Clefyd coed ynn

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/05/2024

  • Mae coeden ynn farw yn sefyll ychydig fetrau o un sy’n ymddangos heb ei heffeithio gan y clefyd

  • Daw symptomau’r clefyd i’r golwg gyntaf yng nghoron y goeden

  • Mae dail ynn ar goed a effeithiwyd yn troi’n ddu ac yn syrthio ym mis Medi, ynghynt na’r gwymp arferol o ddail yn yr hydref

  • Briwiau siâp diemwnt ar y goeden yw prif nodwedd heintio cynnar

  • Gall canghennau marw a choed cyfan marw fynd yn frau iawn a syrthio, gan greu risg difrifol i’r cyhoedd

  • Coeden a gollodd 100% o’i chanopi

Mae clefyd coed ynn yn glefyd ffyngaidd sy’n effeithio pob rhywogaeth o goed ynn ar draws Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â gweddill y wlad.

Mae’r ffwng, ac sy’n broblem ledled Ewrop, yn cydio’i hun i ddail y coed ynn ac yn lledu i’r canghennau, gan beri i’r goeden farw. Gall canghennau marw a choed cyfan marw fynd yn frau iawn a syrthio, gan greu risg difrifol i’r cyhoedd y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef.

Daw symptomau’r clefyd i’r golwg gyntaf yng nghoron y goeden, wrth i ddail droi’n ddu a syrthio ar ddiwedd yr haf yn hytrach na’r hydref, ac mae briwiau i’w gweld weithiau oddi uwch ac oddi tan y man lle mae’r canghennau’n ymuno â boncyff y goeden.

Mae clefyd coed ynn yn fater difrifol i gynghorau a pherchnogion tir ar draws y DU; amcangyfrifir y gallai 90% o goed ynn farw o’r clefyd hwn nad oes unrhyw driniaeth ar ei gyfer ar hyn o bryd.

Beth ydym ni’n ei wneud?

  • Rydym yn gwneud yn siŵr fod yr arolygon diogelwch coed mae’n eu gwneud ar ei dir ei hun yn gyfoes a bod unrhyw waith angenrheidiol yn cael ei wneud.
  • Mae arolygon i ddod o hyd i glefyd coed ynn hefyd yn cael eu cynnal ar hyd y briffordd, gan ddechrau gyda heolydd A a B. Mae coed yn dangos o leiaf 50% o glefyd coed ynn yn cael eu tagio gyda rhuban oren neu’n cael eu chwistrellu â phaent oren er mwyn cymryd camau pellach arnynt.
  • Mae ymgyrch yn cael ei lansio i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd, yn enwedig felly o ran cyfrifoldebau perchnogion tir.
  • Fe fydd angen plannu coed newydd i wneud yn iawn am golli coed ynn, a byddwn yn mynd ati o ddifrif i chwilio am gyllid i gefnogi prosiectau ail-blannu.

Mae clefyd coed ynn yn glefyd ffyngaidd sy’n effeithio coed ynn ar draws y DU ac Ewrop. Credir iddo gyrraedd y DU tuag 20 mlynedd yn ôl o sborau ffyngaidd a gariwyd gan wynt o’r cyfandir a thrwy stoc plannu coed wedi’i heintio a fewnforiwyd o dir mawr Ewrop. Credir fod y ffwng (a elwir yn Chalara neu Hymenoscyphus fraxineus) wedi tarddu yn Asia lle y mae’n cyd-fodoli â’r rhywogaeth ynn brodorol yno, ond achosodd ddifrod helaeth ar draws tir mawr Ewrop lle y cafodd hyd at 90% o goed ynn eu lladd gan y clefyd mewn rhai ardaloedd.

Mae clefyd coed ynn yn effeithio dail coed ynn ac yn gwneud iddynt dduo, gwywo a marw o tua mis Mehefin ymlaen. Ar gyfer coed ifanc iawn, hyn a’r briwiau siâp diemwnt (darnau o risgl wedi’i afliwio) ar y cyff yw prif nodweddion heintio cynnar. Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r clefyd yn achosi’r goeden i farw o ymyl ei chanopi. Mewn coed aeddfed, arwydd cyntaf y clefyd yw brigynnau moel, marw ar ben y goeden ac ar ddiwedd y canghennau. Wrth i’r clefyd ddatblygu ac wrth i nifer a hyd canghennau marw gynyddu, mae’r goeden yn ymateb trwy dyfu dail newydd yn agosach at y prif ganghennau a’r cyff, gan roi ymddangosiad clwmpiog ‘pompom’ i’r goeden. Yn y pendraw bydd y goeden yn edrych yn fwyfwy moel a marw. Gall clefyd coed ynn arwain hefyd at afliwio, cracio a lladd y rhisgl ar waelod y cyff. Mae gan goed ynn a chanddynt y symptomau hyn risg uwch o farw a dymchwel yn sydyn, ac o’r herwydd dylent fod yn flaenoriaeth ar gyfer gwaith diogelwch os ydynt mewn ardal sy’n creu risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Gofynnwch am gyngor gan arbenigwr coed a achredwyd gyda’r Gymdeithas Goedyddiaeth, y gymdeithas broffesiynol sy’n gosod y safonau ar gyfer llawdriniaeth coed. Ceir cyfeiriadur o ymgynghorwyr a chontractwyr ar eu gwefan.

Mae clefyd coed ynn yn gyffredin ar draws Cymru’n gyffredinol ond, efallai oherwydd yr hinsawdd, mae lefel yr heintio yn arbennig o uchel yn Sir Gaerfyrddin. Nid yw union ganran y coed ynn a effeithiwyd gan y clefyd yn hysbys, ond mae’n amlwg y bydd mwyafrif y coed ynn yn y sir yn cael eu heffeithio gan y clefyd yn yr ychydig flynyddoedd nesaf ac y bydd llawer ohonynt yn marw neu’n dirywio’n ddifrifol.

Unwaith y’u heintiwyd, nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y gall coed unigol wella o’r clefyd. Efallai y bydd rhai coed yn goroesi am nifer o flynyddoedd ond, unwaith y’i heintiwyd mae’n annhebyg y bydd coeden yn goroesi am fwy na 10 mlynedd. Fodd bynnag, mae pa mor gyflym y bydd coeden a chanddi glefyd coed ynn yn dirywio yn gallu amrywio, ac mae rhai coed yn dirywio i gyflwr peryglus o fewn blwyddyn neu ddwy. Mae Forest Research yn cynnal gwaith i adnabod rhywogaethau coed ynn sydd ag ymwrthedd y gellid ei ddefnyddio i fridio stoc plannu newydd yn y dyfodol, ond nid yw’n debygol y bydd coed ynn sydd ag ymwrthedd ar gyfer eu plannu ar gael am rai blynyddoedd eto.

Yn gyffredinol nid yw clefyd coed ynn ond yn effeithio coed ynn (Fraxinus spp) gan gynnwys onnen gyffredin (Fraxinus excelsior) a rhywogaethau eraill o onnen all fod yn y DU, er enghraifft, onnen gulddail (Fraxinus angustifolia). Ni wyddys am rywogaethau coed eraill a effeithir gan glefyd coed ynn.

Mae’n bwysig glanhau eich esgidiau cyn ac ar ôl bod mewn coetir a golchi olwynion eich car neu feic i gael gwared â mwd neu ddarnau o blanhigion. Dylech osgoi cymryd toriadau neu ddeunydd planhigion o gefn gwlad.

Mae llawer o waith yn digwydd. Mae arian ar gael i gyflogi swyddog prosiect clefyd coed ynn ac fe hyfforddwyd nifer fawr o swyddogion i allu adnabod y clefyd. Yn unol ag awdurdodau lleol eraill ar draws Lloegr a Chymru, y drefn yr ydym yn ei dilyn ar gyfer rheoli clefyd coed ynn yw’r un a argymhellir gan y Cyngor Coed yn ei Gynllun Gweithredu ar glefyd coed ynn.

Rydym yn gwneud yn siŵr fod arolygon a wneir ar ein tir ein hunain megis ysgolion, parciau, meysydd parcio ac ardaloedd tai yn gyfoes a bod unrhyw waith angenrheidiol yn cael ei wneud. Mae arolygon i ddod o hyd i glefyd coed ynn yn benodol yn cael eu cynnal ar hyd y briffordd, gan ddechrau gyda heolydd A a B, yn ogystal â Llwybrau Diogel i’r Ysgol a ddefnyddir yn aml. Bydd coed yn dangos o leiaf 50% o glefyd coed ynn yn cael eu tagio gyda rhuban oren neu’n cael eu chwistrellu â phaent oren er mwyn cymryd camau pellach arnynt. Byddwn yn cysylltu â pherchnogion tir a chanddynt goed wedi’u heintio ar dir yn gyfagos i ardaloedd cyhoeddus, ac yn enwedig felly’r briffordd gyhoeddus, i sicrhau y cymerir camau priodol.

Mae ymgyrch gyfathrebu’n cael ei lansio i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd ymhlith trigolion, i addysgu perchnogion tir am eu cyfrifoldebau o ran diogelwch y cyhoedd, yn ogystal ag i hyrwyddo’r angen i blannu coed newydd i wneud yn iawn am golli coed ynn yn Sir Gaerfyrddin.

Os ydych yn bryderus fod gan goeden onnen ar dir cyhoeddus, er enghraifft, nesaf at y briffordd neu mewn parc, maes parcio neu ardal dai glefyd coed ynn, dylech roi gwybod trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Oherwydd hyd a lled y clefyd, rydym yn defnyddio trefn seiliedig ar risg wrth ddelio â choed ynn a heintiwyd, ac yn canoli ein hadnoddau yn y lle cyntaf ar ardaloedd trwm eu defnydd. O’r herwydd, bydd pob adroddiad gan aelodau’r cyhoedd yn cael eu cofnodi a’u hymchwilio yn unol â’n polisi clefyd coed ynn. Dylid rhoi gwybod i’r corff cyhoeddus perthnasol am goed ynn a effeithiwyd gan glefyd coed ynn mewn llecynnau cyhoeddus eraill.

O dan Ddeddf Cyfrifoldeb Meddianwyr 1957 ac 1984 a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 mae gan berchnogion tir gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod coed ar eu tir yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel ac nad ydynt yn creu risg i’r cyhoedd (sylwer fod hyn yn cynnwys pob coeden ac nid coed ynn yn unig). Os yw coeden ag ynddi ddiffygion amlwg yn creu niwed neu ddifrod i bobl neu eiddo wrth syrthio, neu wrth i’w changhennau syrthio, mae’n debygol iawn y gallai perchennog y tir fod yn gyfreithiol gyfrifol am niwed neu ddifrod o’r fath. Mae’n bwysig fod perchnogion tir yn cymryd camau priodol i asesu’r risg gan bob coeden ar eu tir, gan gynnwys coed ar ffiniau, sydd mewn cyflwr gwael. Mae’r risg gan goeden mewn cyflwr gwael neu sydd â changhennau marw neu yn marw yn dibynnu ar ei lleoliad yn ogystal â’i chyflwr. Bydd coed mewn cyflwr gwael sy’n agos at ardaloedd trwm eu defnydd (er enghraifft, priffyrdd) yn creu risg llawer uwch na choed mewn caeau, cloddiau a choetiroedd ymhell o dai a hawliau tramwy cyhoeddus. Cofiwch fod coed yn cynnig buddion gwerthfawr i fywyd gwyllt ac na ddylid eu cwympo onid ydynt yn creu risg i ddiogelwch y cyhoedd. Os nad ydych yn siwr cysylltwch â thyfwr coed cymwysedig. Fe’ch cynghorir i ddefnyddio meddygon coed a achredwyd gan Y Gymdeithas Goedyddiaeth gan fod y contractwyr hyn yn gweithio i’r safonau diogelwch a phroffesiynol uchaf. Gwiriwch bob tro fod gan eich contractwr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys.

Fel arfer mae coed nesaf at y briffordd gyhoeddus yn gyfrifoldeb perchennog y tir sy’n ffinio â’r briffordd. Fodd bynnag, o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau y cedwir y priffyrdd i safon ddiogel; ac o’r herwydd, gallwn wneud ceisiadau ffurfiol i berchnogion tir waredu neu docio coed sy’n creu risg i’r cyhoedd. Dylai coed ar briffyrdd sy’n cael eu defnyddio’n drwm a gollodd 50% neu ragor o’u canopi neu sy’n dangos arwyddion eraill o fethu ar fonyn y cyff (er enghraifft, heintiau neu geudodau eraill) gael eu gwaredu rhag ofn os ydynt o fewn pellter syrthio i’r briffordd, oherwydd y risg fyddai’n cael ei chreu a pha mor gyflym y gall rhai coed ynn ddirywio. Dylid monitro coed iach yn flynyddol i weld a gawsant eu heintio.

