Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd

Trosolwg - Tywydd Garw

Mae'r rhwydwaith priffyrdd yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn parhau i weithredu yn ystod digwyddiadau tywydd garw. O hwyluso gwasanaethau golau glas i ymateb i argyfyngau neu helpu dysgwyr i gyrraedd yr ysgol, sicrhau bod pobl yn cyrraedd y gwaith neu fwyd yn cyrraedd silffoedd, mae'r rhwydwaith priffyrdd yn darparu achubiaeth hanfodol ar gyfer ein cymunedau lleol. Mae cadw'r achubiaeth hon mor agored a hygyrch â phosibl yn ystod tywydd garw yn rôl allweddol a gyflawnir gan Dîm Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor Sir.

Gan Sir Gaerfyrddin y mae'r rhwydwaith priffyrdd ail fwyaf yng Nghymru, ac nid yw bob amser yn bosibl sicrhau bod pob un o'r 3,500 cilomedr o briffordd ar agor ac yn hygyrch bob amser. Felly, mabwysiadwyd dull sy'n seiliedig ar risg gan ddefnyddio Hierarchaeth Rhwydwaith Priffyrdd i neilltuo adnoddau i'r llwybrau prifwythiennol pwysicaf.

Mae ymateb gweithredol y Tîm Priffyrdd a Thrafnidiaeth i dywydd garw yn cael ei gynyddu neu ei leihau yn unol â'r effeithiau tywydd a ragwelir. Lle mae'r digwyddiadau tywydd yn arbennig o arwyddocaol, gellir sbarduno ymateb amlasiantaeth yn unol â gweithdrefnau Cynllunio Brys (Argyfyngau Sifil) y Cyngor. Efallai y bydd y Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd hwn yn cael ei weithredu fel rhan o hyn naill ai er mwyn cefnogi dull amlasiantaeth, i ymateb i Argyfwng Priffyrdd neu ei weithredu ar wahân.

Amcan y Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd yw sicrhau rhwydwaith priffyrdd cydnerth yn ystod digwyddiadau tywydd peryglus. Yn unol â'r Côd Ymarfer "Seilwaith Priffyrdd a Reolir yn Dda" mae'r Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd bellach yn cwmpasu holl effeithiau'r tywydd ar y rhwydwaith priffyrdd. Mae hwn yn ehangu ar y dull traddodiadol a ganolbwyntiodd ar weithrediadau i fynd i'r afael â'r risg o eira a rhew ac yn adlewyrchu effeithiau ehangach newid yn yr hinsawdd ar ein tywydd.

Mae'r cylch gwaith ehangach hwn o effeithiau sy'n gysylltiedig â'r tywydd yn cynnwys:

  • Glaw trwm a digwyddiadau storm
  • Llifogydd llanwol, dŵr wyneb ac afonol
  • Gwyntoedd eithafol
  • Tymheredd uchel am gyfnod hir / tywydd poeth
  • Tywydd eithafol y gaeaf

Mae effeithiau'r digwyddiadau hyn yn dod yn fwyfwy amlwg a gallant ddylanwadu'n sylweddol ar fywydau ein preswylwyr a defnyddwyr ein priffyrdd. Mae'r gwahanol ddigwyddiadau tywydd yn gofyn am ymatebion penodol a gynlluniwyd yn unol â'r risg. O ganlyniad, mae ein dull gweithredu wedi'i ehangu gyda mwy o ffocws ar ragolygon tywydd a gwybodaeth, rheoli adnoddau a chynllunio gweithredol ar gyfer y digwyddiadau tywydd a ragwelir neu a brofir.


Gwybodaeth am y Tywydd

Mae gwybodaeth amserol a chywir yn elfen hanfodol wrth reoli'r ymateb gweithredol i ddigwyddiadau tywydd sy'n datblygu. Mae'r tywydd yn y DU yn destun set dynamig a chymhleth iawn o newidion, a datblygir rhagolygon i ddarparu'r ddealltwriaeth orau bosibl o dywydd tebygol. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod mai rhagolygon yn unig yw'r rhain a gall y tywydd gwirioneddol fod yn wahanol i'r hyn a ddisgwylir.

Mae Tîm Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor Sir yn gweithio'n agos gyda nifer o asiantaethau i rannu gwybodaeth a chydlynu ymatebion. Mae gwybodaeth fanwl y gallwn ei darparu ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn galluogi rhagolygwyr i wella manylion eu rhagolygon sy'n helpu gyda'n hymateb.

Fel arfer bydd yr awdurdod yn cael rhybudd o dywydd garw ymlaen llaw drwy'r gwasanaethau canlynol:

  • Y Ganolfan Darogan Llifogydd Genedlaethol.
  • Ymgynghorydd Argyfyngau Sifil y Swyddfa Dywydd.
  • Rhybuddion Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Rhybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd (Rhybuddion Melyn/Oren/Coch).
  • Rhagolygon tywydd ffordd lleol pwrpasol ar gyfer peryglon y gaeaf.
  • Safleoedd monitro tywydd ar ochr y ffordd a systemau rhybuddio o fewn Sir Gaerfyrddin a'r ardal gyfagos.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu gwybodaeth i'n hasiantaethau partner a'n rhagolygwyr tywydd o gyfres o orsafoedd tywydd sydd wedi'u lleoli'n strategol o amgylch y Sir i ddarparu'r gynrychiolaeth orau bosibl o dywydd lleol. Ar hyn o bryd mae 13 o orsafoedd tywydd pwrpasol o'r fath sy'n darparu ystod eang o ddata tywydd drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys gwybodaeth am dymheredd wyneb y ffordd, tymheredd aer, lleithder, data gwynt a glawiad ynghyd â delweddau camera amser real.

Mae'r gorsafoedd wedi'u cysylltu o bell â system wybodaeth am dywydd sy'n casglu data y mae ein partneriaid yn ei gyrchu ac sydd ar gael i staff yn yr is-adran priffyrdd bob amser gan gynnwys y tu allan i'r oriau arferol. Mae cysylltiadau â'r system hefyd yn cael eu darparu i'r sefydliad rhagweld tywydd sy'n galluogi gwasanaeth monitro a rhagweld lleol mwy manwl ac wedi'i deilwra. Cedwir golwg ar y system bob awr o'r dydd a’r nos gan ein rhagolygwyr tywydd a rhoddir rhybudd i Swyddogion y Cyngor Sir sydd ar ddyletswydd pan welir bod yr amodau'n troi'n ddifrifol. Mae hyn hefyd yn arbennig o ddefnyddiol wrth reoli tywydd garw eithafol.

Dyma leoliadau'r gorsafoedd tywydd presennol:

  • Y Mynydd Du
  • Bryn Iwan
  • Carmel
  • Pump-hewl
  • Ffordd osgoi Cydweli
  • Llangadog
  • Meidrim
  • Pont-tyweli
  • Porth-y-rhyd
  • Pumsaint
  • Tafarn Jem
  • Tanerdy
  • Hendy-gwyn ar Daf

Rheoli Adnoddau

Mae'r ymateb gweithredol i'r digwyddiadau tywydd yn cael ei reoli'n gymesur mewn ymateb i ddifrifoldeb disgwyliedig y digwyddiad a'r risgiau tebygol y bydd y digwyddiad yn eu peri. Pan fydd digwyddiad tywydd yn ddifrifol neu y disgwylir iddo bara am gyfnod hir, efallai y bydd angen neilltuo adnoddau i ardaloedd risg allweddol a bydd angen gwneud penderfyniadau gweithredol ar y sail hon.

Er enghraifft, mae hyn wedi bod yn wir o'r blaen gyda thywydd gaeafol difrifol lle, oherwydd cyfyngiadau cyflenwr halen neu yrwyr graeanu, bu’n rhaid lleihau rhwydwaith trin arferol y gaeaf i Rwydwaith Cydnerth o lwybrau a oedd yn canolbwyntio ar gynnal y ffyrdd strategol allweddol yn unig. Fel arall, yn ystod cyfnod hir o eira yn 2018, ar ôl sicrhau bod y Prif Rwydwaith wedi'i drin yn foddhaol, roedd yn bosibl trin nifer o is-ffyrdd a oedd yn darparu mynediad i'r pentrefi mwy ynysig.

Yn ystod cyfnodau o alw mawr, gan gynnwys digwyddiadau tywydd garw, mae adnoddau yn cael eu rheoli a gellir defnyddio adnoddau ychwanegol yn gymesur â'r risg a berir neu a ragwelir. Cytunir ar hyn ymlaen llaw yn gyffredinol gydag Uwch-reolwyr yn dilyn rhybuddion tywydd a llifogydd swyddogol. Fel arfer, bydd hyn yn golygu y bydd gweithwyr priffyrdd ychwanegol wrth law ac yn barod i ddelio ag effeithiau digwyddiad tywydd ac mae'r ymateb hwn yn cael ei gynyddu neu ei leihau yn unol â'r risg.

Lle mae'r risg yn sylweddol, efallai y bydd adnoddau allanol ychwanegol hefyd yn cael eu defnyddio i gynorthwyo timau priffyrdd drwy gontractau masnachol ar gyfer gwasanaethau megis pwmpio pwysedd uchel, jetio a glanhau cwteri mewn ymateb i lifogydd, gan ysgubo i glirio malurion o ffyrdd, JCBs i gael gwared ar goed cwympedig, gwasanaethau tyfwr coed arbenigol ar gyfer symud coed a chwmnïau rheoli traffig i gynorthwyo gyda chau ffyrdd, a dargyfeirio.


Digwyddiadau Storm

Rheolir ymateb yr adran Priffyrdd i ddigwyddiadau storm a ragwelir yn gymesur â maint a difrifoldeb y digwyddiad tywydd a ragwelir. Gall digwyddiadau tywydd arbennig o sylweddol sbarduno ymateb amlasiantaethol ehangach yn unol â gweithdrefnau Cynllunio Brys.


Llifogydd

Yn gyffredinol, mae nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gyfrifol am reoli llifogydd gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru (Prif Afonydd, Arfordirol a Llanwol), yr Awdurdod Dŵr (Llifogydd o garthffosydd), Cyrsiau Dŵr Arferol (Amddiffyn rhag Llifogydd CSC), Dŵr Daear a Dŵr Wyneb (Amddiffyn rhag Llifogydd CSC).

Fel arfer, caiff rhybuddion llifogydd eu cyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru a dangosir y mathau o rybudd a roddir yn y tabl isod sydd hefyd yn nodi'r ymateb sefydliadol neu amlasiantaethol tebygol.

Lle mae llifogydd ar ffyrdd oherwydd llanw uchel iawn, cyrsiau dŵr cyfagos yn torri eu glannau neu ddŵr wyneb o dir cyfagos, efallai y bydd angen sicrhau diogelwch y cyhoedd drwy gau ffyrdd hyd nes bod y dŵr llifogydd yn cilio ac yn caniatáu i'r ffyrdd gael eu hailagor yn ddiogel unwaith eto.

Mae'r awdurdod priffyrdd yn gyfrifol am reoli dŵr sy'n naturiol yn disgyn ar wyneb y briffordd. Ein prif ffocws yw tynnu dŵr wyneb o'r briffordd mewn modd mor effeithiol â phosibl er mwyn lleihau'r risg i ddefnyddwyr y ffordd. Mae glanhau cwteri ffyrdd yn rheolaidd a rheoli'r gwaith o gydgysylltu pibellau a chwlfertau yn ddull allweddol o leihau'r risg y bydd dŵr yn sefyll ar wyneb y ffordd. Mae'r risg o gwteri wedi'u rhwystro oherwydd dail ar ei mwyaf yn ystod yr hydref.

Cyn cyfnodau lle y rhagwelir glawiad trwm bydd Timau Priffyrdd yn gwirio lleoliadau ar y rhwydwaith lle y ceir perygl hysbys o lifogydd i waredu unrhyw rwystrau amlwg yn ogystal â chlirio gridiau sbwriel ymlaen llaw ar asedau perygl llifogydd â blaenoriaeth.

Deellir bod dwyster cynyddol o law yn cael ei brofi'n amlach oherwydd newid yn yr hinsawdd. Gall y cyfnodau hyn o lawiad dwysedd uchel greu cyfaint o ddŵr wyneb yn gyflym sydd, am gyfnod o amser, yn uwch na chapasiti'r systemau draenio'r briffordd. O ganlyniad, gall fod yna byllau dŵr wyneb am gyfnod. Fel arfer bydd y pyllau hyn yn diflannu wrth i'r glawiad arafu ac wrth i ddraeniau'r priffyrdd glirio'r dŵr, cyhyd â bod lefelau'r cyrsiau dŵr wedi cilio.

