Strwythurau peryglus

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/12/2023

Os ydych chi'n pryderu bod adeilad neu strwythur yn beryglus o bosib, gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd. Er mwyn diogelu'r cyhoedd, darperir gwasanaeth 24 awr y dydd ar gyfer galwadau yn ymwneud â strwythurau peryglus.

Lle bo angen, bydd y perygl yn cael ei waredu ar unwaith gan ein contractwyr arbenigol dan oruchwyliaeth agos uwch-swyddog rheoli adeiladu profiadol a fydd yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni yn y modd mwyaf addas.

Os oes angen inni gymryd y cam hwn mewn perthynas â'ch adeilad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â chi yn gyntaf. Os nad oes modd gwneud hynny, bydd cerdyn yn cael ei adael ar y safle yn nodi pa gamau yr oedd yn rhaid eu cymryd ac â phwy y dylid cysylltu i gael rhagor o gyngor.

Os yw eich adeilad mewn cyflwr peryglus ond ni ystyrir ei fod yn berygl enbyd, bydd yn rhaid cyflwyno Rhybudd Adeiladwaith Peryglus ond byddwn yn rhoi amser rhesymol ichi ymateb ac yn cynnig dolen gyswllt i gael rhagor o gyfarwyddyd.

Codir tâl am ymdrin â strwythurau peryglus ar gyfer costau gweinyddol rhesymol a chostau ein contractwyr. Pan ddeuir o hyd i fân ddiffygion mewn adeiladau byddwn ni'n cynnal archwiliad, os oes modd, ac yn cynnig cyngor anffurfiol ynghylch y ffordd orau o gywiro'r broblem.

I roi gwybod inni am adeilad peryglus, cysylltwch â ni drwy ffonio 01267 246044 dyn ystod oriau swyddfa (Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am - 5pm). Pan fydd y swyddfa ar gau ffoniwch 0300 333 2222.

Coed Peryglus

Cyfeiriwch at Coed Peryglus ar ein gwefan a gwefan wybodaeth am Guide to Trees and the Law.