Graeanu
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Bob blwyddyn rydym yn gwario tua £1 miliwn ar waith cynnal a chadw dros a gaeaf ar ffyrdd ein sir. Taenir halen pan cyn tywydd rhewllyd, a chaiff eira ei glirio yn ystod tywydd garw cyn belled ag y mae hynny'n bosibl. Y nod yw lleihau'r risg i yrwyr mewn tywydd sy'n gallu bod yn ofnadwy ar adegau. Caiff oddeutu 25% o ffyrdd Sir Gaerfyrddin (Ffyrdd Sirol a Chefnffyrdd) eu trin fel blaenoriaeth pan fydd angen gwneud hynny o achos y tywydd.
Mae gennym fflyd o 19 o lorïau graeanu, sydd â gyrwyr profiadol tu hwnt wrth y llyw, ac sy'n trin oddeutu 21% o'r 3,526 cilometr o ffyrdd y Sir pan fo angen. Mae gennym gyflenwad o oddeutu 12,600 tunnell o halen ac mae'r rhan fwyaf ohono'n cael ei storio dan do mewn ysguboriau halen mewn mannau strategol ar draws y sir.
Mae ein staff wrth gefn drwy'r dydd a'r nos, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, i ymateb pan fydd y tywydd a'r amgylchiadau ar y ffyrdd yn newid. Mae modd trin oddeutu 920 cilometr o ffyrdd ar draws Sir Gaerfyrddin o fewn pedair awr ar ôl cael rhybudd o dywydd gwael, gan ddefnyddio hyd at 120 tunnell bob tro.
O 1 Hydref hyd at 30 Ebrill bob blwyddyn, mae'r Cyngor Sir yn tanysgrifio i wasanaeth rhagolygon tywydd arbenigol ar y ffyrdd. Darperir rhagolygon ar gyfer llwybrau unigol sy'n caniatáu i Swyddogion ar Ddyletswydd gael mynediad at ragolygon cyfredol ar sail llwybrau a gwybodaeth fanwl am dywydd drwy system reoli ar y we.
Mae'r Cyngor Sir yn gweithio'n agos gydag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru a Phartneriaeth Ardal y Gorllewin i drin y Cefnffyrdd yn Sir Gaerfyrddin. Asiant Cefnffyrdd De Cymru sy'n gyfrifol am ragweld a gwneud penderfyniadau ynghylch trin y Cefnffyrdd ac mae'r tîm Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn gweithredu'r driniaeth yn unol â'r amserlen a bennwyd.
Rhoddir y brif flaenoriaeth i gefnffyrdd a phrif lwybrau: mae'r rhain yn cynnwys ffyrdd sy'n arwain at ysbytai, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd tân, gorsafoedd trên, llwybrau bysiau rheolaidd, llwybrau strategol o ran teithio i'r gwaith, ffyrdd ymuno, a llwybrau dosbarthu pwysig eraill.
Mewn tywydd eithafol, rhoddir yr ail flaenoriaeth i lwybrau eraill o ran teithio i'r gwaith, strydoedd siopa, mannau lle bu trafferthion yn y gorffennol (nad ydynt ar y llwybrau sy'n brif flaenoriaeth), a llwybrau bysiau eraill.
Ar hyn o bryd, mae gennym 1,100 o finiau graean ledled y sir. Nid ydym yn darparu biniau graean ychwanegol, ond rydym yn gweithio gyda chynghorau tref a chymuned a chymdeithasau preswylwyr i adolygu lleoliadau biniau graean. Rydym yn archwilio ac yn llenwi pob un o'n biniau graean yn yr hydref. Os bydd eira, bydd y biniau ond yn cael eu hail-lenwi pan fydd y staff a'r offer ar gael i wneud y gwaith.
Dylid defnyddio cyn lleied â phosibl ar yr halen, oherwydd nid yw'n rhoi mwy o afael ond caiff ei ddarparu er mwyn atal rhew rhag ffurfio ac i helpu'r eira i feirioli. Darperir yr halen i'w ddefnyddio ar ffyrdd a phalmentydd cyhoeddus yn unig, ac ni ddylid ei gario a'i ddefnyddio yn unman arall. Nid ydym yn ail-lenwi biniau graean ar gais.
Nid ydym yn rhoi halen ar lwybrau troed na phalmentydd fel mater o drefn. Mae'n rhaid inni roi blaenoriaeth i'r prif ffyrdd yn hytrach na phalmentydd er mwyn atal y damweiniau mwyaf difrifol. Byddwn yn gwasgaru halen ar balmentydd â llaw dim ond os bydd staff ac offer ar gael, a byddwn yn rhoi blaenoriaeth i balmentydd yn y prif fannau siopa ac ardaloedd prysur yn y trefi. Rydym yn annog preswylwyr a busnesau i helpu'u hunain drwy glirio rhew ac eira o fannau cyhoeddus ger eu heiddo nhw.
Nid oes unrhyw ofyniad statudol i raeanu meysydd parcio ac mae yna lawer o awdurdodau lleol yng Nghymru nad ydynt yn graeanu meysydd parcio o gwbl neu sydd wedi penderfynu peidio â gwneud hynny o hyn ymlaen. Mae'r adnoddau sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau wedi gostwng bob blwyddyn er 2008. O ystyried y cyfyngiadau adnoddau, bu'n rhaid i'r Cyngor Sir resymoli darpariaeth gwasanaeth ac o ganlyniad cytunwyd ar arbedion cyllidebol yn 2020/21 i newid ein llwybrau graeanu gaeaf i beidio â chynnwys Meysydd Parcio ac eithrio’r rhai sy'n cynnwys cyfleusterau meddygol.
