Canllaw i Orfodi Rheolau Cynllunio yn Sir Gaerfyrddin

Beth yw achos o Dorri Rheolau Cynllunio?

Gallai achos o dorri rheolau cynllunio gynnwys materion fel codi adeilad neu estyniad i adeilad heb awdurdod, gweithrediadau peirianneg, newid sylweddol o ddefnydd tir, neu arddangos hysbysebion a gwaith anawdurdodedig ar adeiladau rhestredig.

Yn ogystal, gall methiant i gydymffurfio ag amod ar ganiatâd cynllunio fod yn berthnasol i orfodi cynllunio. Mae preswylwyr yn aml yn adrodd am faterion i'r Cyngor nad ydynt bob amser yn cael eu cynnwys o dan bwerau gorfodi cynllunio, er eu bod yn ymwneud ag adeiladau neu dir. Isod ceir canllaw ynghylch y cwynion y gall y tîm gorfodi rheolau cynllunio ymchwilio iddynt ai peidio.

At ddibenion y Cynllun hwn, defnyddir torri rheolaeth gynllunio yn gyffredinol a gall gynnwys materion eraill sydd y tu allan i'r Ddeddf.

Materion gorfodi rheolau cynllunio

  • Gwaith anawdurdodedig i adeiladau rhestredig;
  • Dymchwel adeiladau neu strwythurau mewn ardal gadwraeth heb awdurdod;
  • Gwaith Anawdurdodedig ar goed sy'n destun Gorchymyn Cadw Coed neu unrhyw goed mewn ardal gadwraeth;
  • Gwaith Adeiladu Anawdurdodedig (h.y. estyniadau, adeiladau allanol, ffensys, waliau);
  • Newid Anawdurdodedig o ran defnydd adeiladau a/neu dir heb ganiatâd cynllunio (gan gynnwys isrannu tai yn fflatiau/Tai Amlfeddiannaeth neu garafanau preswyl) lle nad yw'r newid defnydd yn ddatblygiad a ganiateir*;
  • Hysbysebion ac arwyddion anawdurdodedig;
  • Peidio â chydymffurfio ag amodau sy'n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio;
  • Peidio ag adeiladu yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd ar gyfer caniatâd cynllunio;
  • Gweithrediadau Peirianneg Anawdurdodedig, megis codi lefelau tir neu fyndiau pridd;
  • Cuddio gwaith adeiladu neu newid defnydd anawdurdodedig yn fwriadol
  • Cloddio mwynau heb awdurdod
  • Trin neu waredu gwastraff heb awdurdod


Materion gorfodi nad ydynt yn ymwneud â chynllunio

  • Gwaith mewnol i adeilad. Nid yw hyn yn cynnwys adeiladau rhestredig; (Rheoliadau Adeiladu o bosibl)
  • Parcio cerbydau masnachol ar y briffordd neu ar ymylon glaswellt;
  • Anghydfodau perchnogaeth tir/ffiniau neu faterion tresmasu; (Mater sifil)
  • Torri cyfamodau mewn gweithredoedd eiddo; (Mater sifil)
  • Strwythurau/ffensys dros dro sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu; (Adran Priffyrdd)
  • Strwythurau peryglus neu faterion iechyd a diogelwch eraill; (Rheoliadau Adeiladu/yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
  • Rhedeg busnes o gartref lle nad yw'r gweithgareddau'n cynnwys gweithwyr ac mae'r prif ddefnydd yn dal i fod yn breswyl;
  • Dibrisio eiddo; (Sifil)
  • Materion yn ymwneud â waliau cydrannol (Sifil)
  • Materion sy'n ymwneud â difrodi eiddo neu anaf (posibl) i bersonau (Tai/sifil)
  • Planhigion anfrodorol ymledol (sifil oni bai bod y planhigion yn tarddu o dir Awdurdod Lleol)