Lle y rhagwelir perygl llifogydd i eiddo, efallai y bydd yr awdurdod yn defnyddio bagiau tywod lle gallant fod yn effeithiol ar sail argyfwng dros dro yn ystod llifogydd i ailgyfeirio dŵr bas yn bennaf mewn cysylltiad â'i asedau priffyrdd a seilwaith ei hun. Anogir perchnogion eiddo i gymryd camau ymarferol i ddiogelu eu heiddo, a cheir rhagor o fanylion ym Mholisi bagiau tywod diweddaraf Sir Gaerfyrddin.

Lle bo'n briodol, bydd bagiau tywod yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau strategol ar draws y Sir yn union cyn digwyddiad storm. Bydd datganiadau yn cael eu cyhoeddi gan ein Swyddfa'r Wasg pan fydd hyn yn digwydd.

Ni ddylid dibynnu'n llwyr ar y Cyngor i ddarparu cymorth yn ystod llifogydd. Fodd bynnag, bydd achlysuron lle mae llifogydd yn annisgwyl, neu'n effeithio ar ardaloedd newydd, a bydd y Cyngor yn helpu cyn belled ag y mae ei adnoddau'n caniatáu.

Mewn ardaloedd mwy gwledig, mae draeniad y briffordd yn cynnwys ffosydd draenio ar hyd y ffyrdd. Fel arfer y tirfeddiannwr cyfagos sydd â chyfrifoldeb dros ffosydd wrth ymyl y ffordd a dylid eu harchwilio a'u cynnal yn rheolaidd gan y tirfeddiannwr. Fel arfer, bydd gan yr Awdurdod Priffyrdd yr hawl i ollwng dŵr wyneb i ffos wrth ymyl y ffordd neu'r cwrs dŵr. Lle bo angen, gall yr Awdurdod Priffyrdd ei gwneud yn ofynnol i'r tirfeddiannwr cyfagos wneud gwaith cynnal a chadw ar ffos i atal niwsans rhag cael ei achosi ar y briffordd (Tirfeddianwyr Cyfagos a'r Briffordd Gyhoeddus llyw.cymru).


Gwyntoedd Cryfion

Gall gwyntoedd cryfion achosi aflonyddwch ar y rhwydwaith priffyrdd. Yn aml, mae hyn oherwydd coed, neu ganghennau coed, naill ai o ymyl y briffordd neu o dir cyfagos, yn cael eu chwythu i lawr a syrthio ar y briffordd.

Mae coed wrth ymyl priffyrdd wedi'u cynnwys o fewn y drefn arolygu diogelwch priffyrdd rhestredig ac mae coed heintiedig neu ansefydlog yn cael eu nodi a gwneir gwaith adfer i gael gwared ar y risg i'r cyhoedd sy'n teithio. Dylai tirfeddianwyr cyfagos hefyd weithredu trefn arolygu reolaidd i sicrhau nad yw eu coed yn peri risg i'r cyhoedd sy'n teithio.

Pan fo'r Awdurdod yn nodi coed ar dir cyfagos sy'n ymddangos yn risg i'r briffordd bydd yn ofynnol i'r tirfeddiannwr cyfagos gymryd camau priodol. Nid yw hyn yn rhyddhau'r tirfeddiannwr o'i ddyletswydd i archwilio a chynnal coed ar eu tir eu hunain, gan gynnwys coed ffin sy'n gyfrifoldeb ar dirfeddianwyr.

Os bydd coed yn cwympo o dir cyfagos i'r briffordd, efallai y bydd yn ofynnol i'r Awdurdod waredu'r rhwystr a bydd yn adennill costau gan y tirfeddiannwr.

Pan ragwelir gwyntoedd cryfion, caiff y gweithrediad Priffyrdd ei gynyddu i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i reoli'r digwyddiad cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol fel y bo'n briodol:

  • Gangiau llif gadwyn ychwanegol wrth law.
  • Is-gontractwyr coed arbenigol ar gael i gynorthwyo gyda gwaith clirio.
    Offer ychwanegol i gael gwared ar goed sydd wedi cwympo o'r briffordd.
  • Bydd mesurau rheoli traffig ychwanegol ar gael pe bai angen cau ffyrdd a rhoi dargyfeiriadau ar waith.
  • Sicrhau bod unrhyw safleoedd adeiladu priffyrdd yn cael eu diogelu'n iawn.

Gwres Eithafol

Mae effaith gwres eithafol ar yr ased priffyrdd yn bryder cymharol newydd ond cynyddol. Ym mis Gorffennaf 2022 adroddodd y Swyddfa Dywydd fod tymereddau dros 40⁰C wedi'u cofnodi am y tro cyntaf yn y DU wrth i thermomedrau yn Swydd Lincoln gyrraedd 40.3⁰C ac roedd 46 o orsafoedd tywydd ledled y DU yn uwch na record flaenorol y DU o 38.7⁰C. Arweiniodd hyn at y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi ei Rhybudd Coch cyntaf erioed am wres eithafol.

Mae'n nodedig hefyd, o'r 30 diwrnod poethaf yn y DU yn ôl cyfartaleddau ardal, fod 14 wedi digwydd yn ystod y ganrif hon ac mae'r Swyddfa Dywydd yn cynghori bod newid yn yr hinsawdd yn golygu bod gwres mawr eithafol yn y DU yn digwydd yn amlach, yn ddwysach ac am gyfnod hirach. Gall digwyddiadau gwres eithafol gael effaith andwyol ar arwynebau ffyrdd gan fod yr asffalt tywyll yn amsugno gwres drwy'r dydd ac er y gall tymheredd yr aer fod yn uwch na 20°C, gall tymheredd arwyneb y ffordd fod yn uwch na 50°C.

Gall tymereddau uchel yn wyneb yr asffalt achosi iddo ymddwyn mewn modd fisgo-elastig, anffurfiadau thermol a newid stiffrwydd yr wyneb. Gall yr effeithiau hyn hefyd achosi i lwythi traffig gael effaith niweidiol ar yr wyneb, megis drwy achosi rhigolau ar yr wyneb ac, yn ogystal ag achosi cracio o fewn yr wyneb, lleihau'r gallu i atal sgidio sy'n cael effaith uniongyrchol ar bellteroedd stopio cerbydau ac felly diogelwch ffyrdd.

