Cynllun Awdurdod Partner

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Ers 2007 rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â prif gyflenwyr adeiladwyr lleol, LBS gyda nod cyffredin o wella safonau adeiladu yn y sir. Fel partneriaeth rydym wedi ymrwymo i'ch cynorthwyo drwy'r broses rheoliadau adeiladu a helpu eu cleientiaid cyffredin, yr adeiladwyr a'r contractwyr o ran gwneud eu swydd yn haws.

Mae Cynllun Awdurdod Partner Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) wedi’i gynllunio i helpu cwmnïau sy’n gweithredu mewn sawl lleoliad ac sy’n delio â llawer o awdurdodau lleol. Mae’r cynllun yn galluogi cwmni neu’i gynghorwyr i gael perthynas waith un-i-un gydag awdurdod lleol ffafriedig er mwyn cael cyngor ac arfarnu cynlluniau. Gwneir yr archwiliadau safle gan yr awdurdod lleol lle cynhelir pob prosiect.

Nid oes unrhyw gost am ymuno â’r cynllun ac nid oes unrhyw ymrwymiad contractiol. Ymhlith y buddion niferus i’n partneriaid y mae:

  • Dehongli’r rheoliadau yn gyson
  • Ymwneud â chynlluniau’n gynnar o ran dylunio, heb ystyried maint a lleoliad, gan gynnig arbedion cost
  • Sefydlu cysylltiadau arbennig
  • yswllt gan Adain Rheoli Adeiladu Sir Gaerfyrddin â’r awdurdod archwilio