Cŵn mewn safleoedd bwyd
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/10/2024
Mater i weithredwr y busnes bwyd unigol benderfynu arno yw p'un a ddylid caniatáu i gi anwes ddod i rannau cyhoeddus o’r busnes bwyd ai peidio.
Efallai y bydd gan rai busnesau bolisi 'dim anifeiliaid anwes'; efallai y bydd eraill yn croesawu cŵn sy'n ymddwyn yn dda mewn mannau cyhoeddus.
Cŵn cymorth mewn bwyty/caffi
Mae’n hawdd adnabod ci cymorth oddi wrth yr harnais y mae'n ei gwisgo a'r tag arbennig ar ei goler. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori gwneud eithriad fel arfer ar gyfer cŵn cymorth o ganlyniad i’r rhinweddau canlynol:
- cŵn gwaith sydd wedi cael eu hyfforddi'n drylwyr yw cŵn cymorth, nid anifeiliaid anwes.
- ni fydd ci cymorth yn crwydro'n rhydd o amgylch y safle.
- bydd ci cymorth yn eistedd neu'n gorwedd yn dawel ar y llawr wrth ymyl ei berchennog.
- mae cŵn cymorth wedi cael eu hyfforddi i fynd i'r toiled ar orchymyn ac felly'n annhebygol o faeddu mewn man cyhoeddus.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud na chaiff unrhyw un sy’n darparu gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau i’r cyhoedd wrthod darparu ei wasanaeth i berson anabl am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y person hwnnw.
Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth wneud addasiadau rhesymol i unrhyw arfer, polisi neu weithdrefn sy’n ei gwneud yn amhosibl neu’n afresymol o anodd i berson anabl ddefnyddio’r nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau dan sylw.
Mwy ynghylch Iechyd yr Amgylchedd