Cludiant Ysgol
Defnyddiwch y tudalennau canlynol i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am gludiant i'r Ysgol, ac i weld a yw eich plentyn yn gymwys.
I fod yn gymwys i gael cludiant am ddim rhaid i’r plentyn fodloni'r holl feini prawf canlynol:
- Bod yn 5 oed o leiaf
- Byw yn Sir Gaerfyrddin
- Mynychu'r ysgol agosaf neu ysgol y Dalgylch.
- Byw o leiaf 2 filltir o'r ysgol os ydyn nhw yn yr ysgol gynradd neu o leiaf 3 milltir o'r ysgol os ydyn nhw yn yr ysgol uwchradd (wedi'i fesur ar hyd y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael, fel y'i mesurir gan system fapio'r cyngor. Mae hyn yn cynnwys ysgolion mewn siroedd cyfagos os yw'n berthnasol)
Cofiwch mai'r Rhieni/Gwarcheidwaid, ac nid y Cyngor, sy'n gyfrifol am drefnu dull addas o gludo dysgwyr i'r ysgol os nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim.