Canllaw i Orfodi Rheolau Cynllunio yn Sir Gaerfyrddin

Beth yw Gorfodi Rheolau Cynllunio?

Yr Amcanion

Mae'r system gynllunio yn gweithredu i reoleiddio datblygiadau a'r defnydd o dir er budd y cyhoedd. Mae cynlluniau datblygu, rheoli datblygu a gorfodi yn ffurfio'r broses gynllunio statudol yng Nghymru.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaeth gorfodi cynllunio effeithiol wrth geisio sicrhau bod polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol yn cael eu gweithredu'n gadarn ac yn rhesymol, ac nad yw uniondeb y system yn cael ei danseilio.

Yn y cyd-destun hwn, prif amcanion ein tîm gorfodi yw:

  • Monitro datblygiadau mawr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r amodau perthnasol
  • Ymchwilio i adroddiadau dilys am dorri rheolaeth gynllunio, gan weithredu'n gymesur ac yn rhesymol
  • Unioni effeithiau annymunol datblygiadau anawdurdodedig; a
  • Chymryd camau lle y bo'n briodol ac yn addas i sicrhau bod datblygiadau anawdurdodedig o dan reolaeth er budd ehangach y cyhoedd.

 

Swyddogion Gorfodi Cynllunio

Cyflawnir swyddogaeth gorfodi rheolau cynllunio'r cyngor gan Swyddogion Monitro a Gorfodi Rheolau Cynllunio'r Cyngor o fewn yr Is-adran Gynllunio (Rheoli Datblygu) yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd.

 

Fframwaith a Chanllawiau

Mae deddfwriaeth gynllunio yn rhoi'r pŵer i'r cyngor reoli'r datblygiad a'r defnydd o dir ac adeiladau er budd y cyhoedd. Nodir y pwerau hyn, yn bennaf, yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) ("y Ddeddf") a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae'r ddeddfwriaeth yn diffinio'r hyn y gellir ei ystyried yn 'ddatblygiad' ac yn nodi'r prosesau ar gyfer gorfodi yn erbyn datblygiadau anawdurdodedig.

Nodir Polisi Llywodraeth Cymru ar orfodi rheolau cynllunio yn adran 3.6 o Bolisi Cynllunio Cymru. Roedd canllawiau polisi cenedlaethol wedi'u nodi'n flaenorol yn Nodyn Cyngor Technegol 9: Gorfodi Rheolaeth Gynllunio (1997), ond mae bellach wedi'i gynnwys yn y Llawlyfr Rheoli Datblygu, gan ymgorffori lle bo'n briodol y canllawiau ar newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae hyn yn rhoi canllawiau ar pryd y mae camau gorfodi yn briodol.

Mae gan y Cyngor rôl ddewisol ar gyfer cymryd pa gamau gorfodi bynnag sy'n angenrheidiol yn ei ardal fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
Bydd yr Adran yn ystyried gorfodi o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf honno. Yn ychwanegol at hyn, rhaid i unrhyw gamau a gymerir gan y tîm gorfodi rheolau cynllunio gael eu harwain gan Gynllun Datblygu'r Cyngor (Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin a fabwysiadwyd ym mis Rhagfyr 2014 ar hyn o bryd).