Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Yn yr adran hon
Trosolwg - Tywydd Garw
Mae'r rhwydwaith priffyrdd yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn parhau i weithredu yn ystod digwyddiadau tywydd garw. O hwyluso gwasanaethau golau glas i ymateb i argyfyngau neu helpu dysgwyr i gyrraedd yr ysgol, sicrhau bod pobl yn cyrraedd y gwaith neu fwyd yn cyrraedd silffoedd, mae'r rhwydwaith priffyrdd yn darparu achubiaeth hanfodol ar gyfer ein cymunedau lleol. Mae cadw'r achubiaeth hon mor agored a hygyrch â phosibl yn ystod tywydd garw yn rôl allweddol a gyflawnir gan Dîm Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor Sir.
Gan Sir Gaerfyrddin y mae'r rhwydwaith priffyrdd ail fwyaf yng Nghymru, ac nid yw bob amser yn bosibl sicrhau bod pob un o'r 3,500 cilomedr o briffordd ar agor ac yn hygyrch bob amser. Felly, mabwysiadwyd dull sy'n seiliedig ar risg gan ddefnyddio Hierarchaeth Rhwydwaith Priffyrdd i neilltuo adnoddau i'r llwybrau prifwythiennol pwysicaf.
Mae ymateb gweithredol y Tîm Priffyrdd a Thrafnidiaeth i dywydd garw yn cael ei gynyddu neu ei leihau yn unol â'r effeithiau tywydd a ragwelir. Lle mae'r digwyddiadau tywydd yn arbennig o arwyddocaol, gellir sbarduno ymateb amlasiantaeth yn unol â gweithdrefnau Cynllunio Brys (Argyfyngau Sifil) y Cyngor. Efallai y bydd y Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd hwn yn cael ei weithredu fel rhan o hyn naill ai er mwyn cefnogi dull amlasiantaeth, i ymateb i Argyfwng Priffyrdd neu ei weithredu ar wahân.
Amcan y Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd yw sicrhau rhwydwaith priffyrdd cydnerth yn ystod digwyddiadau tywydd peryglus. Yn unol â'r Côd Ymarfer "Seilwaith Priffyrdd a Reolir yn Dda" mae'r Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd bellach yn cwmpasu holl effeithiau'r tywydd ar y rhwydwaith priffyrdd. Mae hwn yn ehangu ar y dull traddodiadol a ganolbwyntiodd ar weithrediadau i fynd i'r afael â'r risg o eira a rhew ac yn adlewyrchu effeithiau ehangach newid yn yr hinsawdd ar ein tywydd.
Mae'r cylch gwaith ehangach hwn o effeithiau sy'n gysylltiedig â'r tywydd yn cynnwys:
- Glaw trwm a digwyddiadau storm
- Llifogydd llanwol, dŵr wyneb ac afonol
- Gwyntoedd eithafol
- Tymheredd uchel am gyfnod hir / tywydd poeth
- Tywydd eithafol y gaeaf
Mae effeithiau'r digwyddiadau hyn yn dod yn fwyfwy amlwg a gallant ddylanwadu'n sylweddol ar fywydau ein preswylwyr a defnyddwyr ein priffyrdd. Mae'r gwahanol ddigwyddiadau tywydd yn gofyn am ymatebion penodol a gynlluniwyd yn unol â'r risg. O ganlyniad, mae ein dull gweithredu wedi'i ehangu gyda mwy o ffocws ar ragolygon tywydd a gwybodaeth, rheoli adnoddau a chynllunio gweithredol ar gyfer y digwyddiadau tywydd a ragwelir neu a brofir.