Canllaw i Orfodi Rheolau Cynllunio yn Sir Gaerfyrddin

Dull y Cyngor y orfodi Rheolau Cynllunio

Penderfynu a ddylid ystyried cymryd camau gweithredu

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod proses Rheoli Datblygu effeithiol yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol fod yn barod i gymryd camau gorfodi mewn amgylchiadau priodol. Mae gan y Cyngor rôl ddewisol ar gyfer cymryd pa gamau gorfodi bynnag sy'n angenrheidiol yn ei ardal fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Y mater pendant yw ystyried a fyddai torri rheolaeth gynllunio yn effeithio'n annerbyniol ar amwynder cyhoeddus neu'r defnydd presennol o dir ac adeiladau sy'n haeddu cael eu diogelu er budd y cyhoedd. Bydd swyddogion yn ystyried Polisi Gorfodi'r Cyngor.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn pwysleisio'r canlynol: -

  • Dylai unrhyw gamau gorfodi fod yn gymesur â'r achos o dorri rheolaeth gynllunio y mae'n ymwneud ag ef;
  • Y bwriad ddylai fod i gywiro effeithiau'r achos o dorri rheolaeth gynllunio, nid cosbi'r person(au) sy'n gyfrifol amdano;
  • Fel arfer, mae'n amhriodol cymryd camau gorfodi ffurfiol yn erbyn achos dibwys neu dechnegol o dorri rheolaeth nad yw'n achosi niwed i amwynder cyhoeddus; a
  • Ni ddylid cymryd camau gorfodi dim ond i reoleiddio datblygiadau na cheisiwyd caniatâd ar eu cyfer ond sydd fel arall yn dderbyniol.

Wrth ymchwilio i achos honedig o dorri rheolaeth gynllunio, felly, mae'r Awdurdod bob amser yn ceisio sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch y ffordd fwyaf priodol ymlaen mewn modd effeithiol ac amserol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd camau ffurfiol yn cael eu cymryd. Yn wir, mae camau o'r fath wedi'u cyfyngu i'r achosion mwyaf difrifol sy'n achosi niwed a lle mae cyfiawnhad dros gymryd camau er budd y cyhoedd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, hyd yn oed pan nodir achosion o dorri amodau, byddwn yn ceisio datrys y rhain yn anffurfiol, a all gynnwys: -

  • Trafod anffurfiol gyda pherchennog / datblygwr i ddileu toriad, neu i wneud newidiadau i ddatblygiad fel nad yw bellach yn gyfystyr â thoriad, neu nad yw bellach yn achosi niwed materol;
  • Gofyn am gyflwyno cais cynllunio i reoleiddio achos o dorri, a all gynnwys yr angen i gydymffurfio ag amodau i liniaru unrhyw niwed a achosir gan y datblygiad;
  • Dod i'r casgliad nad oes unrhyw niwed yn deillio o'r toriad, felly nid yw'n addas i'r Cyngor fynd â'r mater ymhellach.

 

Sut rydym yn penderfynu pryd y mae'n 'Addas' i gymryd camau, ai peidio?

Pan fyddwn yn ymchwilio i gwynion, a bod angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhain ('achos o dorri rheolau cynllunio') neu dorri amod, byddwn yn cynnal asesiad cychwynnol i benderfynu a fyddai'r datblygiad yn dderbyniol yn erbyn y Polisïau yng Nghynllun Datblygu Lleol mabwysiedig y Cyngor. Er y bydd natur asesiad o'r fath yn amrywio yn dibynnu ar yr achos, gall hyn gynnwys ystyried materion gan gynnwys: - egwyddor datblygu; a'r effaith ar amwynder gweledol / cymeriad lleol, diogelwch priffyrdd, ac amwynder preswyl.

Lle teimlwn fod datblygiad o'r fath yn debygol o fod yn dderbyniol, neu y gellid ei wneud yn dderbyniol drwy amod, byddem fel arfer yn ceisio cyflwyno cais i reoleiddio datblygiad.

Yn aml, bydd achosion, fodd bynnag, lle ystyrir nad yw natur y toriad yn cael unrhyw effeithiau annerbyniol, a byddwn yn dod i'r casgliad na fyddai'n 'addas' er budd y cyhoedd i gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol cyflwyno cais). Un enghraifft yw pan fo caead ffin yn dechnegol yn fwy na'r terfyn 'datblygiad a ganiateir' ond nad yw'n achosi unrhyw effaith andwyol amlwg ar amwynder cyfagos. Mewn achosion o'r fath, byddwn yn rhoi gwybod i achwynwyr am ein casgliadau ac yn cau'r ymchwiliad.

Mewn achosion lle nad yw'n addas cymryd camau pellach, rydym yn gwerthfawrogi na fydd achwynwyr bob amser yn cytuno â'n penderfyniad. Fodd bynnag, bydd swyddogion bob amser yn hapus i esbonio'r rhesymeg y tu ôl i gasgliadau o'r fath gydag achwynydd. Os bydd achwynydd yn parhau i fod yn anfodlon ar ymateb, mae Adran 6 o'r Datganiad hwn yn esbonio sut y gall fwrw ymlaen â chwyn o'r fath.