Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/12/2023

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: blodau yn eu gogoniant

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: mae planhigion gwyrdd yn amsugno carbon

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: Twyni tywod - amddiffynfeydd arfordirol naturiol

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: diwylliant, treftadaeth a nodweddion unigryw

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: addysg a dysgu

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: mae gorlifdiroedd yn cadw ein carpedi'n sych

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: y gampfa werdd

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: ysbrydoliaeth artistig

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: y gwasanaeth iechyd naturiol

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: cyfaill y garddwr

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: trychfilod sy'n peillio

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: rheoli gwlithod

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: sbwng i sugno dŵr

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: coed yw ysgyfaint y blaned

  • Pwysigrwydd Bioamrywiaeth: byd i ni i gyd

Mae amgylchedd naturiol Cymru yn cynnal yr amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt sy’n byw yma. Ond mae’n rhaid inni gofio fod bioamrywiaeth hefyd yn cynnal ein bywydau. Mae amgylchedd naturiol iachus yn rhan hanfodol o gymdeithas gynaliadwy a chydnerth yng Nghymru. Mae bywyd gwyllt yn rhoi inni bleser, ysbrydoliaeth a chymunedau deniadol.

Mae amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin yn bwysig i bob un ohonom - am resymau o bob math: moesegol, emosiynol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’n gwbl sylfaenol i’n cymdeithas ac yn cynnal ein llwyddiant a’n llesiant economaidd.

Er nad yw bob tro’n amlwg, mae bioamrywiaeth yn rhoi inni lawer o’r pethau sy’n cynnal ein bywydau, trwy nifer o wasanaethau pwysig: darparu, rheoleiddio, cefnogi a gwasanaethau diwylliannol.

Rydyn ni’n cael llawer o'r gwasanaethau hyn yn rhad ac am ddim! Byddai'r gost o adnewyddu’r rhain (hyd yn oed pe byddai hynny’n bosibl) yn eithriadol o gostus. Er enghraifft, mae gwenyn yn hanfodol i'n heconomi – maen nhw peillio llawer o'n cnydau fel mefus ac afalau, yn ogystal â chnydau porthiant anifeiliaid megis meillion. Yn 2007 gwnaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ymchwil a oedd yn cyfrif gwerth gwenyn i economi'r DU. Barnwyd fod gwerth y gwasanaethau gwenyn tua £200 miliwn y flwyddyn. Tybiwyd fod gwerth manwerthol yr hyn y maen nhw’n ei beillio bron yn £1 biliwn.

Yn 2019 dangosodd yr Adroddiad Cyflwr Natur ei bod yn ymddangos fod colled net bioamrywiaeth yn parhau, ac er gwaethaf peth llwyddiant yng Nghymru, megis adferiad yn niferoedd y dyfrgwn a’r barcutiaid coch, mae colli bioamrywiaeth a’r dirywiad yn statws cadwraeth ffafriol llawer o gynefinoedd a safleoedd dynodedig yn parhau. Mae newidiadau i arferion rheoli tir, trwy amaethyddiaeth a threfoli, llygredd a rhywogaethau ymledol heb fod yn rhai brodorol oll yn bwysau allweddol sy’n arwain at golli a darnio cynefinoedd a rhywogaethau.

Cynllunio