Rhoi gwybod am goed peryglus / wedi cwympo

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/02/2024

Gall coed, fel unrhyw beth byw, fynd yn sâl (trwy afiechyd neu bla) neu gael eu hanafu (trwy gracio neu ddifrod ffisegol). Bydd y rhan fwyaf o goed yn byw am amser hir ac yn berffaith iach heb fawr o waith cynnal a chadw, ond efallai y bydd angen rhywfaint o sylw ar eraill o bryd i'w gilydd yn dibynnu ar eu lleoliad.

Rhowch wybod inni am goed sy'n beryglus oherwydd eu bod:

  • yn amharu ar gerbydau neu gerddwyr
  • yn blocio goleuadau stryd, arwyddion ffyrdd neu oleuadau traffig
  • mewn perygl o gwympo neu fod coeden neu ran o'r goeden wedi cwympo

I roi gwybod am hyn, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
  • Lleoliad y Coed - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd
  • Math / maint - os ydych chi'n gwybod y math o goeden ac yn gallu rhoi amcangyfrif i ni o'i maint
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

Os yw coeden ar eich tir, mae'n ddyletswydd arnoch i sicrhau bod eich coeden / coed yn cael eu cadw mewn modd diogel.

Yn achos coed sydd wedi cwympo ar linellau ffôn, cysylltwch â British Telecom ar 0800 023 2023.

Yn achos coed sydd wedi cwympo ar linellau pŵer, cysylltwch â Western Power Distribution ar 0800 678 3105.

rhoi gwyboD am goed peryglus / wedi cwympo

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol, mae Llesiant Delta yn darparu gwasanaeth mewn argyfwng ar *0300 333 2222. Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer argyfwng ac mae ar gael ar ôl 6pm a hyd at 8.30am ar ddiwrnodau gwaith, ac ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gŵyl Banc.

Gallwch roi gwybod nawr am unrhyw achosion brys tu allan i oriau ar wefan Llesiant Delta.

Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio