Rhoi gwybod am lystyfiant wedi gordyfu / chwyn niweidiol

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023

Mae gennym raglen ar waith ar gyfer torri'r ymylon ffyrdd yn ystod misoedd yr haf sydd wedi'i chynllunio i gynnal diogelwch ffyrdd, sicrhau gwelededd, darparu mannau i gerddwyr allu camu oddi ar y ffordd gerbydau os nad oes llwybrau troed ac i atal rhywogaethau dieisiau rhag ymsefydlu. Mae ein gwaith cynnal a chadw ymylon ffyrdd wedi'i ddatblygu hefyd i ddiogelu cynefinoedd pwysig drwy dorri rhai ardaloedd yn gynharach neu'n hwyrach yn y tymor er mwyn galluogi rhywogaethau brodorol i ffynnu.

Gallwch roi gwybod am lystyfiant sydd wedi gordyfu a chwyn goresgynnol sy'n:

  • Cuddio arwydd
  • Cyfyngu ar welededd neu welededd gwael
  • Tyfu drosodd/gordyfu

I roi gwybod am hyn, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho
  • Disgrifiad o'r mater

Mae chwyn goresgynnol yn ein hardal yn cynnwys:

  • Clymog Japan
  • Efwr enfawr
  • Jac y Neidiwr
  • Llysiau'r gingroen

Nid ydym yn gyfrifol am:

  • Coed / llwyni sy'n achosi rhwystr o eiddo preifat

Mae perchnogion tai / tirfeddianwyr yn gyfrifol am gynnal a chadw unrhyw goed, gwrychoedd neu lwyni ar briffordd gyhoeddus. Os bydd unrhyw lystyfiant o eiddo preifat yn cyfyngu ar gerddwyr neu'n beryglus i draffig cerbydol, gellir cymryd camau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Byddwn yn rhoi rhybudd i berchnogion ac yn gofyn am eu cydweithrediad wrth docio'r llystyfiant dan sylw. Fodd bynnag, ar ôl i'r rhybudd ddod i ben, gallwn drefnu bod gwaith yn cael ei wneud ac adennill y costau a gafwyd yn rhesymol gan y perchnogion.

RHOI GWYBOD AM LYSTYFIANT WEDI GORDYFU / CHWYN NIWEIDIOL

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio