Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/10/2023

Cafodd Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin (CDLl) ei fabwysiadu yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 10 Rhagfyr 2014. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cyflwyno’r weledigaeth ofodol ar gyfer dyfodol Sir Gaerfyrddin (ac eithrio'r ardal honno sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) a fframwaith ar gyfer dosbarthu a darparu twf a datblygiad. 

Mae'n amlinellu'r cynigion a'r polisïau cynllunio defnydd tir a ddefnyddir wrth benderfynu ar geisiadau gynllunio ac wrth lywio cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer buddsoddi a thwf. Mae'r polisïau hyn yn cynnwys dyraniadau tir ar gyfer y gwahanol fathau o ddatblygiadau (h.y. tai, cyflogaeth, adwerthu, addysg, mannau agored ac ati) yn ogystal â'r meini prawf ar gyfer asesu cynigion unigol. Mae'r Cynllun yn cael effaith uniongyrchol ar fywyd pob un sy'n byw yn y Sir ac mae iddo hefyd oblygiadau mawr i raglenni buddsoddi, strategaethau a chynlluniau eraill, cymunedau a pherchenogion tir.

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn llywio'r datblygu tan 2021 a chaiff ei fonitro'n unol â'r fframwaith monitro a'i adolygu o dro i dro. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig yn disodli'r Cynllun Datblygu Unedol.

Edrychwch ar y Cynllun Datblygu Lleol


Llyfrgell yr Archwiliad ar Newidiadau yn sgil materion sy'n codi

Roedd Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd yn ddogfen ymgynghori (Mehefin 2014) a nodai nifer o newidiadau arfaethedig oedd wedi codi yn ystod sesiynau gwrandawiad yr archwiliad. Mae'r newidiadau a gynigir yn ymwneud ag elfennau o ddatganiad ysgrifenedig y Cynllun Datblygu Lleol a'r map cynigion ac maent wedi eu gosod yn y Rhestr Newidiadau yn sgil Materion sy’n Codi ac ar gael i’w gweld yn y dogfennau canlynol: 


Dogfennau mabwysiedig

Mae rhagor o fanylion am y camau canlynol yn y broses CDLl: Newidiadau Canolbwyntiedig, Safleoedd amgen, Y Fersiwn Adneuol o'r Cynllun Datblygu Lleol (gan gynnwys sylwadau a gymeradwywyd yn y Cyngor Sir - 12 Mehefin 2013), Asesu Safleoedd, Arfarniad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gael trwy e-bostio’r adain Blaen-gynllunio ar blaen.gynllunio@sirgar.gov.uk neu drwy ffonio 01267 228818.

Cynllunio