Chwyn ymwthiol

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/12/2023

Planhigion ymwthiol y gallech ddod i gysylltiad â nhw yw canclwm Siapan, yr efwr enfawr a’r ffromlys chwarennog, ac maen nhw’n gallu ymledu ac achosi bygythiad difrifol i fioamrywiaeth, yr economi a iechyd pobl.

Mae’r planhigion anfrodorol hyn yn bygwth ein bioamrywiaeth trwy ddisodli rhywogaethau brodorol, a dadsefydlogi glannau afonydd. Maent hefyd yn gallu achosi difrod i sectorau coedwigaeth, amaethyddiaeth a seilwaith. Gall canclwm Siapan, er enghraifft, dyfu drwy’r tarmac ac achosi difrod strwythurol i eiddo, tra bod yr efwr enfawr yn gallu achosi pothelli difrifol a llid ar y croen os deuir hyd yn oed i gysylltiad ysgafn ag ef.

Mae cyfrifoldeb arnoch chi i:

  • atal planhigion ymwthiol, anfrodorol ar eich tir rhag ymledu i dir gwyllt ac achosi niwsans
  • atal chwyn niweidiol ar eich tir rhag ymledu i eiddo cymydog

Mae’n bwysig eich bod chi’n gallu eu hadnabod er mwyn gallu eu rheoli yn y ffordd fwyaf priodol. Mae’r canllawiau isod wedi cael eu cynhyrchu i’ch helpu i adnabod y planhigion hyn a rhoi cyngor ar sut dylen nhw gael eu trin.