Mae ein lorïau graeanu'n dilyn llwybr manwl, fel y gallant raeanu'r ffyrdd pwysicaf mewn ardal benodol. Wrth lunio'r llwybr manwl hwn rydym yn rhoi ystyriaeth i hyd y ffordd y gellir ei drin ar ôl llenwi'r lori â halen.
Er mwyn bod mor effeithlon â phosibl a lleihau faint o amser a gymer i raeanu'r ffyrdd, mae'n rhaid i'r lori graeanu groesi ar hyd rhai ffyrdd eraill er mwyn cyrraedd y ffyrdd pwysicaf i'w graeanu. Nid yw'n ymarferol graeanu'r ffyrdd hyn sy'n croesi gan na fyddai gan y lori graeanu ddigon o halen wedyn i drin y ffyrdd pwysicaf.
Mae'n bosibl bod y lori graeanu'n wag ac yn dychwelyd i'r depo ar ôl cwblhau ei daith raeanu.
Pan fydd lori graeanu'n defnyddio'i swch eira, ni fydd halen yn cael ei wasgaru bob tro.
Byddai'n amhosibl graeanu pob stryd yn y sir. Rhoddir blaenoriaeth i gefnffyrdd a'r prif lwybrau; mae'r rhain yn cynnwys ffyrdd sy'n arwain at ysbytai, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd tân, gorsafoedd trên, llwybrau bysiau pwysig, ffyrdd ymuno, a mannau y gwyddom eu bod yn drafferthus.
Mewn tywydd eithafol, rhoddir yr ail flaenoriaeth i strydoedd siopa, mannau lle bu trafferthion yn y gorffennol (nad ydynt ar y llwybrau sy'n brif flaenoriaeth), a llwybrau bysiau eraill.
Rydym yn siŵr fod trigolion y sir yn deall mai'r peth pwysicaf pan fydd pwysau ar gyflenwadau yw cadw'r prif ffyrdd yn glir er budd y gwasanaethau brys a'r gwasanaethau bysiau, sicrhau bod cyflenwadau bwyd a thanwydd yn dal i gyrraedd, a lleihau'r perygl y digwydd damweiniau.
Rydym hefyd yn ymateb i achosion brys a byddwn yn ymdrin â mân ffyrdd pan fydd y tywydd a'r cyflenwad halen yn caniatáu inni wneud hynny.
Compass Minerals, sy'n gwmni o Swydd Gaer, yw ein cyflenwr ni ynghyd â nifer mawr o'r awdurdodau lleol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill er mwyn cynnal y cyflenwadau.
Maent ar gael bob awr o'r dydd a'r nos, a hynny bob diwrnod. Y tywydd sy'n pennu pryd y mae'r timau graeanu'n mynd allan, gan gynnwys gweithio'n hwyr y nos ac yn gynnar yn y bore. Rydym yn graeanu oddeutu 920 cilometr yn ystod un sifft, sef 25 y cant o'r ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin (gan gynnwys Cefnffyrdd).
Ydyn. Mae ein Cynllun Tywydd Garw a Gwasanaeth Gaeaf yn gynllun sydd wedi'i hen sefydlu ac sy'n pennu'r blaenoriaethau a sut yr ymdrinnir â hwy. Ar ddechrau pob gaeaf, mae gennym stoc lawn o halen ac rydym yn ychwanegu at hynny pan fydd angen. Caiff y cynllun ei adolygu'n flynyddol.
Mae gennym gyflenwad o oddeutu 12,600 tunnell o halen ar ddechrau'r gaeaf, a chedwir y rhan fwyaf ohono o dan do mewn ysguboriau halen. Er bod hyn yn ymddangos yn llawer, gallwn ddefnyddio hyd at 1,000 o dunelli'r diwrnod wrth raeanu'n barhaus adeg rhew ac eira difrifol. Ni allwn byth ddweud bod gennym ddigon o halen oherwydd ni wyddom beth fydd yn digwydd yn ystod y gaeaf, ond rydym wedi paratoi'n dda iawn ac wedi cyflawni'r lefelau a argymhellir o ran ein gallu i wrthsefyll yr hyn a ddaw.
Mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o Gronfa Halen Cymru, sy'n penderfynu yn ôl yr angen faint o halen gaiff awdurdodau lleol pan fydd y tywydd yn arw.
Rydym yn derbyn rhagolygon y tywydd yn rheolaidd gan Metdesk UK a thaenir graean a halen os rhagwelir bod yr amgylchiadau ar y ffyrdd am fod yn wael. Hefyd rydym yn gallu cadw golwg ar y data a gesglir gan orsafoedd tywydd yn y maes sydd wedi eu gosod ar brif ffyrdd a chefnffyrdd yn rhanbarth De-orllewin Cymru.
Nodwch NAD yw halen yn cael ei daenu ar BOB ffordd yn y Sir. Os gwnaiff fwrw eira, cymerir camau ar draws y sir gyfan er mwyn ei glirio a hynny ar sail blaenoriaeth.