SDCau yn effeithiol mewn ardaloedd gwledig a threfol i gefnogi datblygiad newydd ac ail ddatblygiad, wrth leihau'r risg o lifogydd dŵr wyneb a chreu cyfleoedd ar gyfer ansawdd dŵr gwell, cynefinoedd bioamrywiol cyfoethog a mannau hamdden cymunedol newydd.
Lluniwyd y Canllaw Dylunio Priffyrdd gyda'r bwriad o nodi ei ddisgwyliadau o ran datblygiadau newydd yn y sir. Mae'n rhoi arweiniad i ddatblygwyr ac ymgeiswyr ar baratoi cynigion trafnidiaeth a darparu seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth i gefnogi datblygiadau newydd. Mae hefyd yn nodi'r gofynion cysylltiedig yn ystod y cynllunio a'r adeiladu.
Gweler ein tudalen Cyswllt Cynllunio Priffyrdd am ragor o wybodaeth.
Beth yw amodau cynllunio?
Mae amodau cynllunio yn aml yn cael eu cysylltu â chaniatâd cynllunio. Mae’r rhain yn cyfyngu ac yn rheoli’r ffordd y mae’n rhaid gweithredu’r caniatâd cynllunio. Anelu at wella ansawdd ceisiadau cynllunio drwy liniaru unrhyw effeithiau andwyol.
Gellir gosod amodau wrth roi caniatâd cynllunio ar gyfer rheoleiddio datblygiad neu ddefnydd o unrhyw dir. Cyfyngu ar waith ar y tir i sicrhau y gellir cymeradwyo’r datblygiad drwy fodloni gofynion penodol a nodir gennym ni. Er enghraifft, gall y rhain nodi natur y gwaith adeiladu, oriau agor, hyd yr amser y rhoddir caniatâd ar ei gyfer neu'r asesiadau angenrheidiol sy'n cyd-fynd â chais. Dylid cadw'r amodau a osodir gennym ni i lawr i’r eithaf.
Gall trafodaethau rhyngom ni a’r ymgeisydd cyn ymgeisio fod o gymorth i leihau’r angen i osod amodau cynllunio ar gais.
Pwy ddylai wneud cais am gymeradwyo (rhyddhau) amodau?
Os oes gennych amodau ar eich caniatâd cynllunio sy’n gofyn am ein cymeradwyaeth ni cyn y gall datblygiad ddechrau, gallwch wneud cais i gael rhyddhau (cymeradwyo) amodau fel y gall eich datblygiad ddechrau. Bydd gofyn i chi fanylu ar sut rydych yn bwriadu bodloni gofynion yr amodau (e.e. y deunyddiau y byddwch yn eu defnyddio) neu ddarparu gwybodaeth ategol i ddangos eich bod yn cydymffurfio. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gymeradwyo’r amodau (gelwir hyn hefyd yn ‘rhyddhau amodau’). Gall cais unigol gynnwys unrhyw nifer o amodau ar y caniatâd. Bydd angen i chi gyflwyno'r wybodaeth yn ffurfiol a llenwi ffurflen gais ynghyd â'r ffi berthnasol.
Mae math ar wahân o gais ar gael ar gyfer dileu neu amrywio amodau. Dylid defnyddio hwn os ydych yn credu nad yw'r amodau'n berthnasol mwyach neu y byddent yn fwy effeithiol pe baent yn cael eu haddasu.
Ar ôl derbyn cais i ryddhau amodau, bydd y swyddog achos yn asesu'r cyflwyniad ac yn ymgynghori ag ymgyngoreion perthnasol yn ôl yr angen. Os bernir bod y wybodaeth yn dderbyniol, cyhoeddir hysbysiad o benderfyniad ffurfiol yn cadarnhau bod yr amod naill ai wedi’i ryddhau’n llawn neu’n rhannol. Os nad yw'r wybodaeth yn dderbyniol, gellir gwrthod y cais i ryddhau amod. Sicrhewch eich bod yn cadw cofnod o unrhyw benderfyniadau a gyhoeddir.
Ceisiadau a Wrthodwyd:
Os byddwch yn derbyn hysbysiad o benderfyniad sy’n gwrthod caniatâd, bydd y rhesymau llawn wedi eu nodi ar yr hysbysiad o benderfyniad. Bydd angen i chi ddarllen y rhesymau hynny'n ofalus ac ystyried a oes arnoch eisiau ceisio eu datrys drwy ddiwygio'ch cynnig ac ailgyflwyno cais. Os byddwch yn dymuno cael trafodaethau gyda’r Swyddog Achos, fe’ch anogir i ddefnyddio ein gwasanaeth cyn ymgeisio.