Tocyn teithio consesiwn
Diweddarwyd y dudalen ar: 18/09/2024
Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a'ch bod naill ai'n 60 oed a throsodd, neu'n bodloni meini prawf cymhwysedd anabledd y Llywodraeth, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf gwasanaethau bysiau yng Nghymru a'r gororau, a chael teithio am bris gostyngol neu am ddim ar lawer o wasanaethau trenau.
Os ydych chi wedi gwneud cais yn barod a hoffech olrhain eich cais, neu os oes gennych chi gerdyn a hoffech ddiweddaru eich manylion, dewiswch "My existing card or application" isod. Bydd gofyn i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol neu rif eich cerdyn, gyda'ch Dyddiad Geni a'ch Cod Post.
Os oes angen i chi gysylltu â Transport for Wales ynglŷn â'ch tocyn teithio, e-bostiwch travelcards@tfw.wales neu ffoniwch 0300 303 4240.