Rhoi gwybod am ddodrefn stryd wedi difrodi / ar goll

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/02/2024

Mae Dodrefn Stryd yn cynnwys bolardiau, fel arfer y rhai sy'n cael eu gosod ar droedffyrdd i atal ceir rhag parcio a seddi / meinciau ar y droedffordd.

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw folardiau neu seddi:

  • wedi'u difrodi
  • ar goll

I roi gwybod am hyn, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
  • Lleoliad - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd
  • Math o ddodrefn - rhowch ddisgrifiad manwl o'r eitem a'r broblem
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

RHOI GWYBOD AM DDODREFN STRYD wedi DIFRODI / AR GOLL

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio