Rheoliadau adeiladu
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/10/2024
Rheoliadau Adeiladu yw'r safonau cenedlaethol ar gyfer Cymru sy'n berthnasol i'r rhan fwyaf o adeiladau, pa un a yw rheiny'n gartref neu'n ddatblygiad masnachol. Maent yn sicrhau bod yr amgylchedd yr ydym ni i gyd yn byw ynddo'n ddiogel ac yn iach. Hefyd maent yn sicrhau bod mynediad a chyfleusterau digonol yn cael eu darparu ar gyfer pobl ag anableddau ac yn cynnwys gofynion yn ymwneud ag arbed tanwydd ac ynni.
Mae syrfewyr rheoli adeiladu yn gweinyddu rheoliadau adeiladu. Mae ein timau o syrfewyr rheoli adeiladu cymwys a phrofiadol iawn yn archwilio cynlluniau ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu ac yn rhoi sylwadau yn eu cylch, ac yn archwilio'r gwaith sy'n cael ei wneud. Mae eu gwybodaeth eang am ddefnyddiau a dulliau adeiladu ar gael ichi ym mhob cam o'r broses adeiladu.
Yn ogystal mae syrfewyr yn cyflawni nifer o swyddogaethau eraill yn ymwneud ag adeiladu gan gynnwys ymdrin ag adeiladau peryglus, diogelwch mewn meysydd chwaraeon a gwaith dymchwel. Cyn ichi ddechrau unrhyw waith adeiladu mae angen ichi gael gwybod a oes angen rheoliadau adeiladu arnoch. Fel arfer bydd eich adeiladwr yn gwneud hynny ar eich rhan, ond fel perchennog adeilad chi fydd yn gyfrifol am hyn.
Mwy ynghylch Rheoli Adeiladu