Canllaw i Orfodi Rheolau Cynllunio yn Sir Gaerfyrddin
Yn yr adran hon
- Sut bydd y Cyngor yn delio â'ch cais am wasanaeth?
- Beth os ydw i'n anfodlon ar y ffordd y cafodd yr achos ei reoli?
- Cyhoeddusrwydd i'r cynllun hwn a dogfennau gorfodi rheolau cynllunio
- Adolygu a monitro'r cynllun hwn
- ATODIAD 1 : Y Pwerau Gorfodi
Beth os ydw i'n anfodlon ar y ffordd y cafodd yr achos ei reoli?
Os ydych yn anfodlon ar y ffordd y mae'r ymchwiliad wedi'i reoli (yn hytrach na bod yn anhapus â'r canlyniad os penderfynwyd na ellir cymryd unrhyw gamau), dylech, yn y lle cyntaf, godi'r pryderon hyn gyda'r rheolwr perthnasol yn y gwasanaeth cynllunio. Os ydych yn dal yn anfodlon â'r ffordd y mae'r tîm wedi ymdrin â'ch ymholiad ar ôl gwneud hynny, gallwch gyflwyno cwyn gan ddefnyddio gweithdrefn gorfforaethol y Cyngor a nodir mewn dau gam.
Tîm Cwynion a Chanmoliaeth Neuadd y Sir
Caerfyrddin SA31 1JP
Ffôn: 01267 234567
Os ydych yn dal yn anfodlon ar y canlyniad ar ôl derbyn ymateb terfynol y Cyngor i'ch cwyn, gallwch gyfeirio'r mater at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Noder na fydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i unrhyw gŵyn hyd nes bod yr achwynydd wedi dilyn gweithdrefn gwyno gorfforaethol y Cyngor ei hun yn gyntaf a'i fod wedi ceisio datrysiad uniongyrchol gyda'r cyngor yn y lle cyntaf.