Oherwydd y nifer fawr o goed ar hyd ein priffyrdd sy’n dangos symptomau o’r clefyd, os yw ein harolwg yn dangos fod coeden onnen yn dangos o leiaf 50% o glefyd coed ynn, danfonir llythyr anffurfiol at berchennog y tir yn rhoi gwybod iddynt y dylid cwympo’r goeden. Os na chaiff ei chwympo o fewn blwyddyn, danfonir llythyr ffurfiol. Pan mae gan goeden glefyd coed ynn i’r goron o fwy na 75%, neu pan mae’n creu risg mwy di-oed, cychwynnir y broses gyfreithiol bedwar cam ffurfiol o dan y Ddeddf Priffyrdd.

Os oes angen ichi gwympo coed allai syrthio ar neu ar draws y briffordd neu achosi unrhyw berygl arall i ddefnyddwyr priffyrdd mae’n rhaid ichi gyflogi contractwr rheoli traffig cymwysedig. Byddant yn sefydlu system reoli traffig dros dro i sicrhau bod diogelwch modurwyr a cherddwyr yn cael ei reoli’n briodol yn ystod y gwaith diogelwch coed. Gellir dal perchnogion tir yn atebol a gellir eu herlyn am unrhyw anaf a achosir i’r cyhoedd oherwydd unrhyw waith y maent wedi’i drefnu / gyflawni.

Os oes angen cau ffordd er mwyn gwneud y gwaith, bydd angen i berchnogion tir wneud cais i’n his-adran priffyrdd i gau ffordd, a gellir gwneud hyn ar-lein. Bydd meddyg coed cymwysedig a phrofiadol yn gallu’ch cynghori ynghylch y trefniadau angenrheidiol y bydd angen ichi eu gwneud o ran diogelwch priffordd.

Os ydych yn methu gwaredu coeden a heintiwyd sy’n creu risg i ddiogelwch y cyhoedd, mae gennym hawl yn y pendraw i fynd ar eich tir i wneud y gwaith angenrheidiol a hawlio’r costau yn ôl. Ni fyddai hynny ond yn digwydd os ydych wedi methu gweithredu ar ein cyngor, gan ddilyn y broses gyfreithiol bedwar cam o dan y Ddeddf Priffyrdd.

Dylai coed a heintiwyd yn agos at ardaloedd trwm eu defnydd neu ardaloedd a ddefnyddir gan bobl fregus (er enghraifft, ysgolion a lleoedd chwarae) fod yn flaenoriaeth ar gyfer gwaith arolygu a diogelwch, ond dylid asesu pob coeden o fewn pellter syrthio i ardaloedd cyhoeddus i weld faint o risg ydynt. Yn gyffredinol, po isaf yw lefel y defnydd cyhoeddus, po isaf y risg. Fodd bynnag, dylid gwaredu coed ynn a gollodd 75% neu ragor o’u canopi neu sy’n dangos arwyddion o glefyd coed ynn ar fonyn y cyff ac sydd o fewn pellter syrthio i ardaloedd cymedrol eu defnydd rhag ofn. Dylai coed iach a rhai a chanddynt lefelau is o glefyd coed ynn gael eu monitro’n flynyddol.

 

Mae dyletswydd gofal perchnogion tir yn cynnwys coed a chanddynt y potensial i greu difrod i eiddo preifat yn ogystal â niwed i aelodau’r cyhoedd. Os oes gennych goeden onnen o fewn pellter syrthio i eiddo cymydog mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau nad yw’r coed hyn yn creu risg. Dylai coed iach a rhai a chanddynt lefelau is o glefyd coed ynn gael eu monitro’n flynyddol hefyd.

