A oes angen caniatâd rheoliadau adeiladu arnoch?

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Mae’r rhan fwyaf o brosiectau adeiladu yn gorfod cael eu cymeradwyo trwy’r rheoliadau adeiladu, ac maen nhw’n cynnwys:

  • Adeiladu tŷ, swyddfa, siop, ffatri, gwestai, ysgolion newydd a llawer o fathau eraill o adeiladau.
  • Rhoi estyniad ar unrhyw adeilad, oni bai fod yr estyniad yn borth neu lolfa haul.
  • Newidiadau adeiladweithiol a wneir ar adeiladau, ee. dymchwel waliau sy’n ysgwyddo baich.
  • Newidiadau i systemau draenio, systemau gwresogi a systemau dŵr twym.
  • Newidiadau mewnol i adeiladau masnachol sy’n effeithio llwybrau dianc adeg tân.
  • Adnewyddu elfennau thermol fel to, wal neu lawr sy'n gwahanu gofod thermol (wedi'i wresogi neu wedi'i oeri).
  • Inswleiddio waliau ceudod.
  • Tanategu
  • Ffenestri, drysau neu ffenestri to newydd.
  • Gwaith trydanol
  • Rhai mathau o newid defnydd adeiladau er enghraifft trawsnewid llofft / garej

Mae rhai adeiladau wedi'u heithrio ac efallai y bydd unigolion a mentrau sydd wedi cofrestru ar y cynllun personau cymwys yn gallu hunan-ardystio mathau penodol o waith.

Ar adegau, am resymau amrywiol, mae gwaith adeiladu wedi cael ei wneud heb gyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu. Pan fo hyn yn digwydd, mae'n bosibl y gallwn ni gyflwyno Tystysgrif Reoleiddio i gyfreithloni'r gwaith heb ganiatâd.

Ceisiadau rheoleiddio adeiladu