Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Bydd chwiliad priffyrdd safonol yn darparu gwybodaeth am y canlynol mewn perthynas ag eiddo neu ffordd benodol:
- Statws priffordd ffyrdd a enwir
- Cynlluniau ffyrdd (o fewn 200m)
- Cynlluniau traffig
- Hysbysiadau sydd heb ddod i ben sy'n ymwneud â phriffyrdd
- Gorchmynion prynu gorfodol
Beth sydd ei angen arnom ni gennych chi
I brosesu eich chwiliad, mae angen y canlynol arnom:
- Eich cais am chwiliad
- Cynllun sy'n amlygu'n glir y ffyrdd sydd eu hangen
- Nid oes angen talu ffi ar hyn o bryd
Sut mae gwneud cais:
Gofynnir i chi gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Enw/Cwmni
- Rhif Ffôn
- E-bost
- Cyfeiriad cyswllt
- Cyfeiriad yr Eiddo ar gyfer y Chwiliad
- Ffyrdd Ychwanegol (Hyd at 3 ffordd ychwanegol os oes angen)
Rydym yn ceisio ymateb i bob cais a ddaw i law drwy e-bost i Chwiliadau Priffyrdd Highwaysearches@sirgar.gov.uk o fewn 10 diwrnod gwaith.