Waliau cydrannol

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/11/2017

Mae’n bosibl nad yw rhai mathau o waith a wneir i eiddo yn cael eu rheoli gan y Rheoliadau Adeiladu, ond eu bod yn hytrach yn cael eu cwmpasu gan Ddeddf Waliau Cydrannol 1996. Mae hon yn ddeddf sydd â gofynion gwahanol i’r Rheoliadau Adeiladu. Bydd rhai achosion lle bydd y Ddeddf Waliau Cydrannol 1996 ynghyd â’r Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol i’r gwaith sy’n cael ei wneud.

Daeth y Ddeddf Waliau Cydrannol i rym ledled Cymru a Lloegr ar 1 Gorffennaf 1996. Mae'r Ddeddf yn rhoi cyngor ynghylch rhwystro a datrys dadlau am waliau cydrannol, waliau terfyn a chloddiadau ger adeiladau cyfagos.

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith adeiladu sy'n cynnwys unrhyw un o'r canlynol mae'n rhaid i chi ganfod a fydd y gwaith yn cael ei effeithio gan y Ddeddf. Os felly, mae'n rhaid i chi hysbysu pob cymydog ffiniol:

  • gwaith ar wal sy'n bod eisoes ac sy'n cael ei rhannu gydag eiddo arall
  • adeiladu ar y terfyn ag eiddo cyfagos
  • cloddio ger adeilad cyfagos

Beth yw Wal Gydrannol?

Yn ôl y Ddeddf, diffinir wal fel 'wal gydrannol' os yw

  • yn sefyll ar led terfyn y tir rhwng dau berchennog gwahanol neu fwy ac mae'n rhan o un adeilad
  • neu mae'n berthyn i un perchennog ond yn gwahanu dau adeilad neu fwy

Mae wal yn 'wal gydrannol' hefyd os yw'n sefyll yn llwyr ar dir un perchennog ond mae'n cael ei defnyddio gan ddau berchennog neu fwy i wahanu eu hadeiladau. Nid yw 'wal ffens gydrannol' yn rhan o adeilad, ac mae'n sefyll ar led y llinell derfyn rhwng tiroedd perchenogion gwahanol ee wal gardd. Gall 'adeiledd cydrannol' fod yn wal, pared llawr neu debyg sy'n gwahanu adeiladau neu rannau adeiladau ee. fflatiau.

Mae'r Ddeddf yn ymwneud â gwaith ar waliau cydrannol sy'n bod eisoes, adeiladau newydd ar y llinell derfyn rhwng darnau o dir cyfagos a chloddio ger adeiladau cyfagos.