Canllaw i Orfodi Rheolau Cynllunio yn Sir Gaerfyrddin
Yn yr adran hon
- Crynodeb Gweithredol
- Beth yw Gorfodi Rheolau Cynllunio?
- Beth yw achos o Dorri Rheolau Cynllunio?
- Dull y Cyngor y orfodi Rheolau Cynllunio
- Sut y gellir rhoi gwybod am fater gorfodi?
Sut y gellir rhoi gwybod am fater gorfodi?
Os ydych yn credu bod achos o dorri rheolau cynllunio, er mwyn i'r tîm gorfodi cynllunio ymchwilio i'ch cwyn, rhaid i chi gyflwyno cwyn yn ffurfiol. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i ni gael darlun llawn o'r sefyllfa ac osgoi dyrannu adnoddau i ymholiadau na ellir mynd â hwy ymhellach.
Gallwch wneud cais am wasanaeth:
- Ar lafar drwy ffonio Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor
- Ar-lein drwy'r dudalen cyflwyno cwynion Gorfodi Rheolau Cynllunio
Mae'n ofynnol i bob cais am wasanaeth gynnwys enw llawn, rhif ffôn, cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost.
Ni ymchwilir i gais dienw am wasanaeth (oni bai bod y gŵyn yn amlwg o natur gwasanaeth difrifol, gan gynnwys dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth, gwaith ar goed sy'n destun Gorchymyn Cadw Coed, gwaith ar adeiladau rhestredig). Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwario'n ddiangen i ymchwilio i gais ffug neu gais maleisus am wasanaeth. Mae'n bwysig hefyd, pe bai angen cymryd camau cyfreithiol mewn perthynas â chwyn, y gall y Cyngor ddatgan yn y llys bod y mater wedi'i adrodd gan breswylydd lleol. Bydd yr holl fanylion a ddarperir gan achwynydd bob amser yn parhau'n gwbl gyfrinachol, oni bai bod angen y wybodaeth i'w defnyddio fel tystiolaeth yn y llys.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech resymol i'ch hysbysu cyn datgelu unrhyw wybodaeth. Efallai y bydd angen i ni hefyd gysylltu â chi cyn cynnal unrhyw archwiliad safle i ofyn am ragor o wybodaeth neu eglurhad gennych ynghylch manylion y toriad honedig.
Mae'n bosibl nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw ac felly ni ellir cymryd camau gorfodi yn ei erbyn. Fe'ch cynghorir yn gryf, cyn cyflwyno unrhyw ymholiad, i wirio a yw'r datblygiad neu'r gweithgaredd penodol sy'n peri pryder i chi eisoes yn elwa o ganiatâd cynllunio neu'n dod o fewn categori datblygiad a ganiateir. Mae'r wybodaeth hon ar gael ar ein gwefan.
Er mwyn ein helpu i ddelio â'ch achos cyn gynted â phosibl, mae'n bwysig darparu cymaint o wybodaeth ag y gallwch. Isod ceir rhestr o'r math o wybodaeth a fyddai'n ein cynorthwyo i ddelio â'ch cwyn:
- Disgrifiad cywir o leoliad neu gyfeiriad y safle penodol;
- Disgrifiad manwl o'r gweithgareddau sy'n digwydd a pham y maent yn peri pryder;
- Enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost y personau hynny sy'n gyfrifol am y toriad honedig neu'r perchnogion tir;
- Y dyddiad a'r amseroedd pan ddigwyddodd y toriad honedig;
- Unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth arall (gan gynnwys lluniau) a allai gynorthwyo;
- Eich enw a'ch manylion cyswllt fel y nodir uchod.