Cwestiynau Cyffredin Strydoedd Ysgol
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Yma fe welwch gwestiynau cyffredin ar y Cynllun Strydoedd Ysgol, gan gynnwys pryderon gorfodi, eithrio a pharcio.
Ydynt. Fel awdurdod priffyrdd lleol, gall Cyngor Sir Caerfyrddin weithredu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig i reoli traffig yn y sir. Mae'r rhain yn bwerau cyfreithiol a gallant fod yn arbrofol neu'n barhaol.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio camerâu Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig (ANPR) i fonitro symudiadau cerbydau o fewn cynlluniau Strydoedd Ysgol yn Ysgol Gynradd Porth Tywyn ac Ysgol Gynradd Maes y Morfa.
Bydd unrhyw un sy'n gyrru i'r parth Strydoedd Ysgol yn ystod yr amseroedd cyfyngedig, nad oes ganddo hawlen neu nad yw wedi'i heithrio rhag y cyfyngiad, yn mynd yn groes i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a gall fod yn destun hysbysiad tâl cosb.
Nid yw'r dull o orfodi i'w ddefnyddio ar safle ysgol Caeau Pen-y-gaer, pe bai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, wedi'i gadarnhau eto.
Bydd. Caniateir i staff yr ysgol fynd i mewn i'r cynlluniau Strydoedd Ysgol presennol sydd ar waith, fodd bynnag, rhaid rhoi caniatâd ymlaen llaw.
Os bydd y cynllun Strydoedd Ysgol arfaethedig ar safle Ysgol Caeau Pen-y-gaer yn cael ei gyflwyno (Heol Pen-y-gaer, Cae Cotton, Heol Goffa a Choedlan Bryndulais), bydd staff yr ysgol yn cael mynd i mewn i'r parth Strydoedd Ysgol.
Rydym am annog pawb i osgoi gyrru mewn parthau Strydoedd Ysgol yn ystod oriau'r cyfyngiad. Fodd bynnag, gall y gyrwyr canlynol wneud cais am eithriad i'r cyfyngiadau hyn ar gyfer eu cerbydau:
- Staff ysgol yr ysgol ddynodedig
- Preswylwyr ym y parth Strydoedd Ysgol
Os yw wedi'i eithrio, cyfrifoldeb perchennog y cerbyd yw gwneud cais am hawlen ddigidol drwy ein ffurflen gais. I gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio gweler 'Sut i wneud cais am eithriad'.
Bydd unrhyw gerbyd sy'n dod i mewn i'r parth yn ystod oriau gweithredu'r cynllun nad yw wedi cael eithriad (ac sydd wedi sicrhau hawlen ddigidol gyfredol) yn cael hysbysiad tâl cosb yn awtomatig).
Cydnabyddir y gall pwysau parcio weithiau gynyddu ar y strydoedd ger y parth Strydoedd Ysgol gan fod gyrwyr yn gallu chwilio am y lle arall agosaf i barcio.
Un o nodau craidd mentrau Strydoedd Ysgol yw hwyluso cerdded, olwynio, beicio a sgwtera i'r ysgol, a fydd, os yn llwyddiannus, yn helpu i leihau nifer y cerbydau sydd angen parcio ger ysgolion.
Mae'r Cyngor yn gwneud cais am gyllid i wneud gwelliannau i seilwaith teithio llesol allweddol ar ffyrdd sy'n agos at Strydoedd Ysgol. Gall hyn gynnwys uwchraddio llwybrau troed a chroesfannau i wella cysur a diogelwch cerddwyr a'r rhai sy'n olwynio.
I'r rhai nad oes ganddynt ddewis heblaw gyrru i'r ysgol, lle bo hynny'n bosibl, mae'r Cyngor yn gweithio i gyflwyno a diogelu lleoliadau 'Parcio a Chamu' gerllaw. Mae lleoliadau Parcio a Chamu yn safleoedd lleol lle awgrymir bod rhieni a gwarcheidwaid yn parcio ac yn cerdded gweddill y daith i'r ysgol. Mae'r safleoedd hyn fel arfer mewn meysydd parcio presennol oddi ar y stryd sy'n gysylltiedig â safleoedd masnachol neu gymunedol.
Dim ond rhwng dydd Llun a dydd Gwener y bydd cynlluniau Strydoedd Ysgol ar waith yn ystod y tymor ysgol ar yr amserau cyfyngu dynodedig yn y bore a'r prynhawn.
Y tu allan i'r tymor ysgol (ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol), ni fydd y cynllun Strydoedd Ysgol ar waith, sy'n golygu bod mynediad ar hyd y ffyrdd ar agor i bawb.
Mae Strydoedd Ysgol yn gorfodadwy ar ddiwrnodau o fewn amser tymor ysgol.
Priffyrdd, Teithio a Pharcio
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Tywydd Garw
Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Ymgeisio am...
Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd
Gwasanaethau bws
Bws Bach y Wlad
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Seilwaith Cerbydau Trydan
Graeanu
Mwy ynghylch Priffyrdd, Teithio a Pharcio