Os ydych yn bryderus am goed ynn ar eiddo eich cymydog, y cam gorau yw trafod hyn gyda’ch cymydog, gan dynnu sylw at y risgiau posib y mae clefyd coed ynn yn eu creu ac, os oes angen, y cyfrifoldebau cyfreithiol a orfodir ar bob perchennog tir gan Ddeddf Cyfrifoldeb Meddianwyr 1957 ac 1984. Os nad ydych yn siwr cysylltwch â thyfwr coed cymwysedig a achredwyd gan Y Gymdeithas Goedyddiaeth.

Os ydych eisiau gwneud gwaith i goeden sy’n destun Gorchymyn Diogelu Coed bydd rhaid ichi wneud cais am ganiatâd; a bydd angen ichi roi rhybudd cyn gwneud unrhyw waith ar goed sydd mewn ardal gadwraeth. Gallwch wneud cais am ganiatâd i wneud gwaith ar goed o dan TPO neu mewn ardal gadwraeth ar-lein.

Os am ryw reswm annisgwyl yw iechyd y goeden yn dod yn argyfwng a bod rhaid ei chwympo am resymau diogelwch, cymerwch ffotograffau o’r goeden i gefnogi eich penderfyniad, ac wedi ichi gwympo’r goeden cysylltwch â’r swyddog coedyddiaeth cyn gynted ag y gallwch yn rhesymol, er enghraifft, y diwrnod gwaith nesaf. E-bostiwch STEdwards@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 228689.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gyfrifol am weinyddu trwyddedau cwympo ac mae Deddf Coedwigaeth (1967) yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chwympo coed. Eithrir coed mewn gerddi, mynwentydd a llecynnau cyhoeddus agored o’r ddeddfwriaeth hon.

Er mwyn cwympo coed ynn a heintiwyd rhaid cael trwydded gan y Comisiwn Coedwigaeth, onid yw’r coed yn farw neu’n creu perygl gwirioneddol a di-oed. Ceir canllawiau llawn ar reoli coed ynn unigol a effeithiwyd gan glefyd coed ynn ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru ymchwilio achosion o gwympo coed pan na roddwyd trwydded cwympo a bydd yn cymryd camau gorfodaeth pan nad oes unrhyw eithriad amlwg ar gael. Fe’ch cynghorir i gysylltu â CNC i drafod a fydd angen trwydded cwympo arnoch cyn gwneud y gwaith.

Os yw coeden yn creu risg diogelwch uchel, hynny yw, ei bod o fewn pellter syrthio i ffordd neu gyffordd brysur, dylid cwympo’r goeden cyn gynted â phosib er mwyn cael gwared â’r risg. Fodd bynnag, pan nad yw’r clefyd coed ynn ond yn effeithio hyd at 50% o ganopi’r goeden, a phan mae amser i gynllunio ei gwaredu, efallai y byddai’n rhwyddach ei chwympo wedi i’r holl ddail syrthio ar ddiwedd yr hydref neu yn y gaeaf. Mae hon yn adeg well o’r flwyddyn hefyd o ran effaith y cwympo ar fywyd gwyllt. Dylech anelu bob tro at osgoi tymor nythu adar (yn fras o ddiwedd Chwefror i ddechrau Awst). Bydd adar yn nythu nid yn unig ymhlith y canghennau ond hefyd mewn ceudodau, ac mae’n drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) i ddinistrio aderyn, ei nyth neu ei wyau.

 

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar symud y pren. Os nad yw’r pren wedi’i effeithio gellir plancio darnau mwy a’u defnyddio ar gyfer gwaith coed a thurnio coed; neu eu gadael gyda changhennau bychain yn gynefin i fywyd gwyllt. Mae pren a effeithiwyd yn dywyllach ei liw ac yn frau iawn ac mae’n gwneud coed tân defnyddiol.

Ychydig iawn o gyngor sydd ar gael ar fioddiogelwch. Os ydych yn rheoli safle sy’n arbennig o bwysig ichi, er enghraifft parc neu efallai eich gardd, efallai y byddwch am gribinio a gwaredu / llosgi’r dail ynn sy’n syrthio o dan eich coed ynn. Bydd hyn yn dinistrio unrhyw sborau ffyngaidd a geir ar y dail. Mae hyn yn amlwg yn anymarferol mewn sefyllfa coetir. Peidiwch compostio’r dail hyn gan na fydd compostio’n lladd y sborau o reidrwydd.

