Gwenwyn carbon monocsid

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/12/2023

Nwy di-liw, di-arogl, di-flas, gwenwynig yw Carbon monocsid (CO), a gynhyrchir wrth losgi tanwydd carbon, megis nwy, olew, pren a glo, yn anghyflawn. Pan na fydd y tanwydd yn llosgi'n iawn, cynhyrchir gormodedd o CO, sy'n wenwynig. Ni allwch ei weld, ei flasu na'i arogli, ond gall CO ladd yn gyflym a di-rybudd. Gall lefelau nad ydynt yn lladd achosi niwed difrifol i iechyd os cânt eu hanadlu i mewn dros gyfnod hir.

Gall symptomau cynnar gwenwyn carbon monocsid (CO) fod yn debyg i symptomau ffliw. Ymhlith y symptomau y dylid bod yn effro iddynt mae:

  • Blinder, teimlo'n gysglyd, pennau tost, pendro, teimlo'n gyfoglyd, chwydu, poenau yn y frest, diffyg anadl, poenau yn y stumog, ymddygiad di-ddal, problemau golwg

Er mwyn atal bod mewn cysylltiad â charbon monocsid:

  • Gofalwch fod unrhyw waith a wneir ar offer nwy yng ngofal gweithiwr sydd wedi'i gofrestru gyda ‘Gas Safe’ ac sy'n alluog i wneud gwaith yn y maes. 
  • Gofalwch fod unrhyw waith a wneir ar uned sy'n rhedeg ar danwydd solet, bio-màs neu bren yng ngofal gweithiwr sydd wedi'i gofrestru gyda ‘HETAS’ ac sy'n alluog i wneud gwaith yn y maes.
  • Rhaid i offer a/neu ffliwiau gael eu gosod a'u gwasanaethu'n rheolaidd gan berson cymwys, i sicrhau eu bod yn ddiogel
  • Gofalwch bob amser fod digon o awyr iach yn yr ystafell lle cedwir eich offer
  • Gofalwch nad oes rhwystr yn y simnai neu'r ffliw, a hefyd nad oes dim yn gorchuddio'r fentiau
  • Trefnwch i rywun cymwys sgubo eich simnai o'r brig i'r gwaelod o leiaf unwaith y flwyddyn
  • Os oes gennych offer sy'n defnyddio tanwydd ffosil eraill, gofalwch eu bod yn cael eu gwasanaethu a'u cynnal gan rywun cymwys
  • Gosodwch synhwyrydd carbon monocsid yn eich cartref.