Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi defnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau Strydoedd Ysgol ar draws y sir. Yn 2022 comisiynodd Cyngor Sir Caerfyrddin ymgynghorwyr cynllunio trafnidiaeth annibynnol i helpu i benderfynu pa ysgolion cynradd allai fod yn addas ar gyfer cynllun Strydoedd Ysgol.
Roedd y broses hon o werthuso ysgolion yn defnyddio sawl maen prawf, a oedd yn cynnwys:
- Cyd-destun ysgolion unigol
- Cyd-destun priffyrdd lleol
- Seilwaith teithio llesol lleol presennol (cerdded, olwynio a beicio
- Hanes 'damweiniau a fu bron â digwydd' neu wrthdrawiadau a riportiwyd
- P'un a oes lleoliad 'Parcio a Chamu' priodol ar gael o fewn pellter cerdded rhesymol.
Ar hyn o bryd mae dau gynllun Strydoedd Ysgol ar waith yn y sir, ac mae gwaith dichonoldeb yn cael ei wneud ar gynllun arall ar hyn o bryd.
Y ddau gynllun sy'n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yw:
- Ysgol Gynradd Maes y Morfa
- Ysgol Gynradd Porth Tywyn
Ysgol Gynradd Maes y Morfa
Mae'r cynllun Strydoedd Ysgol yn Ysgol Gynradd Maes y Morfa yn cynnwys rhan o Stryd Olive a Theras Bowen yn ei gyfanrwydd. Gweler y map (isod), sy'n dangos y ffyrdd sydd ar gau i yrwyr (ac eithrio deiliaid hawlenni) yn ystod amseroedd gollwng a chasglu'r ysgol.
Mae'r cynllun ar waith o ddydd Llun i ddydd Gwener 8:30-9:10yb a 2:40-3:20yp.
Ysgol Gynradd Porth Tywyn
Mae'r cynllun Strydoedd Ysgol yn Ysgol Gynradd Porth Tywyn yn cynnwys Parc Elkington yn ei gyfanrwydd. Gweler y map (isod), sy'n dangos y ffyrdd sydd ar gau i yrwyr (ac eithrio deiliaid hawlenni) yn ystod amseroedd gollwng a chasglu.
Mae'r cynllun ar waith o ddydd Llun i ddydd Gwener 8:25-9:05yb a 2:50-3:30yp.
Strydoedd Ysgol Caeau Chwarae Pen-y-gaer
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi comisiynu ymgynghorydd trafnidiaeth annibynnol i ymchwilio i ddichonoldeb gweithredu cynllun Strydoedd Ysgol ar safle ysgol Caeau Chwarae Pen-y-gaer, sy'n cynnwys Ysgol Gynradd Pen-y-gaer ac Ysgol Gymraeg Dewi Sant.
Mae'r cynllun Strydoedd Ysgol arfaethedig ar safle ysgol Caeau Pen-y-gaer yn cynnwys cyfyngiadau ar hyd rhan o Goedlan Bryndulais a Chae Cotton a Heol Pen-y-gaer ar hyd eu cyfanrwydd. Gweler y map (isod), sy'n dangos y ffyrdd y bwriedir eu cau yn ystod amseroedd gollwng a chasglu.
Yr amseroedd arfaethedig ar gyfer cyfyngiadau dros dro yw o ddydd Llun i ddydd Gwener 8:30-9:00yb a 3:00-3:30yp, ond mae'r amseroedd hyn yn destun ymgynghoriad pellach.
Y bwriad yw y bydd y cynllun yn cael ei gefnogi gan safle Parcio a Chamu ym Maes Parcio Farmfoods, sydd oddeutu 5 munud ar draed o'r ysgol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu gwneud gwelliannau teithio llesol o'r safle Parcio a Chamu i'r ysgol ar hyd Heol Pen-y-gaer, Cae Cotton, Heol Goffa a Choedlan Bryndulais i gefnogi'r fenter Strydoedd Ysgol. Bydd hyn o bosibl yn cynnwys gwelliannau i lwybrau troed ac i gyffyrdd allweddol er mwyn cynyddu diogelwch a chysur i gerddwyr a'r rhai sy'n olwynio.
Parcio a Chamu Arfaethedig
Mae Parcio a Chamu yn gweithio mewn ffordd debyg i gynlluniau parcio a theithio confensiynol; Ei bwrpas yw annog rhieni a gwarcheidwaid sydd fel arfer yn gyrru eu plant i'r ysgol i barcio i ffwrdd o giât yr ysgol (fel arfer mewn ardal ddynodedig) a defnyddio dulliau teithio llesol (cerdded, olwyn, beicio neu sgwtera) ar gyfer rhan olaf y daith i'r ysgol.
Mae lleoliadau nodweddiadol ar gyfer safleoedd Parcio a Chamu yn cynnwys meysydd parcio siopau, meysydd parcio tafarndai, meysydd parcio'r eglwys a neuadd bentref, a darnau tawel o ffordd i ffwrdd o ysgolion.
Mae Parcio a Chamu yn cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys:
- Lleihau tagfeydd y tu allan i gatiau'r ysgol, sy'n ei gwneud yn fwy diogel i bawb ac o fudd i breswylwyr sy'n byw gerllaw ysgolion
- Cefnogi plant nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgol i ddefnyddio dulliau teithio llesol am o leiaf ran o'u taith
- Cefnogi rhieni y mae angen iddynt yrru i wneud teithiau ar ôl gollwng neu gasglu eu plant.