Coed

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

O dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Cyngor Sir Caerfyrddin, sef yr awdurdod cynllunio lleol, sydd yn gyfrifol am warchod coed yn y Sir. Mae coed ymhlith ein hadnoddau naturiol mwyaf pwysig, ac maent yn cyfoethogi’r amgylchedd trefol a gwledig. Yn ogystal â’u gwerth o ran harddu ein broydd yn weledol, mae coed yn hidlo sŵn, golau, a llwch, ac mae iddynt rôl gwbl hanfodol yn y system ecolegol.

Rydym yn diogelu coed drwy wneud Gorchmynion Gwarchod Coed. Diben Gorchymyn Gwarchod Coed yw diogelu coed sydd o arwyddocâd mawr yn eu cyffiniau, er enghraifft, os ydynt yn esiampl dda o’u rhywogaeth neu’n nodwedd bwysig yn y dirwedd leol. Mae awdurdod cynllunio lleol yn gallu gwneud Gorchymyn Gwarchod Coed o ran coeden benodol, o ran clwstwr o goed, neu o ran coetir sydd yn cynnwys coed perth ond nid o ran perthi, prysglwyni neu lwyni. Mae’r cyhoedd yn gallu cyflwyno cais ffurfiol am i Orchymyn Gwarchod Coed gael ei wneud.

Os gwneir Gorchymyn Gwarchod Coed, mae’n drosedd os byddwch chi’n cwympo, torri brig, tocio, dadwreiddio, difrodi yn fwriadol neu ddinistrio yn fwriadol goeden heb gael ein ganiatâd. Mae modd i unrhyw un awgrymu i ni bod Gorchymyn Gwarchod Coed yn cael ei gyflwyno ar gyfer coeden. Wedyn byddwn yn penderfynu a yw'r goeden o ddigon o bwys gweledol i'r cyhoedd yn gyffredinol fel y dylid cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Coed.

Os ydym yn bwriadu cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Coed ar gyfer coeden sydd ar eich tir, rhoddir gwybod i chi'n ysgrifenedig a bydd gennych hawl i wrthwynebu cyflwyno'r Gorchymyn Gwarchod Coed.

Hyd yn oed ar ôl cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Coed, y perchennog sy'n gyfrifol am y goeden o hyd, yn hytrach na ni. Fodd bynnag, os bydd rhywun am docio unrhyw ran o'r goeden neu ei chwympo, fel arfer bydd angen iddynt gael caniatâd ysgrifenedig gennym yn gyntaf. Gall y llysoedd roi dirwyon llym neu hyd yn oed garcharu rhywun os gwneir gwaith heb ganiatâd ar goeden y cyflwynwyd Gorchymyn Gwarchod Coed ar ei chyfer.

Cael golwg ar fap o Ardaloedd Cadwraeth a Gorchmynion Gwarchod Coed presennol

Mae coed mewn ardaloedd cadwraeth yn cael eu diogelu hefyd, ac mae cyfyngiadau o ran beth y gellir ei wneud i goed yn yr ardaloedd hyn hyd yn oed os nad yw’r coed yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed. Mae angen hysbysiad ynghylch gwaith ar goed y mae gan eu boncyffion ddiamedr sy’n fwy na 75mm pan gânt eu mesur 1.5 metr uwchlaw lefel y ddaear (neu ddiamedr sy’n fwy na 100mm os ydych yn lleihau nifer y coed er budd tyfiant coed eraill).

Rhaid i chi roi chwe wythnos o rybudd cyn cyflawni gwaith ar unrhyw goed mewn ardal gadwraeth. Mae hynny’n rhoi cyfle i ni ystyried a ddylai gorchymyn gael ei wneud i warchod y coed. Yn unol â'r ddeddfwriaeth, mae'n drosedd i gwympo coeden neu ei thocio, ei difrigo, ei diwreiddio, ei dinistrio'n fwriadol neu ei difrodi'n fwriadol mewn Ardal Gadwraeth heb hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig cyn hynny. Mae'r cosbau am fethu â rhoi gwybod i ni yn debyg i'r rhai ar gyfer cyflawni trosedd o dan Orchymyn Gwarchod Coed.

Gallwch wneud cais am ganiatâd i wneud gwaith ar goed o dan Gorchymyn Gwarchod Coed neu mewn ardal gadwraeth ar-lein. Nid oes tâl am y cais.

CYFLWYNO CAIS AM WNEUD GWAITH AR GOED

Er ein budd ni ac er budd cenedlaethau’r dyfodol rydym yn ceisio sicrhau y bydd coed yn parhau i harddu ein haneddiadau a’n cefn gwlad, ac i gael eu gwerthfawrogi a’u diogelu fel adnodd.

Mae’r ddogfen strategaeth hon wedi’i bwriadu i fod yn ganllaw i aelodau etholedig, cyflogeion y Cyngor, busnesau, y cyhoedd a phob sefydliad/parti â budd ar sut y gallant ddisgwyl i goed ar dir dan berchnogaeth y Cyngor Sir gael eu rheoli, a sut y gellid ymdrin â materion sy’n ymwneud â choed ar dir preifat.

Lawrlwytho y Strategaeth Rheoli Coed (.pdf)

Cynllunio