Ardaloedd Cadwraeth
Diweddarwyd y dudalen ar: 12/04/2024
Mae Ardaloedd Cadwraeth yn rhannau o dref neu bentref sydd 'o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig' sy'n ymwneud ag adeiladau a nodweddion nodedig ardal. Gallai nodweddion o'r fath gynnwys golygfeydd arwyddocaol, cynllun stryd hanesyddol, adeiladau arbennig neu dystiolaeth o ddefnydd hanesyddol o ardaloedd. Mae'r elfennau hyn gyda'i gilydd yn creu amgylchedd hanesyddol nodedig. Mae seilwaith gwyrdd megis parciau, gerddi, perthi, coed a nodweddion dŵr hefyd yn bwysig mewn ardal gadwraeth ac yn cyfrannu at ei chymeriad.
Rhoddir rheolaethau cynllunio ychwanegol ar Ardaloedd Cadwraeth i helpu i warchod neu wella eu cymeriad a diogelu eu lleoliadau.
Mae gan Sir Gaerfyrddin 27 o ardaloedd cadwraeth sydd wedi'u dynodi am eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
- Abergorlech
- Cenarth
- Cwmdu
- Cydweli
- Talacharn
- Llanboidy
- Llanddarog
- Llandeilo
- Llanymddyfri
- Llanelli
- Llangadog
- Llangathen
- Llansaint
- Llansteffan
- Castellnewydd Emlyn
- Sanclêr
- Talyllychau
A'r canlynol yng Nghaerfyrddin:-
- Tref Caerfyrddin
- Heol Awst
- Gogledd Caerfyrddin
- Stryd Parcmaen / Dewi Sant
- Teras Picton / Parc Penllwyn
- Pontgarreg a Ysbyty Dewi Sant
- Heol y Prior
- Yr Orymdaith / Esplande
- Y Cei / Glannau Tywys
- Stryd y Dŵr
Mae angen Caniatâd Cynllunio ar gyfer y canlynol:
- dymchwel unrhyw adeilad neu ffiniau penodol o fewn ardal gadwraeth
- newid strwythur/ffin yn sylweddol neu adeiladu strwythur/ffin newydd - mae angen Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth yn yr achos hwn hefyd.
- codi'r grib/ehangu maint to neu osod ffenestr ddormer.
- gosod golau to.
- rhoi cladin ar y waliau – yn y rhan fwyaf o achosion, oni bai eich bod yn trwsio neu'n adnewyddu arwyneb presennol
- gosod soseri lloeren - ar ochr sy'n wynebu priffordd, ar simnai, ac ar adeilad dros 15 metr o uchder.
- dymchwel simnai.
- gosod, newid neu amnewid simnai, ffliw, pibell garthion neu bibell awyru ar wal neu do ar brif ochr neu ochr sy'n wynebu priffordd.
- adeiladu estyniadau cefn, ochr a dau lawr.
- adeiladu adeiladau atodol ar wahân, siediau gardd neu storfeydd i ochr y breswylfa.
- gwneud gwaith arwyneb a gwaith tir.
Bydd angen Caniatâd Ardal Gadwraeth arnoch yn ogystal â chaniatâd cynllunio ar gyfer y canlynol:
- dymchwel unrhyw adeilad neu ffiniau penodol o fewn ardal gadwraeth
Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i wneud y canlynol:
- gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio
- adnewyddu neu amnewid gorchudd to.
- gosod paneli haul – yn amodol ar rai amodau.
- adeiladu estyniadau cefn unllawr wedi'u hadeiladu mewn deunyddiau o ymddangosiad tebyg i'r rhai a ddefnyddir ar y tŷ presennol – yn amodol ar feini prawf eraill mewn perthynas ag uchder ac ymddangosiad y cefn.
Rheoliadau cynllunio ychwanegol mewn Ardaloedd Cadwraeth
Mewn rhai ardaloedd cadwraeth, gall rheoliadau cynllunio ychwanegol fod yn berthnasol. Gelwir y rhain yn Gyfarwyddiadau Erthygl 4 ac maent yn dileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer rhai addasiadau a newidiadau defnydd. Mae hyn yn golygu bod angen caniatâd cynllunio pan fo Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar waith. I gael gwybod a oes Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar waith mewn ardal gadwraeth benodol, gweler y tab isod.
Gwaith i goed
Mae'r holl goed mewn Ardaloedd Cadwraeth yn cael eu diogelu, yn y bôn maent yn cael yr un lefel o warchodaeth â choeden sydd â Gorchymyn Cadw Coed. Os ydych yn ystyried unrhyw waith i goed mewn Ardal Gadwraeth, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaethhttps://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/planning/conservation-countryside/trees/.
