Pryfed Peillio
Diweddarwyd y dudalen ar: 06/12/2023
Yn y DU, pryfed peillio planhigion yw’r pryfed sy’n mynd â phaill o un planhigyn i’r llall, gan ei gwneud yn bosibl i ffrwythloni ddigwydd a hynny’n arwain at dwf planhigion newydd. Maent yn hanfodol ar gyfer twf parhaus planhigion yn y gwyllt.
Mae pryfed peillio’n hanfodol ar gyfer cynnal ein hecosystemau, trwy beillio’r planhigion gwyllt sy’n sail i’r rhan fwyaf o gynefinoedd a hefyd trwy eu rôl allweddol bwysig o ran cynhyrchu llawer o gnydau, gan gyfrannu at economi’r DU. Mae pryfed peillio o werth cynhenid yn eu rhinwedd eu hunain fel rhan o’n treftadaeth naturiol, ac mae rhai rhywogaethau, megis gwenyn a gloÿnnod byw, yn cael eu gwerthfawrogi’n eang gan y cyhoedd.
- Wrth chwilota bydd gwenyn mêl yn casglu paill a neithdar o 2000 o flodau'r dydd!
- Yn Sir Gaerfyrddin cynhyrchwyd 45 tunnell o fêl gan wenyn mêl yn 2017!
- Fodd bynnag, mae’r pryfed pwysig hyn dan fygythiad o ganlyniad i bwysau lluosog gan gynnwys colli cynefinoedd, ffermio dwys, plaladdwyr a chlefydau.
Mae’r Cyngor eisoes wedi ystyried pryfed peillio mewn rhai meysydd y mae’n gweithio ynddynt ac wedi ceisio cymryd camau gweithredu cadarnhaol.
- Mae'r Adran Priffyrdd yn rheoli cyfres o ymylon ffyrdd fel ymylon 'i'w torri'n hwyr', gan adael i flodau fwrw hadau cyn cael eu torri.
- Mae'r gwaith a wnaed gyda'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn a phreswylwyr lleol ym Mharc Dŵr y Sandy yn Llanelli wedi gwella'r llecynnau gwyrdd lleol ar gyfer pryfed peillio.
- Mae cymysgiadau o hadau paill wedi cael eu cyflwyno mewn ardaloedd o laswelltir o amgylch safleoedd tai, ac mae'r rhain wedi bod yn boblogaidd iawn gyda thrigolion lleol
- Mae rheolwyr y Gwarchodfeydd Natur Lleol yn ceisio rheoli ardaloedd ar gyfer pryfed peillio. Rheoli cynefin tir llwyd sy'n gyforiog o rywogaethau ym Morfa Brewig sy'n cynnal ystod eang o bryfed peillio gan gynnwys y gardwenynen lwydfrown brin.
Mae ein pryfed peillio brodorol yn cynnwys gwenyn meirch a gwenyn eraill, gloÿnnod byw a gwyfynod, pryfed hofran, chwilod a chacwn. Credir bod dros 1500 o rywogaethau pryfed yn y DU yn peillio ein planhigion gwyllt brodorol a’n cnydau bwyd. Heb bryfed peillio byddem yn ei chael yn anodd tyfu llawer o gnydau llysiau a ffrwythau masnachol gan gynnwys afalau, gellyg, mefus, ffa a phys, rêp had olew).
Y Wenynen Fêl Ewropeaidd yw’r prif bryf peillio sydd ar gael ar gyfer cnydau caeau ac awyr agored. Yn Sir Gaerfyrddin mae oddeutu 674 o wenynfeydd sy’n cynnwys tua 3774 o gychod gwynyn. Yn seiliedig ar gyfradd cynhyrchu mêl cyfartalog y cwch yn 2017 o 12kg/cwch byddai hyn yn cyfateb i gynhyrchu tua 45.3 o dunelli o fêl (gwybodaeth gan yr Arolygydd Gwenyn rhanbarthol). Yn 2011 cynhyrchwyd 427 o dunelli o fêl yng Nghymru – sy’n werth tua £2 filiwn. (Gwefan Llywodraeth Cymru ac adroddiad Arolygydd Gwenyn Cymru 2017).
Mae pryfed peillio hefyd yn ein helpu yn yr ardd a’r rhandir, gan helpu i roi inni’r llysiau a blodau gardd yr ydym yn eu mwynhau. Mae gerddi bellach yn cynnwys mwy o flodau na’r rhan fwyaf o dir amaethyddol ac, yn Sir Gaerfyrddin, mae gennym lawer o erddi. I lawer o bryfed peillio gall gerddi fod o gymorth mawr i boblogaethau lleol.
Mae peillio gan bryfed, trwy helpu planhigion i atgynhyrchu hefyd yn cefnogi rhwydwaith mwy cymhleth o fywyd anifeiliaid a phlanhigion. Felly mae peillio’n broses bwysig i gynnal ecosystemau iach a bioamrywiol.
Mae hanner y 24 rhywogaeth gwenyn meirch sydd ar ôl yn y DU yn dirywio – mae tair rhywogaeth arall eisoes wedi diflannu.
Mae ymchwil yn dynodi bod dirywiad o 23% wedi bod mewn gwenyn mêl yng Nghymru rhwng 1985 a 2005.
Roedd yr Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru yn 2016 yn dangos bod 60% o rywogaethau gloÿnnod byw wedi dirywio dros y tymor hir (~1970–2013).