Yn ystod digwyddiadau gwres eithafol mae arwynebau priffyrdd yn cael eu monitro, ac mewn ardaloedd lle mae arwynebau'n mynd yn feddal neu'n ymddangos i fod yn 'frasterog' neu'n 'llathredig' gellir cymryd mesurau adferol. Gellir lledaenu llwch cerrig neu dywod bras ar y safleoedd a nodir a allai gael ei wneud drwy'r fflyd o gerbydau graeanu. Mae'r defnydd o agregau bach yn helpu i adfer gallu'r wyneb i atal sgidio ac yn ei ddiogelu rhag golau haul uniongyrchol wrth i’r agregau setlo a chael eu dal o fewn yr wyneb.

Gall cyfnodau hir o dymheredd uchel hefyd gael effaith ar yr isbriddoedd sylfaenol sy'n achosi i ddeunyddiau grebachu a chracio wrth iddynt 'sychu allan’. Wedyn gall y craciau hyn gael eu hadlewyrchu drwy'r palmant i wyneb y ffordd. Bydd difrod o'r math hwn yn gofyn am ymyrraeth fwy ymledol i'w atgyweirio.


Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf

Nod y Cyngor Sir yw darparu Gwasanaeth Cynnal a Chadw dros y Gaeaf a fydd, i'r graddau y mae hynny'n bosibl, yn caniatáu i draffig cerbydau deithio'n ddiogel ar hyd rhannau strategol bwysig o'r rhwydwaith priffyrdd gan sicrhau y ceir cyn lleied â phosibl o oedi a damweiniau oherwydd tywydd garw.

Sir Gaerfyrddin sydd â'r rhwydwaith priffyrdd ail fwyaf yng Nghymru a phan ragwelir tywydd gaeafol, mae'n hanfodol ein bod yn rhagwasgaru halen ar ein prif rwydwaith cyn tymereddau rhewllyd.

Ein dyletswydd (Deddf Priffyrdd 1980 A41 1A)) yw:

'...sicrhau, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, nad yw eira neu iâ yn peryglu teithio diogel ar hyd y priffyrdd.'

Mae'r ymadrodd 'rhesymol ymarferol' yn amod pwysig sy'n cydnabod nad yw'r ddyletswydd yn absoliwt, na all Awdurdodau Priffyrdd drin rhwydwaith ffyrdd cyfan pan ragwelir tywydd garw, ac y bydd angen i Awdurdodau Priffyrdd fabwysiadu dull cytbwys o ran rhesymoldeb ac ymarferoldeb yn unol â'r adnoddau sydd ar gael.

Caiff yr holl swyddogaethau gweithredol sy'n digwydd ar briffyrdd Sir Gaerfyrddin eu gwneud yn bennaf gan y Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, sy’n rhan o'r Adran Lle a Seilwaith y Cyngor Sir. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru sef yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer Cefnffyrdd yn Sir Gaerfyrddin. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau cyfagos gyda threfniadau trawsffiniol cilyddol ar waith ar nifer fach o ffyrdd i sicrhau gwasanaeth cyson i'r cyhoedd sy'n teithio.

Cofnodir y cyfrifoldebau trefniadol a'r gweithdrefnau gweithrediadol yng Nghynllun Ansawdd Gwasanaeth Cynnal a Chadw Dros y Gaeaf yr Adran, sy'n cydymffurfio â safon ISO 9001.

Mae dull y Cyngor Sir tuag at Wasanaeth dros y Gaeaf yn cydnabod argymhellion a gynhwysir yn y Côd Ymarfer Cenedlaethol (Seilwaith Priffyrdd a Reolir yn Dda) a'r canllawiau manwl a ddarperir gan Grŵp Ymchwil y Gwasanaeth Cynnal a Chadw Dros y Gaeaf 'Canllaw Ymarfer i Wasanaeth dros y Gaeaf'.

Un o'r risgiau allweddol i ddefnyddwyr y ffordd yn ystod y gaeaf yw iâ sy'n ffurfio ar wyneb y ffordd. Bydd dŵr yn rhewi i ffurfio rhew ar 0°C ond mae presenoldeb halen ffordd yn yr hydoddiant yn gostwng y pwynt rhewi i atal rhew rhag ffurfio. Pan fydd y tymheredd yn cwympo'n is na -7℃, mae'r halen yn llai effeithiol.

Mae elfen allweddol o'r Gwasanaeth dros y Gaeaf yn seiliedig ar ledaenu halen yn effeithlon ar wyneb y ffordd cyn tymereddau rhewllyd. Mae hyn yn cael ei wneud gan fflyd o gerbydau graeanu sydd wedi'u lleoli mewn mannau strategol ledled y sir. Gellir lledaenu tua 140 tunnell o halen ar y Prif Rwydwaith mewn un driniaeth. Mae'r Cyngor Sir yn ymwybodol o'i rwymedigaethau cynaliadwyedd, cyfrifoldebau ariannol a'i ddyletswyddau diogelwch a'i nod yw sicrhau bod triniaethau graeanu yn effeithlon, yn effeithiol ac yn angenrheidiol mewn perthynas â'r amodau tywydd a ragwelir.

Mae dyfais tracio system leoli fyd-eang (GPS) ym mhob cerbyd er mwyn gallu monitro'i leoliad ar y llwybr graeanu a monitro pa ffyrdd sydd wedi cael eu trin. Mae dyfeisiau llywio llwybr graeanu wedi'u gosod ar gerbydau i wella gwybodaeth gyrwyr a llwybro. Fel arfer, caiff triniaethau rhagofalus eu cwblhau mewn llai na 3 awr ar gyfer pob llwybr ac o leiaf 1 awr cyn i'r peryglon ffyrdd a ragwelir ffurfio.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod ffyrdd y Prif Rwydwaith yn cael eu trin os rhagwelir y bydd iâ ac eira. Mae'r driniaeth hon yn darparu haen sy'n dad-fondio er mwyn sicrhau nad yw iâ ac eira yn glynu wrth wyneb y ffordd ac yn helpu i sicrhau bod y gwaith o glirio'r eira yn fwy effeithiol. Mae gan bob cerbyd graeanu aradr eira pe bai angen clirio eira, a bydd ein gweithrediadau'n blaenoriaethu'r llwybrau priffyrdd allweddol.

