Rheoli Adeiladu
Mae'r adain Rheoli Adeiladu yn ymdrin â cheisiadau a gyflwynir mewn perthynas â Rheoliadau Adeiladu yn ogystal â dymchwel adeiladau a strwythurau peryglus.
Cymeradwyir Rheoliadau Adeiladu gan y Senedd ac maent yn ymdrin â safonau gofynnol o ran gwaith dylunio ac adeiladu ar gyfer adeiladu adeiladau domestig, masnachol a diwydiannol. Yn ogystal, maent yn nodi'r diffiniadau o'r hyn sy'n cael ei ystyried yn 'waith adeiladu' a'r gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ei fod yn bodloni'r safonau a bennwyd.
Mae tîm Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Caerfyrddin yma i'ch helpu i gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. Mae gennym dîm o swyddogion rheoli adeiladu profiadol ledled Sir Gaerfyrddin sy'n ein galluogi i ymateb yn gyflym i'ch anghenion, gan ddarparu cyngor cyfeillgar.
Yn yr adran hon fe welwch y canlynol:
- Canllawiau ar reoliadau adeiladu
- Cyngor ynghylch a oes angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu
- Gwybodaeth am sut i wneud cais a ffurflenni cais y gellir eu lawrlwytho.
Mae ein gwasanaeth yn sicrhau bod adeiladau'n ddiogel, yn iach, yn gynaliadwy ac yn hygyrch i bob defnyddiwr. Rydym yn ymdrin ag adeiladau domestig, masnachol ac adeiladau cyhoeddus ac yn sicrhau eu bod yn bodloni rheoliadau adeiladu.