Gall coed ynn aeddfed ag ynddynt dyllau a holltau gynnal ystlumod ac adar nythu ac efallai bathewod, sydd oll yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Er y gall cwympo brys fod yn angenrheidiol mewn rhai sefyllfaoedd, gall gymryd blwyddyn neu fwy i goeden a heintiwyd fynd yn beryglus, sy’n golygu y gellir cynllunio cwympo ar gyfer misoedd yr hydref a’r gaeaf a fyddai’n helpu lleddfu unrhyw effeithiau negyddol ar fywyd gwyllt. Dylid osgoi cwympo coed yn ystod tymor nythu adar, yn fras o ddiwedd Chwefror i ddechrau Awst. Dylai cwympo coed mewn argyfwng sy’n cynnwys craciau a holltau a allai gynnal ystlumod ddefnyddio ‘technegau cwympo meddal’, hynny yw, gadael y darnau a gafodd eu cwympo ar y llawr am 48 awr wedi eu cwympo i alluogi ystlumod a bywyd gwyllt arall i adael y pren. Gal fod dewisiadau eraill yn lle gorfod cwympo’r goeden gyfan, er enghraifft, gall fod yn bosib cadw’r cyff, a gallai hwnnw fod o werth mawr i fywyd gwyllt. Dylid trafod y bwriad i gwympo coed ynn mewn coetiroedd sy’n cynnal pathewod gyda thîm trwyddedu rhywogaethau CNC.

Yn anffodus, nid oes unrhyw grantiau ar gael ar hyn o bryd ar gyfer delio â chlefyd coed ynn. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon os oes unrhyw newid.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyngor ar goetiroedd trwy ein prosiect Coed Cymru. Cysylltwch â’n swyddog Coed Cymru i gael mwy o wybodaeth; e-bost GHellier@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01558 825303. Mae cyngor ar gael hefyd ar wefannau Coed Cadw a’r Cyngor Coed.

Ein cyngor arferol yng nghefn gwlad yw y dylech blannu rhywogaethau sy’n frodorol neu eisoes yn gyffredin yn y dirwedd. Mewn gerddi a thirluniau mwy ffurfiol efallai yr hoffech gyflwyno rhywogaeth addurniadol newydd. Ni ddylech ond prynu coed a dyfwyd yn y DU, ac yn ddelfrydol yng Nghymru.

Coed ar gyfer cefn gwlad yn gyffredinol:

  • Derwen ddisymud
  • Pisgwydden ddeiliog fechan, nad ydynt yn gyffredin ar hyn o bryd ond sydd erbyn hyn yn cael eu hystyried yn addas i’w plannu yn Sir Gaerfyrddin
  • Ffawydden
  • Aethnen
  • Ffawydden Albanaidd

Coed ar gyfer gerddi mawr a llecynnau mwy:

  • Planwydden
  • Tiwlipwydden
  • Masarnen Norwy
  • Pisgwydden – dail bach neu amrywiadau eraill
  • Ffawydden Albanaidd
  • Derwen
  • Oestrwydden
  • Ffawydden
  • Castanwydden felys
  • Celynnen

Coed ar gyfer llecynnau llai:

  • Bedwen arian neu gyffredin
  • Aethnen – ond gall dorri crachgoed
  • Afal sur bach
  • Cerddinen
  • Cerddinen wen
  • Masarnen fach
  • Celynnen

Os oes angen i chi gwympo coed a allai ddisgyn i neu ar draws yr Hawl Tramwy Cyhoeddus neu achosi unrhyw berygl arall i ddefnyddwyr Hawliau Tramwy, rhaid i chi gysylltu â'r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad, e-bost prow@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01554 742216.

Os bydd angen, byddant yn cyhoeddi Hysbysiad Cau ar Frys i atal mynediad y cyhoedd am uchafswm o 6 wythnos tra bo'r gwaith yn cael ei wneud. Gellir dal perchnogion tir yn atebol a gellir eu herlyn am unrhyw anaf a achosir i’r cyhoedd oherwydd unrhyw waith y maent wedi’i drefnu / gyflawni. Bydd meddyg coed cymwysedig a phrofiadol yn gallu’ch cynghori ynghylch y trefniadau angenrheidiol y bydd angen ichi eu gwneud o ran diogelwch priffordd.

Llwythwch mwy

Cynllunio