Mae rhagor o fanylion ar dudalen we y Cyngor a fydd yn cael ei ddiweddaru ar ddechrau pob tymor gaeaf.


Rheoli Gwasanaethau dros y Gaeaf

Cyfrifoldeb y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol yw cyfeiriad cyffredinol y Gweithrediadau Gwasanaethau Dros y Gaeaf, a dirprwyir y dyletswyddau i swyddogion awdurdodedig.

 

Teitl y Swydd Rôl Rheoli Ddirprwyedig
Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth Cyfrifoldeb Cyffredinol am Wasanaethau dros y Gaeaf
Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd Gweithrediadau Gwasanaeth dros y Gaeaf
Rheolwr Asedau Priffyrdd Cynllunio a Rheoli Systemau
Swyddogion ar Ddyletswydd - Priffyrdd (x9 - Rota) Monitro a gwneud penderfyniadau dyddiol ynghylch camau gweithredol dros y gaeaf
Goruchwylwyr Gwasanaeth dros y Gaeaf (x18 - Rota) Goruchwylio gweithrediadau graeanu

Mae'r Cyngor Sir hefyd yn darparu gwasanaeth i Lywodraeth Cymru wrth drin Cefnffyrdd dethol. Bydd manylion y gwaith graeanu ar ran yr Asiantaeth Cefnffyrdd yn cael eu dosbarthu drwy e-bost i'r Swyddogion sirol ar Ddyletswydd bob dydd. Mae'r Swyddogion ar Ddyletswydd fel arfer yn rhoi manylion y camau graeanu ar gyfer cefnffyrdd a ffyrdd y sir ar 'Fwrdd Penderfyniadau' y system reoli cyn 14.00 bob dydd. Llunnir cofnod o'r camau gweithredu dyddiol ac fe'i hanfonir drwy e-bost at sefydliadau allweddol gan gynnwys y Gwasanaethau Brys, awdurdodau cyfagos a Llywodraeth Cymru. Bydd staff yn yr ystafell reoli yn monitro'r camau gweithredu a gofnodir yn ddyddiol er mwyn sicrhau bod y partïon priodol wedi cael y wybodaeth.

Dyma'r lefelau gweithredu ar gyfer gwasanaeth dros y gaeaf:

 

Lefel Disgrifiad o'r cam gweithredu
0 Dim camau gweithredu - Gyrrwr wedi'u rhyddhau.
1 Adolygiad i ddod - Gyrwyr ar rota ac yn aros am gyfarwyddiadau pellach - bydd rhagolygon y tywydd yn cael eu monitro gan Swyddog ar Ddyletswydd - mae'n bosibl y bydd angen ymgymryd â gwaith graeanu.
2 Patrôl - bydd gyrwyr yn mynd â'u lorïau graeanu allan i roi halen ar ffyrdd penodol yn ôl yr amodau e.e. lle mae iâ ar y ffordd.
3 Bydd gyrwyr yn mynd â'u lorïau graeanu allan i ragwasgaru swm penodedig o halen ar y ffyrdd rhestredig ar eu hyd, fel rheol cyn i'r iâ a ragwelir ddechrau ffurfio.
4 Rhagwasgaru gydag aradr - Gwasgaru halen ar y ffyrdd i ddygymod ag eira, a chyfuno hynny â'r aradr eira os oes angen.

Yn achos digwyddiad tywydd garw mawr, mae'n bosibl y bydd protocolau Cynlluniau Argyfwng Cynghorau Sir yn cael eu gweithredu.


Ymateb y gwasanaeth

Mae'r Gwasanaeth Cynnal a Chadw Dros y Gaeaf yn dibynnu ar wasgaru halen yn effeithlon ac yn effeithiol o gerbydau pwrpasol. Mae halen neu raean neu gyfuniad o'r ddau yn lleihau effeithiau iâ ac eira cywasgedig.

O 1 Hydref hyd at 30 Ebrill bob blwyddyn, mae'r Cyngor Sir yn tanysgrifio i wasanaeth rhagolygon tywydd arbenigol ar y ffyrdd. Yn gyffredinol mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei gaffael drwy gontract fframwaith Cymru gyfan ac mae'n darparu gwasanaeth rhagweld y tywydd sy'n cwmpasu awdurdodau cyfagos megis Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'r gwasanaeth ar ffurf rhagolwg treigl 36 awr a drosglwyddir fel arfer bob dydd am hanner dydd, wedi'i ategu gan ddiweddariadau bore a chyda'r nos a rhagolwg treigl o 2-10 diwrnod sy'n cael ei ddiweddaru bob dydd. Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu cyfleusterau ymgynghori â rhagolygwr y tu allan i oriau swyddfa.

Darperir rhagolygon ar gyfer llwybrau unigol sy'n caniatáu i Swyddogion ar Ddyletswydd gael mynediad at ragolygon cyfredol ar sail llwybrau a gwybodaeth fanwl am dywydd drwy system reoli ar y we.

Gyda'r hwyr ac yn ystod y penwythnosau, bydd y rhagolygwr yn cysylltu'n uniongyrchol â'r Swyddog ar Ddyletswydd pan fydd angen rhoi gwybod am unrhyw newidiadau o ran y tywydd neu amodau garw. Gall y Swyddog ar Ddyletswydd gysylltu â'r rhagolygwyr tywydd ar unrhyw adeg i drafod amodau'r tywydd yn ychwanegol i'r wybodaeth sydd ar gael drwy'r system reoli ar y we.

Gellir rhannu'r gwasanaeth cynnal a chadw dros y gaeaf yn dri chyfnod penodol, sef: -

CYFNOD YMYLOL – Ni ddisgwylir tywydd mawr Diwedd Medi ac ail hanner Ebrill
CYFNOD ISEL – Tywydd mawr yn bosibl Hanner cyntaf mis Hydref a hanner cyntaf Ebrill
CYFNOD UCHEL - Gellir yn rhesymol ddisgwyl tywydd mawr Canol Hydref tan ddiwedd Mawrth

 

Enwebir Swyddog ar Ddyletswydd wrth gefn bob dydd drwy gydol y 'Cyfnod Uchel' (canol Hydref tan ddiwedd Mawrth)ac mae'n gyfrifol am benderfynu bob dydd ar y camau sy'n briodol yn ôl rhagolygon a'r amodau ar ffyrdd y sir. Y tu allan i oriau'r swyddfa gellir cysylltu â'r Swyddog ar Ddyletswydd drwy ffonio llinell argyfwng arbennig drwy system awtomatig sy'n trosglwyddo galwadau.

