Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Drwy'r Cyngor, mae Partneriaeth Natur Sir Gâr yn derbyn cyllid grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru i greu a gwella mannau gwyrdd ar dir cyhoeddus. Mae cyllid hefyd yn cael ei ddosbarthu drwy Cadwch Gymru'n Daclus a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae gennym swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sydd wedi ymrwymo i roi prosiectau a ariennir gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar waith a gweithio gyda chymunedau. Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn canolbwyntio'n bennaf ar drefi ac ardaloedd o gwmpas trefi, neu'r rhai heb fawr ddim mynediad at natur, gyda'r nod o adfer natur lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae prosiectau blaenorol a chyfredol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhai sydd yn gwneud y canlynol:
- Annog blodau gwyllt a gwella bioamrywiaeth drwy newid arferion torri gwair.
- Plannu coed/coetir/perllan.
- Mentrau tyfu bwyd cymunedol, e.e. darparu rhandiroedd, polidwneli ac ati.
- Gwella/creu seilwaith gwyrdd - troi 'llwyd yn wyrdd'.
- Gerddi synhwyraidd cyfeillgar i natur.
Mae ein swyddog prosiect hefyd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol i rannu arbenigedd a gwybodaeth am greu/gwella eu lle lleol ar gyfer natur.
Mae Prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Sir Gaerfyrddin am gasglu barn pobl er mwyn i ni weithio gyda'n gilydd i wella mannau gwyrdd lleol yn Sir Gaerfyrddin i bawb.
Ewch i’r tudalennau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i lenwi ein harolygon, cael mynediad i gyllid, clywed am ddigwyddiadau bywyd gwyllt a mannau gwyrdd, hyfforddiant, newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf ar brosiectau yn eich ardal.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Matthew Collinson drwy anfon e-bost.