Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Mae symud cerbydau wedi'u gadael, wedi'u llosgi ac anaddas i'r ffordd fawr yn fater o bwys er mwyn gwella diogelwch ar ein ffyrdd ac yn ein cymunedau.
Os ydym yn credu bod cerbyd wedi cael ei adael, gellir gwirio gyda'r DVLA er mwyn darganfod manylion y perchennog presennol. Os ystyrir bod y cerbyd mewn cyflwr peryglus, caiff ei flaenoriaethu a byddant yn ei gasglu o fewn 24 awr. Bydd cerbydau sydd wedi'u gadael ar dir preifat yn cael cyfnod rhybudd 15 niwrnod, fel arfer ar ôl ymgynghori â pherchennog neu asiant y tir.
Er mwyn ein helpu i fynd i'r afael â cherbyd wedi'i adael yn gyflym, rhowch yr wybodaeth ganlynol i ni am y cerbyd:
- Gwneuthuriad, model a lliw'r cerbyd
- Rhif cofrestru'r cerbyd (Os yw'r platiau cofrestru ar goll gallwch gael yr wybodaeth hon o'r ddisg treth os yw wedi'i harddangos)
- Cyflwr y cerbyd (gan fanylu ar unrhyw fandaliaeth)
- Dyddiad terfyn y ddisg treth, os yw wedi'i harddangos
- Union leoliad y cerbyd
- Pa mor hir y gadawyd y cerbyd
- Unrhyw wybodaeth arall, e.e. y perchennog neu'r defnyddiwr posib.
Os byddwch am roi gwybod am gerbyd heb ei drethu cysylltwch â'r Swyddfa Cofrestru Cerbydau, Cerbydau Heb Eu Trethu, Long View Road, Abertawe, SA99 1AN.
Os credwch fod y cerbyd wedi'i ddwyn neu os yw'n achosi rhwystr, rhowch wybod i Heddlu Dyfed-Powys drwy ffonio 101.