Mae'n ofynnol i Swyddogion ar Ddyletswydd adolygu'r rhagolygon tywydd a phenderfynu ar y camau priodol i'w cymryd gan gyfeirio at y tywydd a'r amodau ffyrdd cyffredinol. Croesgyfeirir y penderfyniadau triniaeth wrth i ragolygon wedi'u diweddaru ddod i law. Dewisir y driniaeth angenrheidiol ar lwybr penodol yn unol â'r peryglon ffyrdd a ragwelir ac yn unol â'r canllawiau cyfradd lledaenu a gyhoeddir gan Grŵp Ymchwil y Gwasanaethau Cynnal a Chadw Dros y Gaeaf.

Bydd swyddogion ar ddyletswydd hefyd yn cael eu llywio yn eu rheolaeth weithredol a'u penderfyniadau gan ddata a ddarperir gan y gorsafoedd tywydd sydd wedi'u lleoli yn y Sir a gallant ystyried lefelau halen presennol ar wyneb y ffordd (yn dilyn cyfnodau o raeanu dro ar ôl tro). Mae'r wybodaeth o'r gorsafoedd tywydd yn cael ei holi gan y Swyddog ar Ddyletswydd drwy wasanaeth gwe-fiwro. Mae'r gorsafoedd tywydd hefyd yn cynnwys camerâu i ddarparu delweddau byw o amodau ffyrdd a'r tywydd.

Bydd y Swyddog ar Ddyletswydd yn ymwybodol o'r ddyletswydd i reoli risg tra hefyd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Bydd Swyddogion ar Ddyletswydd hefyd yn ymwybodol y gallai gorddefnyddio halen gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.

Mae'r Cyngor Sir yn gweithio'n agos gydag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru a Phartneriaeth Ardal y Gorllewin i drin y Cefnffyrdd yn Sir Gaerfyrddin. Asiant Cefnffyrdd De Cymru sy'n gyfrifol am ragweld a gwneud penderfyniadau ynghylch trin y Cefnffyrdd ac mae'r tîm Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn gweithredu'r driniaeth yn unol â'r amserlen a bennwyd. Caiff hyn ei wneud drwy ddefnyddio cyfuniad o gerbydau graeanu Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Sir gan weithredu o ddepos yng Nghaerfyrddin, Cross Hands, Pont Abraham a Llanymddyfri a Graeanwyr Cyngor Sir Penfro fel rhan o Bartneriaeth Rhanbarth y Gorllewin.


Hyfforddiant

Mae ein swyddogion Dyletswydd y Gaeaf yn brofiadol o ran darparu gwasanaeth y gaeaf ac maent yn destun hyfforddiant ac adolygiad rheolaidd. Mae'r holl Swyddogion ar Ddyletswydd yn cael hyfforddiant cychwynnol gyda'n rhagolygwyr tywydd arbenigol i sicrhau dealltwriaeth gadarn o dywydd y gaeaf, peryglon ffyrdd a'r defnydd o driniaethau rhagofalus cyn adeiladu ar eu gwybodaeth drwy gyfnod o gysgodi Swyddogion ar Ddyletswydd profiadol. Mae hyfforddiant gloywi yn cael ei gynnal bob 3 blynedd ar gyfer pob Swyddog ar Ddyletswydd.

Mae gan Swyddogion ar Ddyletswydd fynediad at ystod eang o adnoddau ar-lein ac maent yn cael arweiniad ar y prif fathau o faterion y gellir dod ar eu traws y tu allan i'r oriau arferol. Darperir a dogfen ganllaw fanwl i Swyddogion ar Ddyletswydd sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae'r ddogfen yn cynnwys canllawiau gweithredol cyfredol gan gynnwys cyngor ar gyfraddau lledaenu halen priodol fel yr argymhellwyd gan Grŵp Ymchwil y Gwasanaethau Cynnal a Chadw Dros y Gaeaf.

Mae'r holl yrwyr graeanu'n cael eu hyfforddi i ennill cymhwyster City and Guilds mewn Gweithrediadau Gwasanaeth dros y Gaeaf.


Llwybrau triniaeth gwasanaeth dros y gaeaf

Yn debyg i ddull y Cyngor Sir o ymdrin â digwyddiadau tywydd garw eraill, rheolir yr ymateb i dywydd y gaeaf yn gyfrannol mewn ymateb i ddifrifoldeb yr amodau tywydd disgwyliedig, neu'r tywydd sy'n cael ei brofi, a'r risgiau a gyflwynir.

Mae ein dull o ddewis llwybrau triniaeth yn unol â'r Côd Ymarfer Cenedlaethol ac mae'n seiliedig ar ddull sy'n seiliedig ar risg fel y nodir yn Rhan 4.1 a 4.2 o'r Llawlyfr hwn. Mae'r dull hwn yn defnyddio'r Hierarchaeth Rhwydwaith Priffyrdd mabwysiedig i lywio pob agwedd ar reoli a chynnal a chadw priffyrdd a sicrhau bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu cyfeirio tuag at ardaloedd lle mae eu hangen fwyaf i leihau'r risg i'r cyhoedd sy'n teithio.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu'r rhwydweithiau triniaeth canlynol:

Y Prif Rwydwaith Rhwydwaith o lwybrau strategol bwysig. Bydd y llwybrau hyn fel arfer yn cael eu trin cyn tymereddau rhewllyd a ragwelir a byddant yn ganolbwynt allweddol yn ystod tywydd garw.
Y Rhwydwaith Eilaidd Rhwydwaith atodol o lwybrau eilaidd sy'n cefnogi'r Prif Rwydwaith. Dim ond yn ystod tywydd gaeafol sy'n ddifrifol neu sy'n para am gyfnod hir y bydd y llwybrau hyn yn cael eu trin, os bydd adnoddau'n caniatáu, ar ôl i'r Prif Rwydwaith gael ei drin.
Rhwydwaith Cydnerthedd Rhwydwaith strategol 'craidd' llai. Bydd gweithrediadau'r Gwasanaeth dros y Gaeaf yn cael eu lleihau i ganolbwyntio ar drin y Rhwydwaith Cydnerthedd os yw adnoddau neu amodau tywydd yn golygu nad yw triniaeth barhaus y Prif Rwydwaith yn gynaliadwy.

