Rhoi gwybod am lystyfiant wedi gordyfu / chwyn niweidiol
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Mae gennym raglen ar waith ar gyfer torri'r ymylon ffyrdd yn ystod misoedd yr haf sydd wedi'i chynllunio i gynnal diogelwch ffyrdd, sicrhau gwelededd, darparu mannau i gerddwyr allu camu oddi ar y ffordd gerbydau os nad oes llwybrau troed ac i atal rhywogaethau dieisiau rhag ymsefydlu. Mae ein gwaith cynnal a chadw ymylon ffyrdd wedi'i ddatblygu hefyd i ddiogelu cynefinoedd pwysig drwy dorri rhai ardaloedd yn gynharach neu'n hwyrach yn y tymor er mwyn galluogi rhywogaethau brodorol i ffynnu.
Gallwch roi gwybod am lystyfiant sydd wedi gordyfu a chwyn goresgynnol sy'n:
- Cuddio arwydd
- Cyfyngu ar welededd neu welededd gwael
- Tyfu drosodd/gordyfu
I roi gwybod am hyn, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
- Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho
- Disgrifiad o'r mater
Mae chwyn goresgynnol yn ein hardal yn cynnwys:
- Clymog Japan
- Efwr enfawr
- Jac y Neidiwr
- Llysiau'r gingroen
Nid ydym yn gyfrifol am:
- Coed / llwyni sy'n achosi rhwystr o eiddo preifat
Mae perchnogion tai / tirfeddianwyr yn gyfrifol am gynnal a chadw unrhyw goed, gwrychoedd neu lwyni ar briffordd gyhoeddus. Os bydd unrhyw lystyfiant o eiddo preifat yn cyfyngu ar gerddwyr neu'n beryglus i draffig cerbydol, gellir cymryd camau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Byddwn yn rhoi rhybudd i berchnogion ac yn gofyn am eu cydweithrediad wrth docio'r llystyfiant dan sylw. Fodd bynnag, ar ôl i'r rhybudd ddod i ben, gallwn drefnu bod gwaith yn cael ei wneud ac adennill y costau a gafwyd yn rhesymol gan y perchnogion.