(Ymddiriedolaeth Gwarchod Gwenyn; Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio; Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru, 2016). Mae llawer o resymau posibl dros y newidiadau hyn yr arsylwyd arnynt. Nid yw’n ymddangos bod un ffactor unigol yn gyfrifol am y newidiadau, ond bod llawer o ffactorau’n cyfuno i greu effaith fwy ar y cyfan. Fodd bynnag, mae rhai effeithiau sy’n fwy amlwg na’i gilydd.
Colli cynefinoedd, eu diraddiad a’u darniad – achos mwyaf arwyddocaol y dirywiad yw colli cynefinoedd sy’n darparu bwyd, cysgod a safleoedd nythu ar gyfer pryfed peillio. Gellir priodoli’r colledion i ffermio mwy dwys, rheolaeth amhriodol ar gynefinoedd posibl, a datblygu trefol/diwydiannol. Roedd astudiaeth a gyhoeddwyd yn Nature yn 2016 yn dangos bod colli blodau gwyllt ym Mhrydain yn cyd-daro â’r dirywiad mewn pryfed peillio.
Plaladdwyr – ceir tystiolaeth gynyddol bod defnyddio plaladdwyr yn cael effeithiau niweidiol ar bryfed peillio gan gynnwys gwenyn mêl, gwenyn gwyllt a gloÿnnod byw.
Newid yn yr Hinsawdd – gall newidiadau hirdymor amddifadu pryfed peillio o gyflenwadau bwyd ar adegau pan fo’u hangen arnynt, eu gwneud yn fwy agored i barasitiaid a chlefydau, neu newid cynefinoedd fel nad ydynt yn addas mwyach. Yn y ffordd hon mae’r newid yn yr hinsawdd yn fygythiad i gydnerthedd ecosystemau.
Bwyd ar ffurf paill a neithdar y chwilotwyd amdanynt mewn amrywiaeth o rywogaethau planhigion blodeuo, sydd ar gael rhwng dechrau’r gwanwyn a diwedd yr hydref o nifer o gynefinoedd, e.e. dolydd, perthi, ymylon ffyrdd, ymylon coetiroedd, perllannau a gerddi. Gall llawer o blanhigion a choed ddarparu’r adnoddau bwyd hyn, gan gynnwys llawer o ‘chwyn’ fel y’u gelwir megis dant y llew a llygad y dydd. Yn ogystal â blodau, mae ar lawer o bryfed peillio angen adnoddau bwyd eraill i gefnogi’r gwahanol gyfnodau yn eu bywydau – er enghraifft mae ar lindys gloÿnnod byw a gwyfynod angen planhigion arbennig i fyw arnynt.
Strwythur llystyfiant amrywiol, e.e. perthi, prysgwydd a gwair hir i gael cysgod, lle i nythu a threulio’r gaeaf ynddo. Gall llystyfiant trwchus megis glaswelltir tuswog, prysgwydd, coed aeddfed, a phentyrrau o bren a cherrig ddarparu cynefin hanfodol ar gyfer pryfed peillio sy’n gaeafgysgu. Mae llawer o rywogaethau’n gaeafgysgu fel oedolion gan gynnwys mamwenyn meirch, a rhai gloÿnnod byw a phryfed hofran, eraill fel wyau, larfau neu bwpaod. Caiff hen dwyni a llystyfiant trwchus eu defnyddio gan wenyn meirch, gyda llethrau heulog a thir sych yn cael eu defnyddio gan wenyn meirch sy’n nythu ar y llawr megis gwenyn turio.
Er mwyn gwrthdroi’r dirywiad yma, dylem amcanu at wneud y canlynol:
- cynyddu amrywiaeth adnoddau sy’n gyforiog o flodau, h.y. rheoli ardaloedd ffurfiol ac anffurfiol fel bod ystod o rywogaethau addas sy’n denu pryfed peillio ar gael;
- cynyddu helaethdra adnoddau bwyd, h.y. cynyddu’r arwynebedd tir sydd ar gael i bryfed peillio’i ddefnyddio; ac
- estyn argaeledd adnoddau sy’n gyforiog o flodau trwy gydol cylch oes pryfed peillio; gwneud yn siŵr bod planhigion addas ar gael o’r gwanwyn tan yr hydref.
Cynllunio
Canllaw Cais Cynllunio
- Syniad Datblygu
- A oes arnaf angen Asiant Cynllunio?
- Gwybodaeth Allweddol
- Cam Cyn Ymgeisio
- Math o Gais Cynllunio
- Cyflwyno Cais
- Dilysu
- Cais Byw
- Pwyllgor Cynllunio
- Apeliadau
- Compliance / Enforcement
- Cwblhau Datblygiad
Brosiectau Cynllunio Mawr
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwiliwch am gais cynllunio
Torri rheolau cynllunio
Newid defnydd (Cynllunio)
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Systemau Draenio Cynaliadwy
Gwnewch gais am arian Adran 106
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
- Ardaloedd Cadwraeth
Cadwraeth a chefn gwlad
Enwi a rhifo strydoedd
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Archwiliad Annibynnol
- Dogfennau Cyflwyno
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Ail Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Ynni Adnewyddadwy
Cynllunio Ecoleg
Targedau ffosffad newydd
- Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
- Cyfrifiannell Gorllewin Cymru
- Mesurau Lliniaru
- Y Camau Nesaf
- Cwestiynau Cyffredin Ffosfad
- Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi
- “Effaith canllawiau CNC ar Asesiadau Amonia”
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Sefyllfa Byd Natur yn Sir Gaerfyrddin
Gwastraff
Mwy ynghylch Cynllunio