Canllaw i Orfodi Rheolau Cynllunio yn Sir Gaerfyrddin

Crynodeb Gweithredol

Mae gorfodi yn un o rannau mwyaf cymhleth y system gynllunio ac mae'n fater sy'n peri pryder i lawer o aelodau'r cyhoedd, o gofio'r angen i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd yn erbyn achosion annerbyniol o dorri rheolaeth er budd ehangach y cyhoedd.

Er yr ymchwilir i bob cwyn ddilys bob amser, nid yw bob amser yn bosibl nac yn addas i'r Awdurdod gymryd camau yn erbyn datblygiadau anawdurdodedig. Nod y Datganiad hwn felly yw sefydlu fframwaith ar gyfer disgwyliadau'r cyhoedd o ran darpariaeth gwasanaeth Gorfodi Rheolau Cynllunio gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r Datganiad hwn yn ceisio:-

  • Rhoi trosolwg o'r system gorfodi rheolau cynllunio, gan gynnwys crynodeb o'r hyn a allai fod yn gyfystyr â thorri rheolaeth gynllunio
  • Manylu ar y prosesau gorfodi a'r pwerau sydd ar gael i'r Cyngor
  • Nodi polisïau a gweithdrefnau sy'n pennu sut y bydd tîm Gorfodi Rheolau Cynllunio Sir Gaerfyrddin yn ymdrin â chwynion gorfodi mewn modd teg, rhesymol a chyson
  • Manylu ar y safonau gwasanaeth yr ydym yn ymdrechu i'w cyflawni er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â chwynion gorfodi mewn modd amserol, a bod achwynwyr yn cael gwybod am ganlyniad ymchwiliadau o'r fath ar gamau priodol