Tystysgrifau cwblhau
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd, asiant neu adeiladwr yw sicrhau y gwneir cais am archwiliad cwblhau cyn pen pum diwrnod ar ôl cwblhau’r gwaith ac y ceir tystysgrif cwblhau ddilynol
Mae’r archwiliad hwn a’r dystysgrif ddilynol yn hanfodol am sawl rheswm:
- Mae’r hysbysiad bod y gwaith wedi’i gwblhau yn ofyniad statudol dan y Rheoliadau Adeiladu, ac os na wneir cais amdano o fewn y cyfnod rhagnodedig, gall hyn fod yn groes i’r Rheoliadau Adeiladu a gall arwain at gamau gorfodi.
- Mae’r dystysgrif cwblhau yn bwysig iawn ac mae ei hangen ar y perchennog fel y gellir ei dangos wrth werthu’r eiddo yn ddiweddarach. (Mae cyfreithwyr yn gofyn amdani yn ystod y broses drawsgludo).
- Rhaid i’r gwaith y mae’r cais dan y rheoliadau adeiladu yn ymwneud ag ef ddechrau cyn pen 3 blynedd ar ôl y dyddiad cymeradwyo yn achos cais â chynlluniau llawn, a 3 blynedd ar ôl y dyddiad cofrestru yn achos hysbysiad adeiladu. Ar ôl y cyfnod o 3 blynedd, cynhelir gwiriadau ar geisiadau at ddibenion archifo.
- Os nad yw’r Adain Rheoli Adeiladu wedi cael gwybod bod y gwaith wedi dechrau cyn pen 3 blynedd, bydd hysbysiad dan Adran 32 o Ddeddf Adeiladu 1984 yn cau’r cais, a bydd angen gwneud cais arall os bwriedir gwneud y gwaith.
- Os bydd yr Adain Rheoli Adeiladu yn canfod bod cais wedi’i gwblhau a bod yr eiddo wedi’i feddiannu, er na wnaed cais am yr archwiliadau angenrheidiol, mae hyn ynddo’i hun yn groes i’r Rheoliadau Adeiladu.
- Nid cyfrifoldeb Cyngor Sir Caerfyrddin yw cynnal archwiliadau os na wnaed cais amdanynt. Yn yr amgylchiadau hyn, nid oes gorfodaeth arnom i gyhoeddi tystysgrif cwblhau.
- Gellir profi oedi wrth gyhoeddi’r dystysgrif cwblhau os na wnaed yr holl hysbysiadau statudol bod y gwaith yn barod i’w archwilio. Gall yr oedi fod o ganlyniad i gamau y bydd yn rhaid eu cymryd i benderfynu a yw’r gwaith yn cydymffurfio â’r rheoliadau.
- Os yw’r gwaith wedi’i gwblhau ac nad oes archwiliad cwblhau wedi’i gynnal cyn bod ein ffeiliau yn cael eu harchifo, nid oes gorfodaeth arnom i gyhoeddi tystysgrif cwblhau oherwydd Rhif 1 uchod. Os oes angen tystysgrif ar ôl archifo’r ffeiliau (ar waith a gwblhawyd cyn archifo’r ffeiliau) at ddibenion gwerthu’r eiddo; gellir gofyn i’r perchennog ddangos cynlluniau a gymeradwywyd. Codir tâl am y gwasanaeth hwn (mae manylion ar gael ar gais). Hefyd, gellir gofyn i’r perchennog ddatgelu agweddau amrywiol ar y gwaith er mwyn gweld a yw’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Os ydym yn fodlon ar y gwaith ar y safle, bydd tystysgrif cwblhau yn cael ei chyhoeddi. Oni bai bod yr Adain Rheoli Adeiladu yn fodlon ar y gwaith, cyn belled ag y gellir ei weld yn rhesymol, mae’n bosibl na fydd tystysgrif cwblhau yn cael ei chyhoeddi.
Mwy ynghylch Rheoli Adeiladu