Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/02/2023

Cafodd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir Gaerfyrddin ar gyfer y cyfnod 2006-2021 ei fabwysiadi ar 10 Rhagfyr 2014. Fel rhan o’r broses statudol, mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn.

Mae'r AMB yn darparu'r sail ar gyfer monitro gweithrediad ac effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’n penderfynu yn y pendraw os oes angen unrhyw ddiwygiadau i'r Cynllun. Mae'n asesu i ba raddau y mae strategaeth ac amcanion y CDLl yn cael eu cyflawni ac a yw'r polisïau'r Cynllun yn gweithio'n effeithiol. Mae hefyd yn nodi unrhyw weithredoedd angenrheidiol.

Cyflwyno Sylwadau

Croesawir unrhyw sylwadau mewn perthynas â chynnwys y AMB 2021/22. Dylid eu cyflwyno i'r canlynol erbyn 1 Ebrill 2023. Dylid nodi ni gellir trin sylwadau a gyflwynir yn gyfrinachol a byddent yn cael ei gyhoeddi. 

Sylwer y bydd yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w ystyried.

Cynllunio