Cais am elfennau thermol

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023

Yn Ebrill 2006, cyflwynodd y llywodraeth newidiadau mawr i ran o’r Rheoliadau Adeiladu sy’n ymwneud ag arbed ynni. Roedd y newidiadau hyn wedi’u cynllunio i helpu wrth frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a lleihau gwastraff ynni mewn adeiladau.

Un o’r newidiadau oedd cyflwyno gofynion newydd a fyddai’n gymwys pan fyddai Elfen Thermol yn cael ei hadnewyddu neu’i hailosod. Elfen Thermol yw to, wal neu lawr sy’n gwahanu man sydd wedi’i dymheru’n thermol (ei wresogi neu’i oeri) oddi wrth unrhyw un o’r canlynol:

  • Y tu allan (gan gynnwys y ddaear), neu
  • Ran o’r un adeilad nad yw wedi’i gwresogi, neu
  • Strwythur sydd wedi’i eithrio o’r rheoliadau adeiladu, fel cyntedd neu ystafell wydr, neu ran o’r un adeilad sydd wedi’i gwresogi neu’i hoeri i dymheredd gwahanol

Mae adnewyddu Elfen Thermol yn golygu ychwanegu haen newydd at Elfen Thermol neu ailosod haen bresennol. Pan wneir y gwaith adnewyddu ar fwy na 25% o’r elfen dan sylw, bydd angen cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu cyn gwneud y gwaith a gall fod angen uwchraddio’r Elfen Thermol i ddarparu mwy o inswleiddiad.

Wrth asesu cyfran yr arwynebedd hwn, dylid ystyried yr elfen unigol ac nid holl elfennau’r math hwnnw o adeilad. Dylid dehongli arwynebedd yr elfen yng nghyd-destun a yw’r elfen yn cael ei hadnewyddu o’r tu mewn neu’r tu allan, e.e. os gwaredir yr holl orffeniad plastr o’r tu mewn i wal frics solet, arwynebedd yr elfen yw arwynebedd y wal allanol yn yr ystafell. Os gwaredir rendr allanol, arwynebedd y gweddlun y mae’r wal honno ynddo yw’r elfen.

Canlyniad y newid hwn yw y gall fod angen cymeradwyaeth bellach ar gyfer llawer o waith adeiladu a oedd wedi’i eithrio o’r Rheoliadau Adeiladu gynt oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn atgyweiriad. Er enghraifft:

  • Ailosod gorchudd to llechi neu deils hyd yn oed os yw’n orchudd tebyg
  • Ail-blastro wal
  • Ailosod ffelt ar do gwastad
  • Adnewyddu nenfwd dan groglofft oer
  • Rendro neu ail-rendro wal allanol
  • Adnewyddu cladin ar ddormer
  • Adnewyddu llawr daear sy’n cynnwys ailosod ffyn lefelu neu ddecio pren

Mae’n groes i’r Rheoliadau Adeiladu peidio â chyflwyno cais am waith adeiladu fel y nodir uchod. Gallai hyn arwain at erlyniad a dirwy ar gyfer y person sy’n gwneud y gwaith, a gallai achosi problemau os bydd yr eiddo yn cael ei werthu yn ddiweddarach. Ar gyfer adeiladau annomestig, defnyddiwch y ffurflen gais Cynlluniau Llawn.

Lawrlwythwch ffurflen gais am elfen thermol   Gwnewch gais am gynlluniau llawn