Mae Porth Cynllunio Llywodraeth Cymru yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol.
Os nad ydych yn siŵr a oes angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd ardal gadwraeth arnoch ar gyfer newid yr ydych yn ei ystyried, cysylltwch â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig drwy e-bostio ymgynghoriadaubh@sirgar.gov.uk
Diben dynodi Ardal Gadwraeth yw rhoi mesur ychwanegol o reolaeth i'r Cyngor ar ardal y mae'n barnu sydd o werth arbennig yn hanesyddol neu'n bensaernïol.
Nid yw hyn yn golygu na ellir cynnig datblygiadau, nac y bydd gwaith ar eich eiddo yn cael ei wrthod fel mater o drefn. Serch hynny, mae'n golygu y bydd y Cyngor yn rhoi sylw i effaith eich cynigion ar yr ardal dan sylw, yn ogystal â'u hasesiad arferol.
Os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, bydd arnoch angen caniatâd ardal gadwraeth i wneud y canlynol:
- Dymchwel adeilad sydd â chyfaint o fwy na 115 o fetrau ciwbig. Mae yna ychydig o eithriadau – gallwch gael mwy o wybodaeth gan y cyngor perthnasol.
- Dymchwel gât, ffens, wal neu reilin sy’n fwy nag un metr o uchder nesaf at briffordd (gan gynnwys llwybr troed cyhoeddus neu lwybr ceffylau) neu fan agored cyhoeddus; neu fwy na dau fetr o uchder mewn mannau eraill
- Mae yna rai eithriadau rhag y gofyniad cyffredinol i geisio caniatâd ardal gadwraeth i ddymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.
Defnyddir cyfarwyddydau a awdurdodir gan Erthygl 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 i ddileu rhai hawliau datblygu a ganiateir.
Mae rheolaethau tynnach ar waith o ran lefelau datblygu a ganiateir mewn ardaloedd cadwraeth o'u cymharu â mannau eraill, ond, mewn llawer o achosion, efallai na fydd hyd yn oed reolaethau o'r fath yn ddigonol i ddiogelu cymeriad arbennig yr ardal dan sylw, ac atal erydiad cynyddrannol ei chymeriad a'i golwg arbennig, yn enwedig lle mae nifer sylweddol o adeiladau heb eu rhestru yn cael eu defnyddio at ddefnydd preswyl.
Gall nifer o newidiadau bach, gyda'i gilydd – megis gosod deunyddiau modern priodol yn lle teils gwreiddiol y to, gosod ffenestri uPVC neu alwminiwm yn lle'r rhai traddodiadol, a dymchwel perthi neu waliau terfyn blaen i ddarparu parcio oddi ar y stryd – leihau ar gymeriad ‘arbennig’ yr ardal dan sylw.
Ar hyn o bryd, mae pedwar Cyfarwyddydau Erthygl 4 wedi'u cyhoeddi mewn tair ardal gadwraeth, sef:
- Cwmdu
- Talacharn / Aber Taf
- Llanymddyfri
- Llangadog
Cynllunio
Canllaw Cais Cynllunio
- Syniad Datblygu
- A oes arnaf angen Asiant Cynllunio?
- Gwybodaeth Allweddol
- Cam Cyn Ymgeisio
- Math o Gais Cynllunio
- Cyflwyno Cais
- Dilysu
- Cais Byw
- Pwyllgor Cynllunio
- Apeliadau
- Compliance / Enforcement
- Cwblhau Datblygiad
Brosiectau Cynllunio Mawr
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwiliwch am gais cynllunio
Torri rheolau cynllunio
Newid defnydd (Cynllunio)
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Systemau Draenio Cynaliadwy
Gwnewch gais am arian Adran 106
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
- Ardaloedd Cadwraeth
Cadwraeth a chefn gwlad
Enwi a rhifo strydoedd
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Archwiliad Annibynnol
- Dogfennau Cyflwyno
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Ail Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Ynni Adnewyddadwy
Cynllunio Ecoleg
Targedau ffosffad newydd
- Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
- Cyfrifiannell Gorllewin Cymru
- Mesurau Lliniaru
- Y Camau Nesaf
- Cwestiynau Cyffredin Ffosfad
- Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi
- “Effaith canllawiau CNC ar Asesiadau Amonia”
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Sefyllfa Byd Natur yn Sir Gaerfyrddin
Gwastraff
Mwy ynghylch Cynllunio