Log in to My Account
Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023
Rhowch wybod i ni am unrhyw dyllau a allai achosi perygl i ddefnyddwyr y ffordd. Bydd tyllau yn cael eu hatgyweirio yn ôl eu risg.
Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd
Rydym yn cynnal archwiliadau rheolaidd ond os byddwch yn darganfod golau stryd ddiffygiol, rhowch wybod amdano gan y bydd yn ein helpu i flaenoriaethu atgyweiriadau.
Rhoi gwybod am olau stryd ddiffygiol
Rhowch wybod i ni os yw coeden yn rhwystro ffordd gyhoeddus neu os ydych yn pryderu ei bod bron syrthio neu'n achosi perygl.
Rhoi gwybod am goed peryglus / wedi cwympo
Rydym yn torri gwrychoedd unwaith y flwyddyn. Ond, os effeithir ar welededd ar y ffordd rhowch wybod. Rhaid inni waredu ar chwyn ymledol/niweidiol e.e. llysiau'r gingroen.
Rhoi gwybod am lystyfiant wedi gordyfu / chwyn niweidiol
Mae angen i ni wybod a oes unrhyw ollyngiadau, anifeiliaid marw neu rwystrau ar ffordd gyhoeddus, palmant neu dir sy'n eiddo i'r cyngor.
Rhoi gwybod am falurion / rwystr / tirlithriad
Rhowch wybod i ni am lifogydd ar ffyrdd cyhoeddus neu am ddraen wedi blocio.
Rhoi gwybod am lifogydd / ddraen wedi blocio ar Briffordd
Os ydych chi wedi sylwi ar glawr twll /draen wedi torri neu ddifrodi, rhowch wybod i ni.
Rhoi gwybod am glawr twll archwilio / draen wedi difrodi
Rhowch wybod i ni os yw rhywbeth yn achosi perygl ichi faglu. Er enghraifft: slab/palmant rhydd neu wedi torri, gorchudd tyllau wedi'i godi neu wedi'i falu.
Rhoi gwybod am berygl baglu
Pan fydd tywydd garw'r Gaeaf yn effeithio ar y sir, rydym yn blaenoriaethu'r llwybrau rydym yn eu graeanu. Os ydych chi'n poeni am ffyrdd/palmentydd rhewllyd, cysylltwch â ni.
Rhoi gwybod am beryglon Y Gaeaf
Rhowch wybod am farciau ffordd ddiffygiol neu lygaid cathod wedi gwanhau. Rhowch wybod hefyd am arwydd ffordd wedi'i ddifrodi neu ar goll.
Rhoi gwybod am farciau / arwyddion ffordd diffygiol
Rhowch wybod am bont / wal sydd wedi'i difrodi neu wedi'i dymchwel.
Rhoi gwybod am strwythur ar briffordd
Os nad yw golau traffig dros dro yn gweithio, rhowch wybod i ni.
Rhoi gwybod am oleuadau traffig dros dro diffygiol
Rhoi gwybod am oleuadau traffig parhaol diffygiol
Rhowch wybod am ffens, rhwystr neu folard sydd ar goll, wedi'i difrodi neu sydd wedi syrthio.
Rhoi gwybod am ffensys / rhwystrau wedi difrodi
Rydym yn atgyweirio ac yn cynnal a chadw'r cysgodfannau bysiau yn y sir. Rhowch wybod os ydych yn sylwi ar unrhyw ddifrod neu un sydd angen ei lanhau.
Rhoi gwybod am broblem gyda chysgodfan fysiau
Rhowch wybod os yw cerbyd wedi'i adael mewn ardal am gyfnod neu os nad oes ganddo berchennog cofrestredig. Efallai nad yw wedi'i drethu a gall hefyd fod mewn cyflwr peryglus.
Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
Rhowch wybod os ydych yn ymwybodol o unrhyw folardiau neu seddi ar y llwybr troed sydd wedi'u difrodi neu ar goll.
Rhoi gwybod am ddodrefn stryd wedi difrodi / ar goll