Cyflenwad tir ar gyfer tai

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/12/2023

Mae Nodyn Cyngor Technegol 1: Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai wedi cael ei ddirymu gan Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad nid yw'n ofynnol bellach i Awdurdodau Lleol gynhyrchu Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLAS). Bydd Awdurdodau Lleol yn awr yn adrodd am ddarparu tai yn eu Hadroddiadau Monitro Blynyddol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol. Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Argraffiad 3 yn nodi'r fframwaith monitro newydd ar gyfer darparu tai. Er ei fod yn canolbwyntio ar integreiddio taflwybrau tai i mewn i Gynlluniau Datblygu Lleol Diwygiedig, darperir canllawiau hefyd ar gyfer monitro'r ddarpariaeth tai ar gyfer Awdurdodau Cynllunio Lleol gyda CDLl mabwysiedig cyn cyhoeddi'r Llawlyfr (gweler paragraff 8.15 o'r Llawlyfr). Gellir gweld yr Adroddiad Monitro Blynyddol diweddaraf yma:Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) (llyw.cymru)

 

Cynllunio