Cynllun person cymwys
Cyflwynwyd cynlluniau person cymwys gan y Llywodraeth i ganiatáu i unigolion a mentrau hunan-ardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu fel dewis arall yn hytrach na chyflwyno hysbysiad adeiladu neu ddefnyddio arolygwr cymeradwy.
Mae egwyddorion hunan-ardystio yn seiliedig ar roi’r gallu i bobl sy’n gymwys yn eu maes hunan-ardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu heb fod angen cyflwyno hysbysiad adeiladu ac felly denu archwiliadau neu ffioedd yr awdurdod lleol.
Y gobaith yw y bydd symud tuag at hunan-ardystio yn gwella cydymffurfiaeth â gofynion y Rheoliadau Adeiladu yn sylweddol, yn lleihau costau i gwmnïau sy’n ymuno â chynlluniau cydnabyddedig, ac yn hybu hyfforddiant a chymhwysedd o fewn y diwydiant. Dylai hefyd helpu i fynd i’r afael â phroblem adeiladwyr anghofrestredig, a chynorthwyo awdurdodau lleol i orfodi’r Rheoliadau Adeiladu.
Mae angen lawer o waith yn y cartref gael eu hysbysu a'u cymeradwyo gennym ni oni bai ei fod yn cael ei wneud gan osodwr sydd wedi’i gofrestru gyda Chynllun Person Cymwys.
Rheoli Adeiladu
Mwy ynghylch Rheoli Adeiladu