Sylwer: Mae'r llwybrau uchod yn cael eu trin yn ychwanegol at gefnffyrdd a thraffyrdd.

Y Prif Rwydwaith

Mae Prif Rwydwaith Sir Gaerfyrddin ar gyfer gwasanaeth dros y gaeaf yn deillio o hierarchaeth y rhwydwaith ffyrdd, gan flaenoriaethu'r llwybrau prysuraf a mwyaf critigol. Mae hyn yn cynnwys llwybrau CHSR, CH1 a CH2 a, lle bo angen, caiff ei ymestyn i gynnwys cyfleusterau hanfodol fel y dangosir isod:

Hierarchaeth ffyrdd Disgrifydd Math o ffordd Disgrifiad (amcangyfrif o'r lefel traffig dyddiol)
CHSR Llwybr strategol Cefnffyrdd a rhai Priffyrdd dosbarth ‘A’ rhwng Prif Gyrchfannau Llwybrau sy'n galluogi teithio rhwng lleoliadau o arwyddocâd rhanbarthol (Nodir llwybrau strategol yn seiliedig ar eu pwysigrwydd yn rhanbarthol yn hytrach na lefel y traffig).
CH1 Prif ddosbarthwr Rhwydwaith Trefol Mawr a Chysylltiadau Rhyng-gynradd. Traffig pellter byr - canolig Teithio rhwng lleoliadau (lefel traffig 10,000 - 20,000)
CH2 Dosbarthwr Eilaidd Ffyrdd dosbarthiadau B ac C a rhai llwybrau trefol di-ddosbarth sy’n cludo bysiau, cerbydau nwyddau trwm a thraffig lleol â mynediad ffryntiad a chyffyrdd rheolaidd Teithio rhwng lleoliadau (5,000 - 10,000)
Cyfleusterau critigol • Ysbytai a Gorsafoedd Ambiwlans
• Gorsafoedd Tân
• Prif Orsafoedd Heddlu
• Llwybrau Trafnidiaeth Gyhoeddus Allweddol
• Y Prif Golegau ac Ysgolion
• Gorsafoedd Trên a Chyfnewidfeydd Bws
• Porthladdoedd Fferïau (Cefnffyrdd)

 

Y Rhwydwaith Eilaidd

Bydd gan Dîm Priffyrdd y Cyngor Sir brif ffocws yn ystod tywydd garw ar Brif Rwydwaith y Sir. Yn dilyn triniaeth foddhaol o'r Prif Rwydwaith, yn unol ag amodau'r tywydd a'r adnoddau sydd ar gael, bydd y Rhwydwaith Eilaidd yn cael ei drin a fydd yn cynnwys rhai llwybrau bysiau, llwybrau i bentrefi llai, anheddau a rhiwiau serth.

Yn ogystal â'r rhwydwaith priffyrdd, efallai y byddwn yn trin lleoliadau allweddol eraill gan gynnwys prif feysydd parcio. Bydd triniaeth yn cael ei chynnal yn unol â'r adnoddau ac mewn ymateb i flaenoriaethau lleol ac amodau sy'n dod i'r amlwg. Rhoddir blaenoriaeth gyntaf bob amser i gadw cefnffyrdd a'r Prif Rwydwaith yn glir. Mae llwybrau eilaidd i raddau helaeth yn cynnwys lefel hierarchaeth CH3 a llawer o lwybrau CH4. Gall ffyrdd eraill gael eu trin yn unol â'r adnoddau sydd ar gael.

Rhwydwaith Cydnerthedd

Diffinnir y rhwydwaith cydnerthedd fel rhwydwaith strategol llai a fydd yn cael ei drin os nad yw adnoddau neu amodau tywydd yn caniatáu parhau i drin y Prif Rwydwaith cyfan. Gall adnoddau cyfyngedig gynnwys tanwydd, halen/graean, cerbydau neu bersonél. Rhoddir blaenoriaeth i gynnal triniaeth o'r rhwydwaith cefnffyrdd ar ran Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru.

Ar gyfarwyddiadau'r Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith, mewn amgylchiadau eithafol efallai y bydd angen lleihau darpariaeth gwasanaeth a pheidio â pharhau â rhai agweddau ar y gwasanaeth. Mae'n bosibl y bydd hyn yn berthnasol yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw lle mae halen yn prinhau ac mae'r rhagolwg yn rhagweld cyfnodau pellach o dywydd oer, neu ffactorau eraill sy'n amharu ar ddarpariaeth gwasanaeth.


Digwyddiadau Eira


Yn ystod eira difrifol sy'n para am gyfnod hir, caiff gweithrediadau priffyrdd arferol eu hatal yn gyffredinol i ddargyfeirio adnoddau ychwanegol i glirio ffyrdd. Rhoddir blaenoriaeth bob amser i gefnffyrdd a phrif lwybrau a chyda ffocws ar gyfleusterau strategol a chanolfannau poblogaeth. Mae cadw mynediad i ganolfannau Argyfwng, meddygol a lles yn flaenoriaeth. Gellir trin llwybrau eilaidd lle mae adnoddau'n caniatáu, yn enwedig yn ystod digwyddiadau eira sy'n para am gyfnod hir. Gellir defnyddio adnoddau ychwanegol i gynorthwyo'r timau priffyrdd yn ystod amodau difrifol ar gyfarwyddyd Cyfarwyddwr yr Adran neu'r Prif Swyddogion. Gall adnoddau gynnwys:

  • Adleoli staff o wasanaethau eraill gan gynnwys y Gwasanaethau Gwastraff, Cynnal a Chadw Tiroedd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
  • Contractwyr Fframwaith – Gweithredwyr a chymorth offer

Llwybrau Troed / Llwybrau Beicio

Mae ein gwasanaeth cynnal a chadw dros y gaeaf yn canolbwyntio'n bennaf ar sicrhau tramwyfa ddiogel ar hyd y priffyrdd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, a hynny gyda'r adnoddau sydd ar gael inni. Pan fydd tywydd gaeafol mae ein hadnoddau fel rheol yn cael eu cyfeirio'n llwyr at drin a chlirio'r rhwydwaith priffyrdd ac mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol y gallwn drin llwybrau troed hefyd. Yn unol ag amodau'r tywydd a'r adnoddau sydd ar gael, byddwn yn ystyried trin llwybrau troed / llwybrau beicio mewn lleoliadau o flaenoriaeth uchel.


Meysydd Parcio

Nid oes unrhyw ofyniad statudol i raeanu meysydd parcio ac mae yna lawer o awdurdodau lleol yng Nghymru nad ydynt yn graeanu meysydd parcio o gwbl neu sydd wedi penderfynu peidio â gwneud hynny o hyn ymlaen. Yn gyffredinol, mae traffig mewn meysydd parcio yn teithio ar gyflymder is o gymharu â thraffig ar y prif lwybrau ac mae adnoddau cyfyngedig yn cyfyngu ar ein gallu i ddarparu triniaeth ragofalus. Yn unol ag amodau'r tywydd a'r adnoddau sydd ar gael, efallai y byddwn yn trin meysydd parcio fel rhan o'r llwybrau eilaidd.


Biniau graean

Ar draws y sir mae gennym oddeutu 1,100 o finiau graean wedi'u lleoli mewn mannau problemus hysbys fel rhiwiau serth a throeon sy'n dueddol o brofi amodau rhewllyd ac nad ydynt fel arfer yn cael eu trin fel rhan o'r prif lwybrau. Mae cyfyngiad ar adnoddau ac ar hyn o bryd ni allwn ddarparu biniau graean ychwanegol ar gais. Rydym yn gweithio gyda chynghorau tref a chymuned a chymdeithasau preswylwyr i adolygu lleoliadau biniau graean. Rydym yn archwilio ac yn llenwi pob un o'n biniau graean yn yr hydref. Os bydd eira, bydd y biniau ond yn cael eu hail-lenwi pan fydd y staff a'r offer ar gael i wneud y gwaith.

Cynghorir preswylwyr y dylid defnyddio cyn lleied â phosibl ar yr halen, oherwydd nid yw'n rhoi mwy o afael ond caiff ei ddarparu er mwyn atal rhew rhag ffurfio ac i helpu'r eira i feirioli. Darperir yr halen i'w ddefnyddio ar ffyrdd a phalmentydd cyhoeddus yn unig, ac ni ddylid ei gario a'i ddefnyddio yn unman arall. Nid ydym yn ail-lenwi biniau graean ar gais.

 


Croesfannau rheilffordd

Ar gais Network Rail, mae ein graeanwyr yn cael cyfarwyddyd i atal defnyddio halen 12m bob ochr i unrhyw groesfan reilffordd.

At ddibenion rheilffyrdd, rhaid peidio defnyddio halen i glirio arwynebau croesfannau rheilffyrdd oherwydd y risg o fethiannau cylched trac ochr anghywir.


Adnoddau Gwasanaeth dros y Gaeaf

Offer a Cherbydau

Mae gan yr awdurdod ei fflyd ei hun o gerbydau arbenigol ac offer lledaenu halen. Mae cerbydau yn barod bob gaeaf i ledaenu halen yn gyflym ar y briffordd pan fo angen. Mae'r fflyd yn cael ei rheoli a'i chynnal ac mae cerbydau newydd yn cael eu prynu yn lle'r hen rai pan fydd arian yn caniatáu, gan fuddsoddi mewn offer o'r radd flaenaf i sicrhau bod halen ffordd yn cael ei ledaenu'n gywir ac yn effeithlon.

Fel arfer, mae'r fflyd yn cynnwys tua 19 cerbyd, gall y rhain fod yn gerbydau graeanu gyda darnau cyfnewid neu'n gerbydau graeanu undarn. Yn ogystal, mae gan yr awdurdod chwythwr eira wedi'i osod ar dractor y gellir ei ddefnyddio yn ystod amodau difrifol.

Personél gweithredol

Mae gan yr awdurdod gronfa sylweddol o adnoddau staff ar waith bob gaeaf i ddarparu gweithrediad 24 awr pan fo angen. Fel arfer, mae gennym oddeutu 78 o weithwyr wedi'u hyfforddi'n llawn ar ddechrau pob tymor gaeaf, ond gall y nifer hwn amrywio bob blwyddyn yn unol â'r lefelau gwasanaeth gofynnol.

Yn ogystal â gyrwyr graeanu, mae tîm rheoli fflyd yr awdurdodau ar waith i gefnogi'r is-adran priffyrdd wrth gynnal a chadw ei fflyd raeanu, gan ddarparu gwasanaethu a rhoi sylw i ddiffygion a cherbydau sy'n torri i lawr. Mae tua 8 peiriannydd wedi'i hyfforddi ar waith drwy gydol y tymor.

Cyflenwad Halen

Cyfarwyddir Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cymru i gadw isafswm stoc halen ar ddechrau tymor y gaeaf i sicrhau y gall pob awdurdod priffyrdd ddarparu ymateb cadarn i dywydd gaeafol hirdymor. Mae hyn yn cael ei gyfrifo trwy luosi’r defnydd cyfartalog dros 6 mlynedd ag 1.5. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw oddeutu 12,600 tunnell o halen ar ddechrau'r gaeaf, y mae'r rhan fwyaf ohono o dan do mewn ysguboriau halen. Ein nod wedyn yw ailgyflenwi lefel stoc i gynnal gallu a chydnerthedd gan gydgysylltu â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru.

Mae Sir Gaerfyrddin yn defnyddio halen graig 6mm a brynir drwy dendr fframwaith Cymru gyfan Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflenwad halen ac mae'n rhan o Gronfa Halen Cymru, sy'n penderfynu yn ôl blaenoriaeth faint o halen gaiff awdurdodau lleol pan fydd y tywydd yn arw.

Mae capasiti Storio Halen Ffyrdd y Sir fel a ganlyn:

Lleoliad y depo Math o storio - Mewn ysguboriau (tunelli) Math o storio - pentwr stoc wedi'i orchuddio (tunelli) Cyfanswm (tunelli)
Caerfyrddin 2,500 400 2,900
Cross Hands 5,700   5,700
Llanymddyfri 4,000   4,000
Cyfanswm 12,200 400 12,600