Diwrnod Sgiliau Beic Modur
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/08/2026
Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Sgiliau Beic Modur sydd wedi'i neilltuo i wella diogelwch beicwyr modur yn Sir Gaerfyrddin! Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys sesiynau rhagflas diddorol a chyfleoedd i ryngweithio â sefydliadau sy'n canolbwyntio ar wella eich sgiliau gyrru beic modur.
Cewch gyfle i ddysgu gan hyfforddwyr ar ôl pasio prawf o Dragon Rider Cymru, a grwp gyrru beiciau modur lleol o safon uwch, Sefydliad y Gyrwyr Safon Uwch (IAM).
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Un1t 7 (Llanelli).
Nod y Diwrnod Sgiliau Beic Modur yw cynnal digwyddiad diddorol, addysgiadol a phleserus sy'n meithrin diwylliant o ddiogelwch ymhlith beicwyr modur yn Sir Gaerfyrddin a'r ardaloedd cyfagos. Trwy cydweithio â sefydliadau ag enw da, rydym yn gobeithio darparu sgiliau a gwybodaeth werthfawr a fydd o fudd i bob un sy'n cymryd rhan.
Manylion y Digwyddiad:
Dyddiad: Dydd Sadwrn, 5 Medi
Amser: 10:00 AM – 2:00 PM
Cost: Am ddim (Mae archebu lle yn hanfodol gan mai nifer cyfyngedig o leoedd ar gael)
