Diogelwch a Hylendid bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/10/2018

Ni waeth pa mor dda y mae cynhyrchydd bwyd, weithiau mae pethau'n mynd o le. Yn amlach na pheidio, bydd y cynhyrchydd yn mynd i’r afael â’r materion hyn cyn i’r bwyd gyrraedd y cyhoedd. Gall hyn arwain at hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl, rhybuddion alergedd neu rybuddion perygl bwyd. Ceir nifer o gwynion cyffredin ynghylch bwyd nad ydynt yn achosi perygl o ran iechyd y cyhoedd.

Rydym ond yn ymchwilio i gwynion ynghylch eitemau a brynwyd yn Sir Gaerfyrddin a chwynion yr ystyrir eu bod o bwys i iechyd y cyhoedd sy'n cynnwys:

  • yn anaddas i'w fwyta
  • gallai achosi afiechyd
  • wedi'i halogi gan sylwedd estron

Nid ydym yn ymchwilio i'r materion canlynol, bydd angen i chi gysylltu â'r gynhyrchydd neu'r manwerthwr yn uniongyrchol:

  • Rydych yn anfodlon ar y cynnyrch
  • Rydych eisiau ad-daliad
  • Nid yw'r gŵyn yn fater difrifol, er enghraifft, pridd ar lysiau.
  • Rydych yn ansicr ynghylch ble y’i prynwyd
  • Rydych yn ansicr a ydych wedi storio'r cynnyrch yn briodol.

Cyn cyflwyno'ch cwyn, darllenwch y label a gwiriwch a ydych wedi dilyn y cyfarwyddiadau ac wedi defnyddio'r bwyd o fewn y dyddiad ar y label.

Bydd angen i chi:

  • Cadw’r bwyd
  • Cadw’r holl ddeunydd pacio
  • Rhoi’r bwyd mewn rhewgell
  • Cadw copi o’r dderbynneb
  • Sicrhau bod digon o fwyd ar ôl ar gyfer ei samplu
  • Bod yn barod i roi datganiad tyst
  • Bod yn barod i roi tystiolaeth yn y Llys

Os yw'r gŵyn yn deillio o Sir Gaerfyrddin, byddwn ni'n ymweld â'r safle i ymchwilio i'ch cwyn. Byddwn ni'n edrych ar gyflwr yr ystafelloedd bwyd, yn asesu’r arferion o ran hylendid bwyd, yn cymryd cofnodion o’r tymheredd a, lle bo angen, yn cymryd samplau o fwyd i’w harchwilio. Hefyd, byddwn yn gwirio bod y gwaith papur yn gyfredol. Trafodir unrhyw ganfyddiadau gyda chi, yr achwynydd, a dywedir wrthych a gymerir camau cyfreithiol pellach. Ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, fe’ch hysbysir ynghylch y canlyniad. Wrth wneud cwyn gallwch aros yn ddienw, ond sylwch na allwn gymryd camau ffurfiol heb eich enw a’ch cyfeiriad, na chynnig unrhyw adborth i chi.

Byddwn ond yn ystyried cymryd camau ffurfiol pan fydd y canlynol yn berthnasol:

  • Mae perygl gwirioneddol i iechyd y cyhoedd
  • Nid yw’r cynhyrchydd wedi ein bodloni ni drwy roi amddiffyniad rhesymol ynghylch pam y cafwyd y digwyddiad
  • Mae cadwyn gadarn o dystiolaeth
  • Mae'r cam arfaethedig yn unol â'n Polisi Gorfodi.

Os byddwn ni'n penderfynu cymryd camau ffurfiol, byddwn ni'n gofyn ichi ddarparu datganiad tyst ac yn gofyn a fyddwch chi'n barod i roi tystiolaeth yn y Llys. Os byddwn ni'n penderfynu peidio â chymryd camau ffurfiol, byddwn ni'n rhoi gwybod ichi ac yn gofyn a ydych chi'n dymuno i'ch manylion gael eu rhyddhau i'r cwmni sy'n gyfrifol, a all fod yn dymuno cysylltu â chi yn uniongyrchol yn ei dro.

Yn aml, gall gymryd tipyn o amser i ymchwilio i gwynion am fwyd. Mae'n rhaid i ni roi cyfle i gynhyrchwyr ddarparu esboniad ynghylch sut gallai’r broblem fod wedi digwydd. Os yw'r cynhyrchwyr yn dod o'r tu allan i Sir Gaerfyrddin, bydd yn rhaid i ni hefyd gysylltu â'u hawdurdodau lleol nhw a gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth inni ynghylch y cynhyrchwyr. O ran bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU, bydd yr amserau ymchwilio yn hwy o lawer.

Bydd ein hymchwiliad yn dechrau o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i rywun roi gwybod am y broblem.

Ein blaenoriaeth yw iechyd y cyhoedd, felly ni allwn weithredu ar eich rhan i hawlio iawndal. I ymgymryd â'r broses iawndal, bydd angen i chi ofyn am gyngor annibynnol.

Rhoi gwybod am broblem bwyd